麻豆官网首页入口

'Pryder digynsail' yn sgil ansicrwydd am daliadau amaeth

Frances Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl ifanc yn poeni am ddyfodol y diwydiant amaeth a chymunedau gwledig, yn 么l Frances Evans

  • Cyhoeddwyd

Mae'r newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth yng Nghymru wedi arwain at "lefelau digynsail o bryder", medd dau o bwyllgorau'r Senedd.

Ar ddechrau'r Sioe Fawr yn Llanelwedd, mae casgliadau dau ymchwiliad gan Aelodau'r Senedd yn galw ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi addasiadau i'r cynlluniau.

Mae arweinwyr y diwydiant amaeth wedi dweud hefyd fod angen sicrwydd yngl欧n 芒 lefelau cyllid i'r dyfodol, ar 么l blwyddyn "stormus" a welodd brotestiadau'n lledu drwy Gymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies fod y llywodraeth wedi gwrando ar bryderon y bobl, a'u bod yn "gweithio'n ddiflino" er mwyn sicrhau fod y cynllun yn llwyddiant.

Mae Frances Evans yn rhan o'r pumed genhedlaeth yn ei theulu i ofalu am eu fferm y tu allan i Landeilo yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Frances yn gweithio ar y fferm laeth gyda'i rhieni, ac fe wnaeth hi benderfynu ymuno 芒 gr诺p ymgyrchu Digon yw Digon wnaeth drefnu protestiadau mawr yng Nghaerfyrddin a'r Trallwng yn gynharach eleni.

Dywedodd ei bod yn "falch iawn" o weld Llywodraeth Cymru yn cwrdd 芒'r gr诺p: "Ni methu bod yn flin am na o gwbl, ond mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd iawn gyda sawl ffactor yn cael effaith".

Mae Digon yw Digon yn trefnu cyfarfod agored ar faes y Sioe nos Lun, ac er bod Frances yn edrych ymlaen at gwrdd 芒 ffrindiau yr wythnos hon, dywedodd fod sawl un ohonyn nhw yn pryderu am ddyfodol ffermio a chymunedau gwledig Cymru.

"Dwi'n eithaf nerfus yngl欧n 芒'r dyfodol. Dwi'n gwybod bod fy nghenhedlaeth i yn edrych ar opsiynau eraill, ac ar weithio mewn meysydd y tu hwnt i amaethyddiaeth gan fod gymaint o bryder am y dyfodol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd gr诺p ford gron yn cwrdd ar faes y Sioe yr wythnos hon i drafod pryderon

Yn eu hadroddiad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC), dywedodd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd fod y cynlluniau wedi bod "yn destun oedi a cham-gyfathrebu".

Dyma'r drefn sydd fod i ddisodli cymorthdaliadau o'r cyfnod pan oedd y DU yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Ychwanegodd bod yna "bryderon sylweddol" yngl欧n 芒 dyluniad y cynllun a methodoleg y taliadau - yn ogystal 芒 thargedau gorchudd coed dadleuol.

Dywedodd Paul Davies, yr AS Ceidwadol sy'n cadeirio'r pwyllgor fod "bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers pasio Deddf Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru ac mae yna oedi o hyd o ran gweithredu鈥檙 ddeddf".

"I'r rhai sy'n ymwneud 芒 ffermio, ac i'r rhai sy'n gweithio i warchod ein hamgylchedd, mae'r ansicrwydd hwn yn peri pryder," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan weinidogion "lawer o waith i'w wneud" cyn gallu cyflwyno'r CFfC, meddai Llyr Gruffydd

Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith hefyd wedi cynnal ymchwiliad yn ymwneud 芒'r CFfC.

Maen nhw wedi galw ar y llywodraeth i gyhoeddi amserlen, yn nodi'r camau nesaf tuag at gyflwyno'r cynllun a phryd all ffermwyr ddisgwyl clywed mwy am y gofynion terfynol.

Dywedodd y pwyllgor fod cynyddu lefelau plannu coed yn allweddol i Gymru gyrraedd targedau newid hinsawdd, ond roedd yn cydnabod "fod ffermwyr wedi mynegi teimladau cryf y byddai hyn yn gwneud llawer o fusnesau'n anhyfyw".

Roedd aelodau'r pwyllgor yn "agored" i opsiynau eraill ar wah芒n i'r targed dadleuol o sicrhau gorchudd coed ar 10% o dir fferm, gan annog y llywodraeth i drafod gyda'r corff sy'n eu cynghori ar newid hinsawdd.

Dywedodd Llyr Gruffydd, AS Plaid Cymru a chadeirydd y pwyllgor, fod gan weinidogion "lawer o waith i'w wneud" cyn bod y CFfC yn barod i'w gyflwyno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wedi nifer o brotestiadau, daeth cadarnhad y byddai'r gwaith o gyflwyno'r cynllun newydd yn cael ei oedi tan 2026

Mae'r gwaith o ddatblygu system gymorthdaliadau newydd ar gyfer amaeth wedi bod yn mynd rhagddo ers Brexit, gyda'r nod o gynnig grantiau gwyrddach sy'n gwobrwyo gwaith amgylcheddol a "chynhyrchu bwyd cynaliadwy".

