麻豆官网首页入口

Bellamy yn cyhoeddi aelodau newydd t卯m hyfforddi Cymru

Andrew CroftsFfynhonnell y llun, Cymdeithas B锚l-droed Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe chwaraeodd Andrew Crofts 29 o weithiau i Gymru yn ystod ei yrfa

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr canol cae Cymru, Andrew Crofts wedi ei gynnwys yn nh卯m hyfforddi newydd Craig Bellamy.

Mae Bellamy - a gafodd ei benodi ym mis Gorffennaf - wedi cyhoeddi ei d卯m hyfforddi cyn ei g锚m gyntaf fel rheolwr yn erbyn Twrci ar 6 Medi.

Fe fydd Crofts, wnaeth chwarae gyda Bellamy i Gymru, wedi bod yn hyfforddi gyda Brighton ers rai blynyddoedd, a bydd yn cyfuno'r swydd honno gyda'i r么l newydd.

Mae James Rowberry, cyn-reolwr Casnewydd sydd wedi bod yn gweithio i Gymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC), hefyd wedi ei benodi yn hyfforddwr cynorthwyol.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas B锚l-droed Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae James Rowberry wedi rheoli Casnewydd ac wedi bod yn rhan o d卯m hyfforddi Caerdydd yn y gorffennol

Fe gadarnhaodd CBDC fod Piet Cremers, a weithiodd gyda Bellamy yn Burnley, a Ryland Morgans, sydd wedi gweithio gyda sawl clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr, hefyd wedi eu penodi yn hyfforddwyr cynorthwyol.

Mae'r 麻豆官网首页入口 ar ddeall fod Bellamy hefyd yn ceisio denu鈥檙 hyfforddwr golwyr, Martyn Margetson yn 么l i Gymru wedi iddo dreulio cyfnod yn hyfforddi gyda Lloegr.

Dywed y Gymdeithas y bydd Chris Gunter "yn symud ymlaen i r么l newydd o fewn strwythr CBDC, a fydd yn cael ei gyhoeddi maes o law".

Mae dau arall oedd yn cynorthwyo Rob Page, Alan Knill a Jack Lester, yn gadael eu swyddi.

Gwaith paratoi 'wedi bod yn wych'

Dywedodd Craig Bellamy ei fod yn "hapus iawn" gyda'r penodiadau.

"Rwyf wedi gweithio gyda phob un ohonynt o鈥檙 blaen, naill ai fel hyfforddwr neu fel chwaraewr.

"Fel gr诺p, rwy鈥檔 credu bod y cydbwysedd a鈥檙 arbenigeddau amrywiol rhyngom ni mor dda a allwn fod wedi gofyn amdano.

"Mae鈥檙 gwaith paratoi ar gyfer y gemau wedi bod yn wych hyd yn hyn, a dydw i methu aros i ni gyfarfod 芒鈥檙 chwaraewyr a dechrau gweithio gyda nhw."

Fe fydd g锚m gyntaf Bellamy fel rheolwr yn erbyn Twrci ar 6 Medi yng Nghynghrair y Cenhedloedd, cyn i Gymru deithio i Montenegro ar 9 Medi.