Mam wedi'i chyhuddo mewn cysylltiad 芒 marwolaeth ei mab

Disgrifiad o'r llun, Mae mam, taid a nain Ethan Ives Griffiths bellach wedi'u cyhuddo mewn cysylltiad 芒'i farwolaeth yn Awst 2021

Mae mam o'r Wyddgrug wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad 芒 llofruddiaeth ei mab dyflwydd oed.

Mae Shannon Kayleigh Ives, 27, wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiat谩u Ethan Ives Griffiths i ddioddef niwed corfforol difrifol.

Bu farw Ethan yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl ar 么l dioddef anaf i'w ben ym mhentref Garden City yn Sir y Fflint ym mis Awst 2021.

Mae ei daid a'i nain, Michael Ives, 46, a Kerry Ives, 45, eisoes wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o'i lofruddio, ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.

Fe wnaeth Shannon Ives ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Iau wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiat谩u i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol, ac achosi camdriniaeth neu esgeulustod plentyn gan achosi anaf neu ddioddefaint diangen.

Cafodd ei rhyddhau ar fechn茂aeth amodol tan ei hymddangosiad llys nesaf ganol Mai.