麻豆官网首页入口

Gallai menywod traws gael eu cyfrif yn fenywod yn y Senedd

Bathodyn hawliau pobl trawsFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe allai menywod trawsryweddol gael eu cyfrif fel menywod fel rhan o gynlluniau'r llywodraeth i sicrhau Senedd fwy cyfartal rhwng y rhywiau.

Mae Llafur a Phlaid Cymru eisiau gwneud i bleidiau gwleidyddol lunio rhestrau cyfartal o ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd mewn etholiadau ar gyfer y Senedd.

Mae deddfwriaeth ddrafft, a ryddhawyd gan gr诺p o weithredwyr, yn awgrymu y gallai'r rhestrau o fenywod gynnwys ymgeiswyr sy'n bwriadu newid rhyw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y mesur wedi newid ers hynny, ond doedden nhw ddim yn fodlon dweud beth sydd wedi'i newid.

Mae Rhwydwaith Hawliau Menywod Cymru (WRN) wedi cael gafael ar y ddeddfwriaeth ddrafft, ac maen nhw'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o ddefnyddio'r gyfraith i "wreiddio ideoleg wenwynig a misogynistaidd".

Mae WRN wedi ymgyrchu yn erbyn caniat谩u i fenywod trawsryweddol fynd i fannau sydd ar gyfer menywod yn unig, a hunanddiffinio rhywedd.

Ond honnodd Stonewall Cymru, gr诺p hawliau LHDTC+, bod WRN yn parhau 芒 鈥渘aratif negyddol yn erbyn y gymuned traws鈥.

Mae'r ddeddfwriaeth, fydd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn rhan o'r cynlluniau i ehangu'r Senedd gyda 36 o wleidyddion ychwanegol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n fwriad i gynyddu nifer Aelodau Senedd Cymru o 60 i 96

O dan y system newydd, y mae'n fwriad iddi ddod i rym erbyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, byddai pleidleiswyr yn dewis pleidiau yn hytrach nag ymgeiswyr unigol, gyda gwleidyddion yn cael eu hethol o restrau.

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, hefyd eisiau newid y gyfraith fel bod y pleidiau'n llunio rhestrau cyfartal o ddynion a menywod ar gyfer etholiadau.

Mae yna honiadau nad oes gan y Senedd y grym i gyflwyno cwot芒u rhywedd, ac oherwydd pryder y gallai gael ei herio yn y llysoedd, mae鈥檙 cynlluniau ar gyfer deddf cydraddoldeb rhyw wedi鈥檜 gwahanu oddi wrth y newidiadau eraill i etholiadau'r Senedd.

Mae rhan o destun drafft y Bil cwot芒u rhywedd yn ei gwneud yn glir, at ddiben y ddeddfwriaeth newydd, bod 鈥渕enyw yn cynnwys menyw drawsryweddol鈥.

Mae鈥檔 dweud 鈥渕ae 鈥榤enyw trawsryweddol鈥 yn golygu person sy鈥檔 bwriadu mynd trwy, sydd yn mynd trwy neu sydd wedi mynd trwy broses (neu ran o broses) er mwyn ailbennu rhyw [y person] i fenyw trwy newid nodweddion ffisiolegol neu briodoleddau eraill rhyw".

Mae'r gyfraith yn ychwanegu y gall gweinidogion Cymru ddiwygio'r adran drwy reoliadau yn y dyfodol, er mwyn "newid y diffiniad o fenyw".

'Syfrdanol'

Dywedodd Cathy Larkman o Rwydwaith Hawliau Menywod Cymru: 鈥淢ae鈥檔 syfrdanol bod y llywodraeth yn gwario arian cyhoeddus ac yn defnyddio bil cwot芒u rhywedd i hyrwyddo agenda sy鈥檔 tanseilio hawliau hanner poblogaeth Cymru.

鈥淢ae鈥檔 gywilyddus eu bod nhw鈥檔 defnyddio deddfwriaeth a ddylai fod o fudd i fenywod a chynyddu cyfranogiad menywod mewn bywyd gwleidyddol, er mwyn ymgorffori ideoleg wenwynig a misogynistaidd.

