麻豆官网首页入口

Jess Fishlock: 'Chwaraewr a pherson arbennig'

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Roedd Rhian Wilkinson, rheolwr t卯m p锚l-droed merched Cymru, wedi ei synnu.

Doedd hi methu credu nad oedd pawb yn ymwybodol o Jess Fishlock a鈥檙 hyn y mae hi wedi ei gyflawni yn ystod ei gyrfa.

Wrth gwrs mae hynny, o bosib, yn fwy i'w wneud 芒 statws g锚m y merched yng Nghymru dros y blynyddoedd yn hytrach na Fishlock ei hun.

Ond gyda th卯m merched Cymru bellach yn derbyn sylw ehangach gan y cyfryngau a鈥檙 cyhoedd, mae Fishlock yn derbyn clod haeddiannol o鈥檙 diwedd.

Mae hi bellach wedi ennill mwy o gapiau rhyngwladol, ac wedi sgorio mwy o goliau nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes y g锚m yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jess Fishlock yn gapten ar Gymru mewn g锚m yn erbyn Yr Alban yn 2012

Mae Fishlock wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr ac wedi chwarae ar y lefel uchaf yn yr Unol Daleithiau ers dros ddegawd.

Bellach, mae hi wedi sgorio mwy o goliau dros ei gwlad nag unrhyw chwaraewr arall - gwrywaidd neu fenywaidd.

Roedd hi wedi dod yn gyfartal gyda record Helen Ward o 44 o goliau yn y fuddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Croatia nos Wener ddiwethaf.

Ni fu鈥檔 rhaid iddi aros yn hir i dorri鈥檙 record, wrth iddi sgorio g么l gynnar yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Kosovo yn Llanelli - canlyniad sy'n golygu fod Cymru yn gorffen ar frig eu gr诺p rhagbrofol ar gyfer Euro 2025.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jess Fishlock (chwith yn y rhes gefn) gyda Kath Morgan o'i blaen cyn g锚m Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn 2008

鈥淒yna Jess i chi,鈥 meddai capten Cymru ar y noson, Angharad James.

"Mae hi'n berson a chwaraewr sbesial ac mae hi wedi bod mor bwysig i b锚l-droed menywod yng Nghymru.

"Mae hi'n dal i wneud newidiadau nawr... mae hi'n berson arbennig i gael yn y gr诺p, ac yn leader bob tro mae hi yn rhoi'r crys coch ymlaen.

"Dwi mor falch ei bod wedi torri'r record heno."

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jess Fishlock yn dathlu wedi iddi dorri record goliau Cymru nos Fawrth

Roedd Kath Morgan yn aelod o d卯m sylwebu 麻豆官网首页入口 Radio Cymru ar gyfer y g锚m yn erbyn Kosovo.

Roedd hi hefyd yn nh卯m Cymru pan ymunodd Fishlock gyda鈥檙 garfan ryngwladol am y tro cyntaf yn 2006.

鈥淚 mi mae hi mor arbennig o ran y mathau o goliau mae hi鈥檔 sgorio,鈥 meddai Morgan.

鈥淢ae鈥檙 t卯m yn ddibynnol arni hi 鈥 mae hi wedi sgorio mewn gemau enfawr ac wedi sgorio goliau o safon eithriadol.

"Dwi'n credu byddai unrhyw glwb yn y byd eisiau Jess Fishlock i chwarae iddyn nhw.

"Mae hi wedi teithio Ewrop a'r byd."

Mae Fishlock wedi bod yn chwarae yn yr Unol Daleithiau i Seattle Reign ers 2013 ac wedi profi cryn lwyddiant nid yn unig gyda'i chlwb ond fel unigolyn.

Mae hi hefyd wedi treulio cyfnodau yn Yr Iseldiroedd, Awstralia, Yr Almaen a Ffrainc yn ystod ei gyrfa.

Ond lle bynnag yn y byd fu Fishlock, mae chwarae i Gymru wastad wedi bod yn flaenoriaeth i'r ferch o Gaerdydd.