麻豆官网首页入口

Ydy Gabriel Batistuta yn siarad Cymraeg?

Gabriel BatistutaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynrychiolodd Gabriel Batistuta ei wlad - Yr Ariannin - 78 o weithiau rhwng 1991 a 2002

  • Cyhoeddwyd

Mae si ar led wedi bod am flynyddoedd fod un o chwaraewyr mwyaf t卯m p锚l-droed Yr Ariannin, Gabriel Batistuta, yn siarad Cymraeg, ac mae'r gohebydd chwaraeon, Gareth Rhys Owen yma i ddistewi'r celwydd yma unwaith ac am byth!

鈥淧wy oedd y siaradwr Cymraeg diwethaf i sgorio g么l yn Wembley?鈥

Roedd ein t卯m cwis ni yn gwybod yr ateb, sef Iwan Roberts, a dyna a gyflwynwyd i鈥檙 t卯m ar y bwrdd drws nesaf i鈥檞 farcio.

Munudau yn ddiweddarach roedd cwis blynyddol Clwb Rygbi Cydweli wedi troi鈥檔 ffradach llwyr wedi i鈥檙 cwisfeistr ddarllen yr atebion

鈥...a鈥檙 ateb i gwestiwn 8: Graham Gooch. Iawn, cwestiwn 9 - Pwy oedd y siaradwr Cymraeg diwethaf i sgorio g么l yn Wembley? Na 'Quiz Teamer Aguilera', nid John Hartson, anghywir 'University Challenged', dim Iwan Roberts鈥 Yr ateb yw:

"...Gabriel Batistuta!鈥

Cafodd protestiadau ein t卯m ni eu gwrthod a chafon ni鈥檔 gwahardd o Gwis Mawr y Flwyddyn 2005 am wrthod derbyn bod Gabriel Batistuta yn siarad Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gabriel Batistuta yn dathlu ar 么l sgorio g么l dyngedfennol i Fiorentina yn erbyn Arsenal yn Nghynghrair y Pencampwyr UEFA yn Wembley n么l yn Hydref 1999

'Angel Gabriel' yn siarad iaith y nefoedd?

I ddileu unrhyw ansicrwydd, dyw cyn-ymsodwr yr Ariannin, Gabriel Batistuta, ddim yn siarad Cymraeg. Does ganddo fe ddim cysylltiadau Cymreig o gwbl.

Gwglwch Batistuta Welsh Speaker ac mae yna ddigonedd o ffynonellau yn awgrymu ei fod e鈥檔 medru iaith y nefoedd, ond fe alla鈥檌 gadarnhau gant y cant nad yw鈥檔 gallu.

Y gwirionedd oedd bod stori wrach o鈥檙 fath yn medru bodoli yn y dyddiau cyn bod y we yn rhoi atebion cadarnhaol naill ffordd neu鈥檙 llall.

Pam felly bod y mytholeg yma yn bodoli? Yr ateb amlwg yw cysylltiadau Cymru 芒鈥檙 Ariannin drwy鈥檙 Wladfa.

Yr eironi mwyaf yw i Batistuta gael ei fagu yn nhalaith Santa Fe sydd ben arall y wlad i Batagonia.

"Chwarddodd e yn fy wyneb"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gabriel Heinze yn chwarae in Manchester United yn 2005 - Archentwr arall sydd 芒 dim gwaed Cymreig, er mawr siom i newyddiadurwyr

Nid Batistuta oedd yr unig Archentwr i ddenu'n sylw ni yng Nghymru. Tua鈥檙 un cyfnod 芒鈥檙 cwis yng Nghydweli fe anfonodd gohebydd o adran Chwaraeon 麻豆官网首页入口 Cymru e-bost i glwb Manchester United i ofyn i鈥檙 amddiffynnwr Gabriel Heinze a oedd e鈥檔 medru siarad Cymraeg.

Cafodd Heinze ei fagu yn nhalaith Entre Rios sy' ychydig yn agosach i鈥檙 Wladfa na Santa Fe, ond nid llawer agosach. O fewn diwrnod fe ddaeth ateb gan y clwb:

鈥淔e es i鈥檙 holl ffordd i鈥檙 sesiwn ymarfer i ofyn i Gabriel fy hun a fe chwarddodd e yn fy wyneb.鈥

Dyna gau pen y mwdwl ar honno hefyd.

Chwilota am ryw gysylltiad Cymreig...

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Archentwr, Eduardo Sepulveda yn reidio yn y Tour de France. Tybed a sylwodd ar y ddraig goch yn cyhwfan gerllaw?

Mae yna ambell i helfa i鈥檙 Wladfa wedi bod ychydig yn fwy llewyrchus. Cafodd y beiciwr Eduardo Sepulveda ei eni a鈥檌 fagu yn Rawson ar gyrion Trelew. Fe gysylltais gyda fe yn gwedd茂o am ragor o waed Cymreig i'w ddilyn yn y Tour a鈥檙 Giro d'Italia:

鈥淓r nad oes gen i deulu Cymreig a dwi ddim yn siarad Cymraeg dwi鈥檔 ymwybodol o鈥檙 diwylliant ac yn teimlo hunaniaeth gyda鈥檙 bobl. Er mai Archentwr ydw i, mae鈥檙 cysylltiadau gyda Chymru yn gryf yma.鈥

Mae鈥檙 ateb o鈥檙 fath yn codi calon ac yn cadarnhau bod hi wastad yn werth holi.

Ac os ga鈥檌 gynnig un darn o gyngor i chi: Peidiwch 芒 gwastraffu鈥檆h amser yn anfon e-byst i glybiau p锚l-droed yn India yn holi os oes gan Alwyn George gysylltiadau 芒 Chymru. Mae e mor Gymreig 芒 Gabriel Heinze...