鈥淒oes gan y llywodraeth ddim y pwerau cyfreithiol i wneud hyn ac maen nhw'n debygol iawn o fethu pan fydd yn cael ei herio yn y llysoedd, fel y bydd.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae mudiadau hawliau unigolion trawsryweddol yn croesawu'r mesur drafft

Dywedodd Dr Lisa Cordery-Bruce, ymddiriedolwr Pride Cymru: "Mae menywod traws yn fenywod.

"Mae gan fenywod traws yr hawl i sefyll mewn etholiad fel eu hunain.

鈥淒yw person trawsryweddol agored erioed wedi cael eu hethol i鈥檔 Senedd genedlaethol ac mae鈥檔 nenfwd gwydr sydd angen ei dorri,鈥 meddai, gan ychwanegu bod yr iaith yn y mesur drafft 鈥測n gyson 芒 Deddf Cydraddoldeb 2010, ac ar y sail yma y dylai fynd ymlaen".

'Llwyr gefnogi'

Dywedodd llefarydd ar ran Stonewall Cymru nad oedd y sefydliad wedi gweld y mesur drafft "ond rydym yn llwyr gefnogi unrhyw fesur i rymuso pob menyw, gan gynnwys menywod traws, i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a sefyll mewn etholiad i'r Senedd".

"Mae menywod trawsryweddol yn cyfrif am 0.1% o boblogaeth Cymru.

"Fodd bynnag, mae'n bwysig bod deddfwriaeth fel hyn yn cynnwys pobl traws a grwpiau lleiafrifol eraill er mwyn sicrhau bod ein cymunedau i gyd yn cael eu hadlewyrchu yn y Senedd.

鈥淢ae鈥檔 anffodus ac yn bryderus i weld Bil Drafft sydd i fod i rymuso menywod yn cael ei ryddhau a'i gam-ddisgrifio er mwyn parhau 芒 naratif negyddol yn erbyn y gymuned drawsryweddol,鈥 meddai鈥檙 gr诺p, gan ychwanegu bod casineb yn y byd go iawn at bobl traws 鈥測n uwch nag erioed".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mark Drakeford yn awyddus i gael y pwerau angenrheidiol er mwyn caniat谩u system hunan-adnabod rhywedd yng Nghymru

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi mynegi ei gefnogaeth i gynlluniau鈥檙 Alban ar gyfer system hunan-adnabod rhywedd.

Does gan Lywodraeth Cymru ddim y pwerau i basio deddfwriaeth o'r fath - ond mae'r prif weinidog wedi dweud y byddai'n gofyn i Lywodraeth y DU am y pwerau, fel y gallai sefydlu ei system hunan-adnabod ei hun.

Ond mae Llywodraeth y DU wedi rhwystro cynlluniau hunan-adnabod rhywedd Yr Alban, ac mae Llywodraeth Yr Alban yn ceisio gwrthdroi'r penderfyniad yn y llysoedd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, y Ceidwadwyr David TC Davies, ar X ei fod yn "bryderus am y cynnig hwn ac wedi cyfarfod 芒 grwpiau hawliau menywod yn ddiweddar i drafod eu barn".

"Un o fy mhryderon mwyaf yw y gallai'r cynllun gael effaith andwyol ar hawliau menywod ar draws ein gwlad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Mae disgwyl y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn y Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae gweddill y cynlluniau, gan gynnwys diwygio sut mae pleidleisio mewn etholiadau'r Senedd, eisoes wedi鈥檜 cyhoeddi ac yn symud drwy鈥檙 Senedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淩ydym yn gweithio i gyflwyno mesur i wneud ein Senedd yn fwy cynrychioliadol o鈥檙 bobl y mae鈥檔 ei wasanaethu, sy鈥檔 cynnwys darpariaethau i gyflwyno cwot芒u ymgeiswyr ar gyfer pobl sy鈥檔 ceisio cael eu hethol i鈥檙 Senedd.

鈥淢ae ein model arfaethedig ar gyfer cwot芒u wedi鈥檌 gynllunio i gael y siawns gorau o gael Senedd sy鈥檔 cynnwys o leiaf 50% o fenywod.

鈥淢ae gwaith yn mynd rhagddo ar y Bil.鈥