麻豆官网首页入口

Achos Neil Foden: Galw am ystyried ymchwiliad cyhoeddus

Beca Brown
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cynghorydd Beca Brown yn dweud ei bod yn cadw "meddwl agored am y posibilrwydd o ymchwiliadau pellach"

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd wedi dweud ei bod yn poeni am "gyfyngiadau" Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol fydd yn gweld pa wersi sydd i鈥檞 dysgu o achos Neil Foden.

Mae Beca Brown yn aelod cabinet dros addysg ers 2022 ac yn dweud ei bod yn "llwyr groesawu'r adolygiad", ond ei bod hi鈥檔 cadw "meddwl agored am y posibilrwydd o ymchwiliadau pellach".

Dyma鈥檙 tro cyntaf ers i Foden gael ei arestio i rywun siarad yn gyhoeddus ar ran Cyngor Gwynedd.

Cafodd ei ddedfrydu i 17 mlynedd o garchar ddydd Llun am gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru sy鈥檔 gyfrifol am waith yr adolygiad ac mae datganiad ganddyn nhw鈥檔 egluro nad ydy鈥檙 adolygiad yn rhan o "brosesau troseddol/ymchwilio" ac mai鈥檙 bwriad ydy "nodi pa wersi y gellir eu dysgu".

Fel rhan o鈥檙 adolygiad, bydd cadeirydd annibynnol yn trafod gyda phanel o uwch reolwyr o wahanol asiantaethau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 achos.

Bydd disgwyl i鈥檙 panel "gasglu gwybodaeth" er mwyn creu "llinell amser o ddigwyddiadau".

Mewn cyfweliad 芒 rhaglen Newyddion S4C mae Beca Brown, cynghorydd Llanrug, yn dweud ei bod yn poeni am gyfyngiadau'r adolygiad presennol.

"Does 'na ddim modd gorfodi tystion, gorfodi tystiolaeth a fasa pobl ddim yn cyfrannu ar lw," meddai.

"Ond mi faswn i'n disgwyl, wrth gwrs, y bydd pawb sy鈥檔 cael eu galw - pawb sy鈥檔 cael eu gwahodd i gyfrannu i鈥檙 adolygiad - yn gneud hynny yn llawn ac yn llwyr gydweithredol."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Neil Foden ei ddedfrydu i 17 mlynedd dan glo

Mae Beca Brown yn dweud bod angen ystyried mwy nag un ymchwiliad ac "un cyhoeddus o bosib".

Dywedodd: "Petai Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Plant neu unrhywun arall yn teimlo bod angen ymchwiliadau pellach - ehangach na鈥檙 un sydd ganddo ni r诺an - mi faswn i wrth gwrs yn croesawu hynny鈥檔 llwyr ac yn dymuno hynny i fod yn onest."

Mewn datganiad dywedodd cadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, Jenny Williams, fod yr adolygiad yn "gyfle pwysig i adolygwyr annibynnol gasglu a dadansoddi鈥檙 holl wybodaeth".

"Bydd yr adroddiad hwn yn amlygu鈥檙 pethau a ddysgwyd o鈥檙 achos, meysydd o arferion da ac argymhellion i wella ymarfer diogelu i鈥檙 dyfodol," meddai.

"Mae鈥檔 gam hanfodol i ddiogelu plant diamddiffyn yng ngogledd Cymru."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd pryderon am Neil Foden eu codi gyda phennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson, yn 2019

Daeth i鈥檙 amlwg yn ystod achos Foden fod nifer o bobl wedi codi pryderon ynglyn 芒鈥檌 agosatrwydd 芒 Phlentyn E yn 2019.

Cafodd y rhain eu codi gyda phennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson mewn ebost.

Yn yr achos yn erbyn Foden, dywedodd Mr Jackson wrth y llys ei fod wedi cysylltu gydag uwch swyddog lles ac wedi rhannu manylion yr achos, ond cafodd wybod nad oedd angen cynnal ymchwiliad ffurfiol am nad oedd unrhyw gyhuddiad penodol wedi cael ei wneud.

Er hynny, fe gafodd Mr Jackson gyngor i gael "sgwrs ddifrifol" gyda Mr Foden gan ei atgoffa 鈥渙'r angen i gadw pellter addas鈥 gyda phobl ifanc.

Esboniodd fod Foden wedi dweud wrtho fod y pryderon yn "or-ddramatig" ac fe fynnodd nad oedd unrhywbeth amhriodol wedi digwydd.

'Pryder mawr'

Dywedodd Mr Jackson wrth y llys nad oedd ganddo gofnod ysgrifenedig o鈥檙 trafodaethau hyn oni bai am yr e-bost gwreiddiol.

Fe ddywedodd y barnwr Rhys Rowands, fod hynny yn 鈥渂ryder mawr鈥.

"Dwi鈥檔 cymryd ei eiriau fo [y barnwr] efo鈥檙 difrifoldeb mwya'," meddai Beca Brown.

"Dwi鈥檔 derbyn fod y chwyddwydr yn mynd i fod bob man mae o angen bod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Foden ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol

Gyda Neil Foden bellach dan glo, mae nifer wedi bod yn gofyn sut y gallai un o benaethiaid amlycaf Cymru fod wedi gallu cyflawni troseddau o鈥檙 fath.

"Does 'na ddim byd pwysicach na mynd at wraidd beth sydd wedi digwydd fan hyn," meddai Beca Brown.

"Mae鈥檙 merched a phob un rhiant yng Ngwynedd yn haeddu gwybod fod pob carreg yn cael ei throi.

"Dwi鈥檔 llwyr ymwybodol o鈥檙 teimlada' sydd allan 'na yng Ngwynedd - yn rieni, yn bobl ifanc, pawb - achos fel mae鈥檙 dywediad yn mynd, 'mae鈥檔 cymryd pentra i fagu plentyn'.

"Mae pawb yn teimlo y cyfrifoldeb a鈥檙 gofal 'na am blant a does 'na ddim cyfrifoldeb mwy na diogelwch a lles ein pobl ifanc ni.

"Dwi鈥檔 deall y teimlada' yna o ddicter a siom dwys achos dwi鈥檔 rhannu nhw fy hun."

'Diolch am eu dewrder'

Wrth gyfeirio at y dioddefwyr, mae Beca Brown yn awyddus i bawb sydd ynghlwm 芒鈥檙 adolygiad i "gadw鈥檙 merched ym mlaenau ein meddylia'".

Mae hi鈥檔 canmol "eu penderfyniad" a鈥檜 "gwytnwch" wrth roi eu tystiolaeth i鈥檙 llys.

"Faswn i鈥檔 licio diolch iddyn nhw am eu dewrder," meddai, gan ddweud fod Cyngor Gwynedd yn "cyd-sefyll efo nhw".

"Ar unrhyw bwynt yn eu bywydau nhw, os fydd hyn yn bwrw cysgod drostyn nhw, bo' ni wastad yn sefyll efo nhw ac yn edmygu eu dewrder nhw yn ddwys ofnadwy."

Mae disgwyl i鈥檙 adolygiad gymryd dros chwe mis cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.