麻豆官网首页入口

Swyddog S4C yn rhagweld diwedd gwylio teledu llinol

Geraint EvansFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Geraint Evans mai "cyfres o apiau fydd gyda ni yn y pendraw"

  • Cyhoeddwyd

Gallai gwylio sianeli fel S4C ar ap yn unig fod yn norm erbyn canol y degawd nesaf wrth i gyfnod teledu llinol traddodiadol ddirwyn i ben, medd cyfarwyddwr strategaeth cynnwys y sianel.

Yn 么l Geraint Evans, maen nhw鈥檔 symud fwyfwy tuag at gynnwys ar gyfer platfformau digidol gyda鈥檙 newid hwnnw mewn golwg.

Mewn sgwrs ar faes yr Eisteddfod, fe gadarnhaodd penaethiaid y sianel fod unrhyw raglenni gyda Huw Edwards wedi cael eu tynnu oddi ar eu gwasanaethau bellach.

Doedd y cyn-ddarlledwr ddim yn gyflogedig gan y sianel, meddai Mr Evans, a doedd y datblygiadau heb effeithio ar unrhyw raglenni oedd ganddyn nhw ar y gweill.

'Rhaid symud gyda'r oes'

Wrth siarad ar stondin S4C, bu uwch swyddogion y sianel yn trafod y cynnydd blynyddol maen nhw鈥檔 ei weld yn y niferoedd sy鈥檔 gwylio ar-alw ac ar blatfformau digidol, yn hytrach na thrwy鈥檙 sianel deledu.

Er bod 鈥渢ua 80% o bobl yn dal i ddod atom ni drwy deledu llinol鈥, meddai Mr Evans, "mae鈥檔 rhaid iddyn nhw ddilyn arferion newydd a chyhoeddi eu rhaglenni 鈥渁r y platfformau mae pobl yn eu defnyddio鈥.

Mae hynny bellach yn cynnwys, er enghraifft, cyhoeddi llawer o raglenni Hansh ar YouTube yn gyntaf, cyn eu dangos yn amserlen y sianel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淏ydd y switch off i deledu llinol yn digwydd ar ryw bwynt,鈥 meddai Geraint Evans

鈥淏ydd y switch off i deledu llinol yn digwydd ar ryw bwynt,鈥 meddai Mr Evans.

鈥淢ae鈥檔 rhaid i ni symud gyda鈥檙 oes.鈥

Ychwanegodd bod 鈥渄egawd cyn ein bod ni鈥檔 symud i鈥檙 cyfeiriad yna鈥, ond fod S4C eisoes yn gwneud gwaith ymchwil er mwyn manteisio鈥檔 fwy ar algorithmau platfformau digidol yn y blynyddoedd i ddod.

鈥淐yfres o apiau fydd gyda ni yn y pendraw, nid pedwar botwm fel oedd rhai ohonon ni鈥檔 arfer gwylio鈥檙 teledu 鈥榮lawer dydd,鈥 meddai.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae unrhyw gynnwys gydag Huw Edwards ynddo wedi ei dynnu oddi ar eu sianel YouTube a phlatfformau cymdeithasol eraill

Un arall o鈥檙 pynciau trafod oedd y cyn-ddarlledwr Huw Edwards, a blediodd yn euog yr wythnos ddiwethaf i gyhuddiadau o greu delweddau anweddus o blant.

Ers hynny mae llu o gyrff cyhoeddus wedi bod yn adolygu eu perthynas ag ef, gan gynnwys Yr Orsedd sydd wedi dechrau camau yr wythnos hon i鈥檞 ddiarddel.

Mae鈥檙 麻豆官网首页入口 hefyd wedi tynnu rhai rhaglenni oddi ar iPlayer, ac S4C wedi gwneud yr un peth.

鈥淢ae鈥檔 stori ofnadwy o drist, a鈥檔 meddyliau ni yn gyntaf wrth gwrs yn mynd at y plant a鈥檙 rheiny sydd wedi dioddef,鈥 meddai Sioned Wiliam, prif weithredwr dros dro S4C.

Ychwanegodd Mr Evans bod unrhyw gynnwys gydag Huw Edwards ynddo wedi ei dynnu oddi ar eu sianel YouTube a phlatfformau cymdeithasol eraill, er y byddan nhw鈥檔 parhau i fod yn yr archif.

鈥淒y鈥檔 ni ddim yn darlledu unrhyw beth arall sy鈥檔 ei gynnwys e,鈥 meddai.

'Adeiladu pontydd gyda'r sector a staff'

Mae S4C eu hunain wedi bod dan y chwyddwydr yn ddiweddar hefyd, gyda鈥檙 cadeirydd dros dro Guto Bebb yn dweud ei fod yn 鈥渆mbaras鈥 fod y sianel wedi gorfod gwario 拢500,000 ar ymchwiliad i honiadau o fwlio.

Dywedodd Ms Wiliam bod S4C wedi parhau i ddarparu 鈥渞haglenni o鈥檙 safon uchaf... drwy鈥檙 cyfnod heriol鈥.

Nid nhw oedd yr unig gwmni i fod yn delio gyda sialensiau o鈥檙 fath, meddai, ond maen nhw nawr yn canolbwyntio ar 鈥渁deiladu pontydd gyda鈥檙 sector a staff鈥 unwaith eto.

Ychwanegodd Mr Evans y byddai 鈥渘eb wedi dewis gwario 拢500,000 o arian S4C ar hyn... oni bai bod rhaid鈥.

Pynciau cysylltiedig