Cweir o 4-0 i Gymru yn Slofacia mewn g锚m siomedig arall

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Collodd Cymru 4-0 i Slofacia nos Sul

Fe roddodd Slofacia gweir o 4-0 i Gymru mewn g锚m gyfeillgar i gynyddu'r pwysau ar y rheolwr Rob Page.

Ar 么l g锚m gyfartal rwystredig yn erbyn Gibraltar ddydd Iau, roedd golwg mwy cyfarwydd i'r t卯m a gamodd allan yn y Stadion Antona Malatinskeho nos Sul.

O'r 11 ifanc ac arbrofol a gychwynnodd ym Mhortiwgal, dim ond pedwar a ddechreuodd yn Trnava - Ben Cabango, Josh Sheehan, Jay Dasilva a Fin Stevens.

Fe gafodd Cymru gyfnodau da yn yr hanner cyntaf, ond fe ildiodd yr ymwelwyr eiliadau cyn yr egwyl i dynnu'r gwynt o hwyliau'r Cymry.

Fe ildiodd Cymru dair g么l arall yn yr ail hanner, gan gynnwys pedwaredd yn symudiad olaf y g锚m i rwbio'r halen yn y briw.

Mewn cyfweliad gyda Sgorio ar S4C ar ddiwedd y g锚m fe ddywedodd Page ei fod yn ymddiheuro i'r cefnogwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd g么l Slofacia ei diystyru am gamsefyll yn yr hanner cyntaf

Yn camu'n 么l o'i safle arferol yng nghanol y cae i'r amddiffyn, Ethan Ampadu gafodd ei ddewis fel capten.

Roedd yr hanner cyntaf yn agored gyda chyfnodau da i Slofacia dros y 30 munud gyntaf, gan gynnwys g么l gan David Hancko a gafodd ei diystyru am gamsefyll ar 么l 24 munud.

Fe dyfodd Cymru i fewn i'r g锚m ar 么l hanner awr, yn ennill tair cic gornel yn gyflym.

Er y cyfnod estynedig o bwysau da gan Gymru tuag at ddiwedd yr hanner, bu'n 45 munud cyfforddus i'r golwr D煤bravka.

Ac roedd hi'n argoeli'n hanner boddhaol i Gymru hefyd tan i Juraj Kucka saethu o 25 llath heibio Ward eiliadau cyn i'r dyfarnwr chwythu ei chwiban.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ben Cabango gafodd ei enwi yn seren y g锚m gan sylwebydd Sgorio, Owain Tudur Jones

Roedd Cymru o dan bwysau o ddechrau'r ail hanner, yn ildio ail g么l, tro yma o gic cornel gan Bo啪en铆k ar 么l 56 munud.

Daeth y drydedd munudau'n ddiweddarach pan darodd y b锚l Ethan Ampadu yn dilyn croesiad.

Camodd Brennan Johnson a Nathan Broadhead oddi ar y cae ar 么l awr i wneud lle am Lewis Koumas a Wes Burns.

Yn fuan fe gafodd Burns un o gyfleoedd gorau Cymru ond aeth yr ergyd yn syth at D煤bravka.

Roedd Slofacia yn llwyr reoli'r chwarae ac yn dilyn camgymeriad gan Ampadu fe sgoriodd yr eilydd L谩szl贸 B茅nes bedwaredd eiliadau cyn y chwiban olaf.

Beth nesaf?

Bydd gemau cystadleuol nesaf Cymru ym mis Medi yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ar 么l disgyn o'r brif haen yn 2022, mae Cymru wedi eu rhoi mewn gr诺p gyda Gwlad yr I芒, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair B.