麻豆官网首页入口

Bebb eisiau 'S4C sefydlog', ond nid y gadeiryddiaeth

Guto Bebb
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Guto Bebb fore Iau na fydd yn gwneud cais i fod yn gadeirydd parhaol S4C

  • Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd dros dro S4C wedi dweud ei bod hi "mor bwysig sicrhau cyfnod sefydlog i S4C wedi cyfnod hynod o heriol".

Mae Guto Bebb, sy鈥檔 gyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, bellach wedi dechrau ar ei waith fel cadeirydd ac ers dydd Llun mae Sioned Wiliam, y prif weithredwr dros dro yn gweithio i鈥檙 sianel yn llawn amser.

Ar raglen Dros Frecwast fore Iau dywedodd Guto Bebb mai鈥檙 bwriad oedd penodi cadeirydd newydd yn fuan, ac fe gadarnhaodd nad oedd ef am geisio am y swydd.

Wrth gael ei benodi yn gadeirydd dros dro ym mis Mawrth nodwyd y byddai Mr Bebb yn parhau yn y r么l tan fis Mawrth 2025 neu tan fod cadeirydd llawn amser yn cael ei benodi.

'Dyddiad cau yr wythnos yma'

鈥淒an ni鈥檔 gobeithio y bydd cadeirydd yn cael ei benodi ymhell cyn [mis Mawrth]," meddai.

"Mae鈥檙 dyddiad cau ar gyfer swydd y cadeirydd ddiwedd yr wythnos yma.

鈥淢ae gen i ddigon o waith i鈥檞 wneud yn fy ngwaith parhaol,鈥 medd Mr Bebb sy鈥檔 rheolwr gyfarwyddwr Gr诺p Undeb Amaethwyr Cymru.

鈥淒wi鈥檔 falch iawn i gamu i鈥檙 adwy dros dro ond 'dan ni angen symud ymlaen i gael cadeirydd llawn amser parhaol ac yna bydd y cadeirydd newydd yn gallu cydweithio gydag aelodau eraill o鈥檙 bwrdd er mwyn symud ymlaen i benodi prif weithredwr parhaol.鈥

Mae Guto Bebb wedi bod yn aelod o fwrdd S4C ers 2021, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at barhau i fod yn aelod o'r bwrdd wedi i gadeirydd parhaol gael ei benodi.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae angen sefydlogrwydd er mwyn i鈥檙 timau creadigol gael gwneud eu gwaith," medd Guto Bebb

鈥淐yfnod pontio ydy hwn," meddai.

"Cyfnod sy鈥檔 rhoi sefydlogrwydd i鈥檙 sianel, cyfnod sy鈥檔 sicrhau bod y staff yn teimlo鈥檔 gyffyrddus ac yn gallu gweithio bob dydd heb boeni am yr hyn sy鈥檔 mynd ymlaen yng nghyd-destun y trafferthion ry鈥檔 ni wedi eu cael.

鈥溾橠an ni ddim angen unrhyw ailadrodd o鈥檙 hyn a nodwyd yn adroddiad Capital Law.

鈥淵n bwysicach na dim mae鈥檙 sefydlogrwydd yna wedyn yn rhoi cyfle i ochr greadigol S4C ddarparu yr hyn y mae gwylwyr eisiau ei weld, sef rhaglenni o safon ar ein sianel genedlaethol ni.

鈥淢ae angen sefydlogrwydd er mwyn i鈥檙 timau creadigol sydd gynnon ni ymhob rhan o Gymru a busnesau sy鈥檔 cefnogi S4C ymhob rhan o Gymru gael gwneud eu gwaith.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r dyddiad cau ar gyfer y swydd o fod yn gadeirydd Awdurdod S4C ddiwedd yr wythnos yma

Wrth gael ei holi a fydd hi鈥檔 dalcen caled i ddenu'r person iawn yn sgil helyntion diweddar, dywedodd Mr Bebb 鈥渆i fod yn gyfle unigryw鈥.

鈥淲edi鈥檙 cyfan mae hi yn sianel sydd yn cael ei chydnabod gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel rhan annatod o ddiwylliant Cymru.

