Canser: 'Mam isio rhannu ei stori i helpu eraill'

Disgrifiad o'r fideo, Bu farw Judith Rowlands o Ynys M么n eleni ar 么l rhoi tystiolaeth i Aelodau鈥檙 Senedd, mae ei merch Sioned Cash bellach yn gobeithio gweld newid
  • Awdur, Sian Elin Dafydd
  • Swydd, 麻豆官网首页入口 Cymru

鈥淧an ddaeth yn amlwg bo' hi ddim am wella, roedd hi isio rhannu ei stori er mwyn iddi allu helpu pobl eraill yn y dyfodol."

Dyna deyrnged Sioned Cash i ddewrder ei mam Judith Rowlands o Ynys M么n, fu farw o ganser yn 57 oed eleni ar 么l rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau鈥檙 Senedd.

Yn 么l adroddiad gan y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, mae menywod yn cael eu hanfon adref gyda diagnosis ar gyfer salwch mwy cyffredin, pan mewn gwirionedd, mae canser gynaecolegol ganddyn nhw.

Mae鈥檙 ymchwil hefyd yn dweud fod pryderon canser menywod yn cael eu 鈥渄iystyru, eu bychanu a dyw eu lleisiau ddim yn cael eu clywed鈥 a bod "rhagfarn鈥 yn peryglu bywydau.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae cymorth penodol wedi'i gyflwyno ar gyfer gwasanaethau canser gynaecolegol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Judith gyda'i g诺r Gwilym

Dywedodd Sioned: 鈥漅oedd hi鈥檔 bwysig iawn i Mam bod ei phrofiad a鈥檌 dioddefaint hi gyda chanser gynaecolegol yn cael ei glywed gan bobl all newid pethau.

鈥滵wi mor falch o Mam ei bod hi wedi rhannu ei stori efo Senedd Cymru a hithau mor ddifrifol wael ar y pryd.鈥

Fe glywodd y pwyllgor straeon personol nifer o fenywod oedd yn teimlo bod eu pryderon wedi cael eu diystyru dro ar 么l tro.

Recordiodd Judith fideo a gafodd ei ddangos i'r pwyllgor yn nodi ei phrofiadau, ond bu farw'n fuan wedi hynny ym mis Mai eleni.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Sioned Cash ei bod hi "mor falch o Mam ei bod hi wedi rhannu ei stori"

Roedd Judith wedi cysylltu 芒'i meddyg teulu pan ddechreuodd waedu ar 么l y menopos.

Yn y pendraw cafodd ddiagnosis o ganser endometraidd a chafodd hysterectomi.

Ar 么l y llawdriniaeth roedd Judith yn parhau i fod mewn poen difrifol, ond roedd y meddygon yn mynnu na fyddai鈥檙 math hwnnw o ganser yn dod yn 么l.

Wedi sgan, daeth i鈥檙 amlwg ei fod wedi dychwelyd ac nad oedd gwella arni.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Fe roddodd Judith dystiolaeth i'r pwyllgor a hithau'n "ddifrifol wael"

Yn flynyddol mae tua 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru, a tua 470 yn marw.

Mae elusen Tenovus yn croesawu canfyddiadau鈥檙 adroddiad, ond yn dweud bod yr hyn a glywodd y pwyllgor yn crafu鈥檙 wyneb yn unig.

'Ddim yn cael eu cymryd o ddifrif'

鈥淯n o鈥檙 pethau mwya鈥 pwysig 'da ni wedi clywed drwy鈥檔 inquiry yma yw bod merched yn teimlo鈥檔 eitha' disempowered,鈥 meddai Lowri Griffiths o Tenovus.

鈥淢aen nhw鈥檔 mynd hefo鈥檜 symptomau at y meddyg teulu a falle eu bod nhw ddim yn cael eu cymryd o ddifri', felly ma' nhw鈥檔 mynd 'n么l a 'mlaen am gyfnod o wythnosau, weithiau misoedd, cyn iddyn nhw fedru cael diagnosis.

鈥淵n ystod y cyfnod yna maen nhw鈥檔 teimlo eu bod nhw鈥檔 niwsans neu falle eu bod nhw鈥檔 cael eu labelu鈥檔 hysterical.

鈥淒yna sy鈥檔 bwysig - bod merched yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn cymryd eu symptomau o ddifri' fel bo' ni鈥檔 medru gweithredu wedyn i wneud yn si诺r eu bod nhw鈥檔 cael diagnosis cynnar a bo' ni ddim yn y sefyllfa 鈥榙a ni鈥檔 gweld ein hunain dyddiau yma, hefo nifer o ferched hefo diagnosis terminal."

Disgrifiad o'r llun, Mae'n bwysig "bod merched yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw," medd Lowri Griffiths

Mae鈥檙 pwyllgor wedi cyflwyno 26 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, sy鈥檔 cynnwys cyhoeddi cynllun iechyd penodol i fenywod, edrych ar gyllido鈥檙 cynllun ac adfer unrhyw wasanaethau canser gynaecolegol a ddaeth i ben yn ystod y pandemig.

Yn 么l un o aelodau鈥檙 pwyllgor, AS Dwyfor Meirionnydd Mabon ap Gwynfor, mae angen gwell cefnogaeth ar wasanaethau iechyd menywod.

鈥淢ae gyda ni broblem fan hyn lle mae鈥檔 ymddangos bod y gwasanaeth iechyd yn edrych ar broblemau menywod drwy brism neu drwy lygaid dynion, ac felly ddim yn ystyried problemau menywod yn llawn," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Mabon ap Gwynfor fod Cymru "angen cael cynllun clir o ran iechyd menywod"

Mae cynlluniau iechyd menywod wedi cael eu cyhoeddi yn Lloegr a'r Alban, ond nid yng Nghymru.

Cafodd 鈥渄atganiad ansawdd鈥 ei gyhoeddi fis Gorffennaf 2022, ac ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu鈥檙 gwasanaeth iechyd i lunio cynllun llawn.

Ychwanegodd Mr ap Gwynfor: 鈥淢ae angen cael cynllun clir o ran iechyd menywod, efo adran benodol yn edrych ar ganserau gynaecolegol.

"Yna mi fyddwn ni wedyn yn gallu gosod Cymru ar lwybr lle fyddwn ni鈥檔 gweld gwell triniaethau a phobl yn cael datrysiadau i鈥檙 cyflyrau yma yn llawer cynt."

'Helpu i wella gwasanaethau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn 鈥渉anfodol鈥 bod pryderon menywod yn cael eu clywed a鈥檜 cymryd o ddifrif pan fyddan nhw鈥檔 troi at y gwasanaeth iechyd am gymorth.

鈥淏ydd profiadau鈥檙 gwragedd yn yr adroddiad yn ein helpu i wella gwasanaethau,鈥 meddai.

Ychwanegodd bod canser yn un o chwe blaenoriaeth y gwasanaeth iechyd wrth gynllunio, a鈥檌 bod wedi ymrwymo i wella canlyniadau i gleifion.

鈥淩ydyn ni wedi cyflwyno cymorth wedi鈥檌 dargedu ar gyfer gwasanaethau canser gynaecolegol ac yn darparu cefnogaeth i feddygon teulu ar gyfer atgyfeirio achosion posib o ganser," meddai'r llefarydd.