Ond mae undebau wedi dweud fod yr hyn sydd wedi'i gynnig yn rhy lafurus, a bod agweddau yn "anymarferol".

Arweiniodd trydydd ymgynghoriad cyhoeddus at don o brotestiadau ar draws Cymru ym mis Chwefror, gan gynnwys yr un mwyaf ar gofnod y tu allan i'r Senedd.

Ym mis Mai, daeth y cyhoeddiad y byddai'r gwaith o gyflwyno'r cynllun newydd yn cael ei oedi am flwyddyn arall - tan 2026.

Mae gr诺p ford gron - sy'n cynnwys aelodau o'r diwydiant amaeth a'r sector amgylcheddol - wedi bod yn cwrdd i geisio datrys meysydd lle mae anghytuno a byddan nhw'n cyfarfod eto yr wythnos hon ar faes y Sioe.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf y byddai cynlluniau ariannu presennol yn parhau yn ystod 2025, gyda chymhorthdal newydd ar gael hefyd i wobrwyo ffermydd sy'n gweithio ar y cyd ar brosiectau i hybu natur.

Yn y cyfamser, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn lansio ymgynghoriad ar eu hawgrymiadau nhw o ran sut ddylai cymorthdaliadau amaeth weithio, petai nhw mewn grym.

Maen nhw'n cynnig cadw 70% o'r cyllid fyddai ar gael drwy Gynllun Ffermio a Chefn Gwlad ar gyfer taliad sylfaenol i ffermydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Aled Rees yn un o sylfaenwyr gr诺p ymgyrchu Digon yw Digon

Dywedodd Aled Rees, un o sylfaenwyr gr诺p ymgyrchu Digon yw Digon "fod 'na symud wedi bod" gan Lywodraeth Cymru yn ystod y misoedd diwethaf.

"Ond fel gr诺p o ffermwyr dy'n ni ddim yn teimlo fod pethau wedi mynd yn ddigon pell," ychwanegodd.

Mae'r gr诺p yn cwrdd 芒'r ysgrifennydd materion gwledig ac yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar faes y sioe nos Lun.

Bydd undebau amaeth a grwpiau amgylchedd hefyd yn defnyddio'r sioe i alw am gynnydd sylweddol yn y gyllideb sydd ar gael i gynnal y cynllun cymhorthdal gan y llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan.

Y diwydiant 'ar groesffordd bwysig'

Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) Ian Rickman fod y diwydiant "ar groesffordd bwysig gyda鈥檙 cyfle i greu sylfaen gadarn i鈥檙 diwydiant am ddegawdau i ddod".

"Er bod creu鈥檙 sylfaen hon yn dibynnu鈥檔 helaeth ar ddatblygu polis茂au amaethyddol datganoledig yma yng Nghymru, rhaid cofio y bydd y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth newydd y DU yn sylfaen i鈥檙 cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig," meddai.

Mae undebau amaeth am weld y swm sy'n dod o'r Trysorlys i Gymru ar gyfer amaeth yn cynyddu o oddeutu 拢300m y flwyddyn i 'nes at 拢500m, tra bod casgliad o grwpiau amgylcheddol yn bwriadu mynnu am ffigwr hyd yn oed yn uwch yn ystod y Sioe, gan ddadlau bod y newidiadau i gymorthdaliadau鈥檙 sector yn allweddol i helpu brwydro colledion natur a newid hinsawdd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Huw Irranca-Davies yn cynnal trafodaethau pellach gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant amaeth yn y Sioe Fawr

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, eu bod wedi "clywed ac wedi gwrando ar bryderon".

"Ry'n ni'n gweithio gyda'r gr诺p ford gron wrth lunio'r cynllun terfynol - ac ry'n ni'n gwneud hynny mewn ffordd gydweithredol. Mae hynny am gymryd amser, ond ry'n ni'n gweithio'n ddiflino er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwneud hyn yn iawn.

"Mae wedi bod yn heriol, ond rydw i wir yn teimlo fel ein bod ni'n gwneud cynnydd drwy ymgysylltu 芒 phobl mewn modd adeiladol.

"Rydw i eisoes wedi cyhoeddi amserlen newydd ar gyfer cyflwyno'r CFfC newydd. Ry'n ni wastad wedi dweud na fyddai'r cynllun yn cael ei gyhoeddi tan ei fod yn barod.

"Ry' ni wedi clywed ac wedi gwrando ar bryderon sydd wedi codi yn ystod y broses ymgynghori. Rydw i eisoes wedi cynnal dau gyfarfod gyda'r gr诺p ford gron, a bydd trydydd yn digwydd yn y Sioe yr wythnos hon.

"Ry'n ni eisiau parhau i ddatblygu'r bartneriaeth yma sydd ei hangen er mwyn cwblhau a chyflwyno'r cynllun."

Pynciau cysylltiedig