麻豆官网首页入口

Teulu o Landeilo'n teithio i America i weld yr eclips

EvanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Evan Griffiths o Landeilo wedi teithio i Evansville, Indiana gyda'i deulu i weld yr eclips ar ei ben-blwydd

  • Cyhoeddwyd

I Evan Griffiths o Landeilo dim ond un lleoliad ar wyneb y ddaear oedd yn addas ar gyfer dathlu ei ben-blwydd yn 17 -聽Evansville yn nhalaith Indiana yn yr Unol Daleithiau.

Tra'n ymchwilio arlein i eclips yr haul - y ffenomenon seryddol sy'n digwydd bob rhyw 18 mis ond mewn lleoliadau gwahanol ar draws y byd - dyma Evan yn sylweddoli fod ei ben-blwydd a'r eclips yn digwydd ar yr un diwrnod.

Ond doedd dim modd iddo fwynhau'r profiad yn Llandeilo gan fod llwybr yr eclips cyflawn ond yn ymestyn o Fecsico i Newfoundland, gan dywyllu sawl tref a dinas ar hyd y daith - gan gynnwys Evansville.

Mae'r teulu eisoes wedi serennu ar un o raglenni newyddion y dalaith, a'r criw wedi addo ffilmio'r teulu o Gymru - Evan, ei fam Cathrin, a'i frawd Llewellyn, 13, yn rhyfeddu ar yr eclips.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Evan wedi teithio gyda'i fam Cathrin, a'i frawd Llewellyn

"O'n i鈥檔 credu fod e鈥檔 anhygoel, achos fydd e byth yn digwydd eto, felly ro'dd rhaid i mi fod yma yn Evansville," meddai Evan ychydig oriau cyn yr eclips.

Yn 么l ei fam, mi wnaeth hi gytuno i'r daith ar 么l i Evan ofyn droeon.

"Dyma ni wedi teithio o Sir G芒r i Evansville ar 么l i Evan gymryd wythnosau yn gofyn i fi fynd ar yr antur yma oherwydd bod y solar eclipse ar ei ben-blwydd, ac yn digwydd yn Evansville.

"I Evan mae'n fwy pwysig iddo fod yma. Mae'r eclips yn fonws. Roedd e jest eisiau bod yma."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r teulu eisoes wedi serennu ar un o raglenni newyddion Indiana

Ar 么l cyrraedd Evansville, aeth y teulu i swyddfeydd y cyngor i gael sbectol arbennig i weld yr eclips.

O sylwi ar eu hacen dyma staff y cyngor yn rhoi'r stori ar eu tudalen Facebook, a dyna sut ddaeth y teulu at sylw'r sianel newyddion.

Yn 么l Evan roedd bod ar y teledu yn America yn swreal.

"O'n nhw methu gweud enw Llandeilo ac i mi mae'n incredible i fod ar newyddion yma, a nawr ni ar y newyddion yng Nghymru," meddai.

Ar 么l dechrau gwael i'w gwyliau o ran y tywydd, roedd y prynhawn cyn yr eclips yn braf ac yn addo'r gorau.

"Pan gyrhaeddon ni roedd gwynt a glaw ac o'n i鈥檔 meddwl bo' ni wedi dod 芒'r tywydd o Gymru," meddai Evan.

"Ond nawr mae'r tywydd lot gwell."

Pynciau cysylltiedig