O'r archif: Oedd pobl Aberdâr yn gwybod pa ffordd i droi'r cloc yn yr 1960au?

Disgrifiad o'r fideo,

Ry'n ni newydd droi'r clociau - a gobeithio eich bod wedi'u troi y ffordd iawn neu mae'r rhan fwyaf yn newid eu hunain bellach ond dim pob un!

Pan aeth y newyddiadurwr John Bevan o raglen Heddiw i Aberdâr yn y 60au i ofyn i drigolion y dref pa ffordd oedd y clociau'n troi... cafodd ei synnu gan eu hansicrwydd.

Wedi drysu? Am yn ôl mae'r clociau yn mynd y penwythnos hwn ac mae gennych awr ychwanegol!