麻豆官网首页入口

Gemau Paralympaidd: Aur i Jodie Grinham yn y saethyddiaeth

Nathan Macqueen a Jodie GrinhamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Nathan Macqueen a Jodie Grinham drechu Iran yn y rownd derfynol

  • Cyhoeddwyd

Mae Jodie Grinham o Sir Benfro wedi ennill medal aur yn y saethyddiaeth (archery) yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis.

Roedd Grinham, sydd saith mis yn feichiog, yn cystadlu gyda'i phartner Nathan Macqueen i Brydain yng nghystadleuaeth y parau cymysg.

Fe lwyddon nhw i drechu Iran o 155-151 yn y rownd derfynol nos Lun.

Dyma'r ail fedal i Grinham yn y gemau, wedi iddi ennill efydd yn y gystadleuaeth unigol ddydd Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig