Robbie Savage wedi'i benodi'n rheolwr Macclesfield

Ffynhonnell y llun, Rex Features

Disgrifiad o'r llun, Mae Robbie Savage, 49, yn gyfranddaliwr yng nghlwb Macclesfield

Mae Robbie Savage wedi cael ei benodi'n rheolwr ar Glwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Macclesfield yn seithfed haen cynghreiriau Lloegr.

Mae Savage, a enillodd 39 cap i Gymru, yn gyfranddaliwr yn y clwb, a bydd yn cymryd yr awenau yn dilyn diswyddiad Michael Clegg.

Roedd Savage, 49, wedi bod yn gyfarwyddwr pêl-droed gyda’r clwb ers iddo gael ei sefydlu yn 2020.

Cafodd y clwb newydd ei sefydlu wedi i hen glwb y dref - Macclesfield Town - fynd i'r wal.

Mae cyn-ymosodwr Lerpwl, Emile Heskey hefyd wedi ymuno â Macclesfield, ond does dim awgrym eto ym mha rôl.

Savage ydy seithfed rheolwr y clwb ers 2020.

Mae Macclesfield yn chwarae yn y Northern Premier League - y seithfed haen yn Lloegr.