麻豆官网首页入口

Beth fydd yn digwydd i'r hen Bont-ar-Ddyfi gyda ffordd newydd?

Ochr Gorllewinol Pont-ar-DdyfiFfynhonnell y llun, Tanya Dedyukhina
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trigolion yn poeni am ddyfodol Pont-ar-Ddyfi unwaith y bydd yn cau

  • Cyhoeddwyd

Mae galw am ddiogelu dyfodol pont ym Machynlleth pan fydd ffordd newydd gwerth 拢46m yn agor yn gynnar yn 2024.

Dim ond cerddwyr a beicwyr fydd yn defnyddio Pont-ar-Ddyfi ar 么l y datblygiad.

Mae yna bryderon yngl欧n 芒 phwy fydd yn gyfrifol am ariannu gwaith cynnal a chadw'r bont, gydag un ymgyrchydd yn poeni "ni fydd hi yma ymhen hanner can mlynedd".

Ond mae rhai trigolion wedi mynd ati i feddwl am sut i roi ail fywyd a sicrhau ei dyfodol.

Cyfrifoldeb pwy?

Yn 么l Llywodraeth Cymru, roedd adeiladu ffordd newydd yn angenrheidiol gan fod Pont-ar-Ddyfi wedi profi "traffig cynyddol ac yn gorlifo'n gyson".

Dros y Nadolig, bu'n rhaid cau y bont i'r ddau gyfeiriad yn dilyn tywydd garw.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod y cynllun 拢46m ar waith am nad ydy'r bont bresennol wedi "ei chynllunio ar gyfer y lefelau traffig sy'n ei chroesi erbyn hyn".

Bydd y Bont Dyfi Newydd yn agor i'r de-ddwyrain o'r ffordd bresennol.

Yn 11 metr o uchder yn ei man uchaf, bydd y ffordd newydd yn ymuno 芒鈥檙 A487 presennol sy鈥檔 cysylltu siroedd Gwynedd a Phowys.

Ar hyn o bryd, adran briffyrdd Llywodraeth Cymru sy鈥檔 gyfrifol am ariannu鈥檙 'hen' bont.

Mae Cadw yn ei hystyried fel heneb, ac mae cyngor tref Machynlleth yn galw arnyn nhw i'w gwarchod a'i hariannu.

Barn amrywiol y gymuned

Wedi ei lleoli ar gyrion y dref ers 1805, mae'r hen bont yn agos iawn at galon trigolion lleol.

Mae'r ffordd tua'r bont yn fan cerdded, yn llwybr beicio hwylus, ac yn lle poblogaidd ymysg pysgotwyr.

Dywedodd Mark Bond, aelod o Gr诺p Llywio Pont-ar-Ddyfi, gr诺p sydd yn trafod dyfodol yr hen bont: "Poeni ydym ni am ddyfodol y groesfan hanesyddol.

"Os na fyddwn yn gweithredu, ni fydd hi yma ymhen hanner can mlynedd."

Ychwanegodd Mr Bond: "Os nad yw'n eiddo i neb, mi fydd yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd [y bont] mewn perygl o gael ei difrodi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pryderon bydd y ffordd chwarter milltir sydd yn arwain at y bont yn cael ei defnyddio fel trac rali answyddogol

Syniad cwmni peirianneg Griffiths ydy cau鈥檙 bont, ac agor maes parcio wrth ei hymyl.

Mae rhai o drigolion y dref yn poeni y gallai'r chwarter milltir o ffordd sy鈥檔 arwain at y bont droi'n drac rasio ceir answyddogol.

Mae hefyd pryderon y gallai maes parcio droi'n fan parcio i wersyllwyr a gallai pobl daflu sbwriel a gwastraff ar lannau鈥檙 afon.

'Hafan i fywyd gwyllt'

Yn y cyfamser, mae penseiri lleol, Llinos ac Olly Glyn yn gweithio ar gynlluniau i greu defnydd newydd o鈥檙 bont.

Gyda choed a phlanhigion pwrpasol, gallai fod yn hafan i fywyd gwyllt, medden nhw.

Byddai llwybr cerdded agored, byrddau picnic a hysbysfyrddau hanesyddol yn rhan o鈥檙 ardal werdd.

Mae rhai o'r farn bod y cynlluniau newydd hyn yn ffordd o warchod y bont, tra bod eraill yn ofni fod y cynlluniau yn rhwystr i ffermwyr a physgotwyr.

Ffynhonnell y llun, Llinos ac Olly Glyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un cynllun sydd wedi ei ddylunio yw troi yr hen bont i mewn i lwybr cerdded cyhoeddus fel rhan o'r ardal werdd

Dywedodd Richard Evans, aelod o Bysgodfeydd y Dyfi: "Mi fydd denu gormod o bobl i鈥檙 safle yn sicr o amharu ar ein profiad pysgota."

Er yr amryw o syniadau, mae rhai yn meddwl bydd dim cynllun o gwbl yn creu fwy o niwed.

Addewid o ddyfodol gwyrdd

Er nad oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu gwneud am yr hen bont eto, dywedodd y llywodraeth bod y bont yn parhau'n gyfrifoldeb iddynt, a'u bod yn gweithio gyda'r cynghorau sir perthnasol ar gynlluniau.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi addo y bydd y ffordd newydd yn dangos ystyriaeth o'r amgylchedd lleol.

Dywedodd llefarydd: "Bydd y ffordd newydd a agorir yn fuan yn bodloni meini prawf llym, sy鈥檔 golygu iddi beidio 芒 chynyddu allyriadau carbon, i beidio arwain at gyflymder uwch ac allyriadau uwch, ac i beidio 芒 chael effaith negyddol ar y ffyrdd a鈥檙 amgylchedd."