麻豆官网首页入口

Robbie Savage wedi'i benodi'n rheolwr Macclesfield

Robbie SavageFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Robbie Savage, 49, yn gyfranddaliwr yng nghlwb Macclesfield

  • Cyhoeddwyd

Mae Robbie Savage wedi cael ei benodi'n rheolwr ar Glwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Macclesfield yn seithfed haen cynghreiriau Lloegr.

Mae Savage, a enillodd 39 cap i Gymru, yn gyfranddaliwr yn y clwb, a bydd yn cymryd yr awenau yn dilyn diswyddiad Michael Clegg.

Roedd Savage, 49, wedi bod yn gyfarwyddwr p锚l-droed gyda鈥檙 clwb ers iddo gael ei sefydlu yn 2020.

Cafodd y clwb newydd ei sefydlu wedi i hen glwb y dref - Macclesfield Town - fynd i'r wal.

Mae cyn-ymosodwr Lerpwl, Emile Heskey hefyd wedi ymuno 芒 Macclesfield, ond does dim awgrym eto ym mha r么l.

Savage ydy seithfed rheolwr y clwb ers 2020.

Mae Macclesfield yn chwarae yn y Northern Premier League - y seithfed haen yn Lloegr.