鈥淢ae鈥檔 gyfle i unigolyn sydd eisiau gosod ei stamp ar ddyfodol darlledu yma yng Nghymru - mae鈥檔 gyfle unigryw.

"Dwi yn fawr hyderus y bydd pobl yn edrych ar y cyfle yn hytrach nac edrych ar y misoedd diwethaf."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sioned Wiliam yw prif weithredwr dros dro S4C yn dilyn diswyddiad Si芒n Doyle

'S4C wedi arwain at 1,900 o swyddi'

Yn y cyfamser dywed S4C bod gwaith ymchwil a wnaed ar eu cyfer gan gwmni Wavehill ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 yn dangos bod cyfraniad economaidd y sianel wedi arwain at 1,900 o swyddi a chynhyrchu 拢136m i economi Cymru.

Yn 么l Dyfrig Davies, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru: 鈥淢ae鈥檙 adroddiad hwn yn profi bod S4C yn creu 鈥榞werth da iawn am arian鈥 ac yn creu twf economaidd, mae hefyd yn effeithiol tu hwnt ar gyfer datblygu鈥檙 diwydiannau creadigol a hyrwyddo鈥檙 iaith Gymraeg.

"Fodd bynnag, mae S4C yn wynebu heriau cynyddol wrth i gystadleuaeth am wylwyr a chostau gynyddu.

"Mae angen felly, chwistrelliad ychwanegol o arian cyhoeddus er mwyn cefnogi鈥檙 gwaith hanfodol yma ar gyfer y dyfodol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pwysigrwydd S4C i gynnal y sector yng Nghymru yn gwbl allweddol, medd Guto Bebb

Ychwanegodd Guto Bebb: "Mae鈥檙 ffaith ei bod yn cyfrannu mwy i鈥檙 economi na mae鈥檔 ei dderbyn mewn arian cyhoeddus yn dangos bod defnydd S4C o鈥檙 ffi drwydded yn effeithiol.

鈥淢ae鈥檙 adroddiad yn dangos hefyd bod un o bob saith swydd yn y byd darlledu yng Nghymru yn seiliedig ar gefnogaeth S4C.

"Mae pwysigrwydd S4C i gynnal y sector yng Nghymru yn gwbl allweddol.鈥

'Dan anfantais'

Yn 么l un academydd, mae darlledwyr Cymraeg yn gweithio dan amgylchiadau 鈥渉eriol鈥.

Yn 么l uwch-ddarlithydd ar y cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Elain Price, mae鈥檙 sector gynhyrchu 鈥渄an anfantais鈥 wrth gystadlu 芒 chynyrchiadau ffrydio tra hefyd yn gweithio i gyllideb dynn.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Elain Price wed cyhoeddi llyfr ar hanes cynnar S4C

鈥淢ae鈥檙 adroddiad hefyd yn s么n am y ffaith mai S4C ydy鈥檙 darlledwr mwyaf cost effeithiol hynny ydy bod hi鈥檔 costio llai i S4C i gynhyrchu rhaglenni yn y Gymraeg,鈥 meddai.

鈥淢ae cwmn茂au cynhyrchu yng Nghymru yn gorfod mynd ati i wneud rhaglenni o safon sydd yn mynd i apelio ac sydd yn mynd i ddenu cynulleidfa gyda llai o arian na sianeli eraill maen nhw鈥檔 cystadlu 芒 nhw.

"Felly mae hynny yn heriol i鈥檙 sector gynhyrchu yng Nghymru.鈥

Ychwanegodd Guto Bebb, wrth ymateb i feirniadaeth ddiweddar am ddigwyddiad gan S4C yn Efrog Newydd, fod S4C yn ganolog i sicrhau dyfodol yr iaith.

鈥淢ae yna benderfyniadau yn cael eu gwneud er mwyn codi proffil y sianel, proffil y Gymraeg," meddai.

"Dwi鈥檔 meddwl bod S4C yn cael ei gweld yn ganolog i sicrhau bod yr iaith yn cael ei gweld yn berthnasol ac yn fodern 鈥 felly mae鈥檔 gyfrifoldeb arnon ni bod y gwaith yn cael ei weld."