麻豆官网首页入口

Cyn-AC Plaid Cymru, Owen John Thomas wedi marw

Owen John Thomas a Sian Wyn ThomasFfynhonnell y llun, Rhys ab Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Owen John Thomas a'i wraig Sian Wyn Thomas

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-Aelod Cynulliad, Owen John Thomas, wedi marw yn 84 oed.

Roedd yn aelod Plaid Cymru dros ranbarth Canol De Cymru rhwng 1999 a 2007.

Fe dreuliodd gyfnod hefyd fel llefarydd ei blaid dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd, ac yno fu'n byw a'n gweithio drwy gydol ei oes - yn ymgyrchydd amlwg dros addysg Gymraeg yn y ddinas.

Ysgrifennodd lyfr am hanes yr iaith yng Nghaerdydd ac roedd hefyd yn un o'r rhai a sefydlodd Clwb Ifor Bach ar ddechrau'r 1980au.

Cafodd Mr Thomas ddiagnosis o ddementia yn 2013, a bu'n byw mewn cartref gofal yn y brifddinas ers 2019.

Mae鈥檔 gadael ei wraig Sian, chwech o blant, John, Hywel, Eurwen, Iestyn, Rhodri a Rhys ac 11 o wyrion ac wyresau.

Ffynhonnell y llun, Rhodri ab Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Owen John Thomas a dau o'i feibion, yr efeilliaid Rhodri a Rhys

Dywedodd ei fab Hywel Thomas mewn datganiad ei fod yn "caru Cymru, ei phobl, ei hiaith a'i diwylliant gydag angerdd".

"Cafodd ei ysgogi gan yr awydd i weld Cymru'n cael ei rhyddhau o gyfyngiadau San Steffan ac i bennu ei materion ei hun," meddai.

"Byddai鈥檙 rhai mewn p诺er yn diystyru pobl fel fy nhad fel cynhyrfwyr trafferthus.

"Ond ar ddiwedd y dydd y cyfan a ddymunai erioed i鈥檞 wlad oedd tegwch a鈥檙 pwerau i godi pobl Cymru allan o dlodi a rhoi cyfle iddynt am ddyfodol gwell.

"Araf oedd y cynnydd, llythyr ar 么l llythyr, modfedd wrth fodfedd ond daliodd ati ac ni roddodd y gorau iddi."

Roedd Owen John Thomas yn ei dridegau cynnar yn dysgu Cymraeg, ond aeth yn ei flaen i ymgyrchu yn frwd dros ddarpariaeth addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.

Roedd hefyd yn rhan o'r gr诺p wnaeth godi arian i brynu鈥檙 lesddaliad ar adeilad yn Womanby Street yn 1983, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Clwb Ifor Bach.

'Wedi gadael ei farc'

Ychwanegodd Hywel Thomas fod ei dad yn adnabod strydoedd Caerdydd fel "cefn ei law".

"Roedd ganddo stori bob amser i bob adeilad - y cynteddau a'r lonydd cudd sy'n cysylltu'r Arc锚d Frenhinol i Gapel y Tabernacl a ffasadau hen dai Kingston Court.

"Nid oedd fy nhad erioed wedi blino cerdded trwy strydoedd ac arcedau canol dinas Caerdydd, gan stopio a sgwrsio 芒 phobl ar hyd y ffordd - weithiau'n rhwystredig i mi a'm brodyr a鈥檓 chwaer.

"Daeth y clefyd Alzheimer鈥檚 creulon i gymryd ei lais yn y pen draw, ond mae wedi gadael ei farc ar ei wlad, ei phrifddinas a鈥檙 iaith Gymraeg.

"Roedd fy nhad yn ddyn angerddol dros ei ddaliadau. Bydd ei ysbryd yn parhau yn strydoedd ac adeiladau'r ddinas yr oedd yn ei hadnabod mor dda ac yn ei charu cymaint."

'Cyfraniad sylweddol'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth mewn datganiad: "Ar ran Plaid Cymru rwy鈥檔 estyn ein cydymdeimlad dwysaf 芒 theulu a chyfeillion Owen John Thomas.

"Rydym yn ei gofio fel ymgyrchydd brwd a lladmerydd diflino dros Y Gymraeg a Chymreictod yng Nghaerdydd.

"Gwnaeth gyfraniad sylweddol nid yn unig i鈥檞 gymuned ond i Blaid Cymru hefyd.

"O ymgyrchu dros hawliau pensiynwyr Allied Steel and Wire ac addysg Gymraeg yn y brifddinas i chwarae rhan yn llunio strategaeth Plaid Cymru wedi refferendwm 1979 - gwnaeth gyfraniad sylweddol i wleidyddiaeth Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol."