麻豆官网首页入口

Torri record gneifio ym Machynlleth

MEIRION
  • Cyhoeddwyd

Ar ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf, cafodd record gneifio ei chwalu yn Llanwrin ar gyrion Machynlleth.

Mewn naw awr o gneifio fe gneifiodd Meirion Evans 791 o ddefaid, ac drwy wneud hynny fe dorodd record Ynysoedd Prydain.

Dechreuodd y g诺r 25 oed am bump y bore, gan gneifio tan bump yn y prynhawn, gyda chyfres o gyfnodau o seibiant.

'Dipyn bach o boen cefn'

Felly, sut mae Meirion yn teimlo cwpl o ddyddiau wedi'r her? 鈥淒wi鈥檔 teimlo鈥檔 well na o鈥檔 i鈥檔 feddwl fyswn i i ddweud gwir 鈥 dipyn bach o boen cefn, ond dim rhy ddrwg."

Dywed Meirion mai gwaelod y cefn, y breichiau a'r garddynau sydd fwyaf poenus yn dilyn sesiynau hir yn cneifio.

Gan yr oedd yn dechrau'r her am bump y bore roedd rhaid i Meirion wneud yn siwr bod y corff yn cael digon o orffwys.

鈥淓s i i鈥檙 gwely noson cynt tua 9.30pm a nes i gysgu鈥檔 well na beth o鈥檔 i鈥檔 ddisgwyl."

Disgrifiad,

Gwaith paratoi

Roedd yr her yn Llanwrin yn dilyn misoedd o waith paratoi i Meirion - yn gorfforol ac hefyd wrth reoli'r maeth roedd yn ei fwyta.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 trio gwneud 300-400 o ddefaid y sesiwn yn gynnar yn y tymor, ac oedd gen i personal trainer ers Hydref.

"Dwi鈥檔 mynd i鈥檙 gym tua pum gwaith yr wythnos, ac wedi newid tipyn ar y deiet ers dod n么l o Seland Newydd mis Chwefror 鈥 yn torri allan bara a pasta a petha fel 鈥榥a, a chwrw hefyd.

鈥'Nes i stopio cneifio rhyw wythnos cyn mynd am y record, jest gwneud rhyw awr neu ddwy er mwyn cadw鈥檙 cyhyrau fynd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Meirion wedi bod allan yn Seland Newydd yn cneifio ar saith achlysur 鈥 yn mynd diwedd Tachwedd a dod nol ganol Chwefror neu dechrau Mawrth.

Cymro arall oedd gan y record flaenorol - fe gneifiodd Nicky Beynon 670 o ddefaid mewn naw awr yn 2003.

鈥淢ae lot wedi newid ers hynny, fel y wool weight ac ati 鈥 lle mae rhaid pwyso鈥檙 gwl芒n cyn gwneud y record," esboniai Meirion.

"Doedd 鈥榥a neb wedi trio鈥檙 record yn ddiweddar oherwydd y rheol ar bwysa鈥檙 gwl芒n, ond fe 'nathon nhw ostwng y pwysau rhyw ddwy flynedd yn 么l, felly wedi hynny mae鈥檔 bosib ffeindio鈥檙 defaid i fynd am y record.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhywfaint o'r dorf oedd yno'n cefnogi Meirion

Cawodydd a massages

Gyda'r her yn ymestyn dros oriau roedd rhaid i Meirion ffeindio ffyrdd i gadw'r corff rhag gorboethi a'r cyhyrau rhag gorflino.

鈥淵 pedwerydd run oedd yr anodda鈥," meddai Meirion.

"Es i fewn i鈥檙 cawod ac o鈥檔 i鈥檔 chwil braidd, ddim yn si诺r iawn ble o鈥檔 i. Ond ges i rhyw chwarter awr i ddod at fy hun ac o鈥檔 i'n iawn.鈥

鈥淥鈥檔 i鈥檔 cael cawod ar 么l bob br锚c a rhyw massages bach 鈥 'nes i drio cael cawodydd oer i ddechrau ond cal rhai cynnes wedyn!"

Fe wnaeth Meirion y sialens ar fferm Hendreseifion yn Llanwrin, rhyw bedair milltir i'r gogledd o Fachynlleth.

鈥淣es i s么n iddyn nhw bo fi鈥檔 mynd am y record - mae hi鈥檔 fferm reit hwylus i gario defaid yna, ac mae 鈥榥a ddigon o le i bobl barcio felly鈥檔 leoliad ideal ar gyfer hyn.鈥

Roedd y fferm yn un addas i ddal gymaint o dorf hefyd.

鈥淥鈥檔 i byth yn disgwyl gymaint o bobl i fod yno. 鈥楴es i鈥檓 edrych i fyny鈥檔 iawn tan tua鈥檙 diwedd ac o鈥檔 i wedi鈥檔 synnu gweld gymaint o bobl yno i ddweud gwir."

Sut 'nath Meirion ddathlu torri'r record? 鈥淕es i beint o gwrw, odd yn bach yn sioc i'r system achos dwi ddim yn meddwl odd fy nghorff i 'di arfer efo fo, ond o鈥檔 i'n iawn wedi hynny.鈥

Mynd am record arall?

Ag yntau ond newydd dorri'r record mae Meirion yn edrych mlaen at y cyfle i geisio ei dorri unwaith eto.

鈥淕ennai awydd rhoi ambell i go arall ar y record dwi newydd dorri.鈥

Ni fydd Meirion yn cystadlu yn Y Sioe Fawr y flwyddyn yma gan mai'r record oedd ei brif ffocws am eleni.

鈥淔ydda i ddim yn y Sioe 鈥 mae鈥檙 haf 鈥榙i bod mor brysur yn paratoi at y record, felly gai gyfle i gael ambell gwrw yn y Sioe.鈥

Beth sy鈥檔 gwneud cneifiwr da yn 么l Meirion?

鈥淩haid ti fod yn mwynhau鈥檙 job, teimlo鈥檔 angerddol i'w wneud, gweithio鈥檔 galed a ffitrwydd.鈥

Mae'n siwr y cawn glywed eto am hanes Meirion yn rhoi'r agweddau yna ar waith i dorri record arall yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Meirion Evans

Pynciau cysylltiedig