麻豆官网首页入口

Yw hi'n deg i bobl weithio'n hybrid o gaffis?

Laptop mewn caffi Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Ydych chi erioed wedi gweithio'n hybrid o gaffi?

Mae rhai busnesau yn dweud fod cwsmeriaid yn gallu cymryd mantais wrth wneud hyn, drwy beidio prynu llawer a threulio sawl awr yno.

Ond i un sy'n defnyddio'r caffi i weithio, dywedodd ei fod yn gyfle i newid "awyrgylch" gwaith.

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gweld 30% o weithwyr Cymru yn rhai sy'n gweithio o bell.

'Llwyth o bobl' yn dod i weithio yn y caffi

Dywedodd Olivia, sy'n gweithio yng nghaffi Ground Bakery yng Nghaerdydd, fod "llwyth o bobl yn dod yma i weithio" ond ychwanegodd eu bod yn "eithaf teg yn prynu bwyd".

"Ar y penwythnos 'da ni'n eitha' busy so weithie ma' rhaid ni cicio pobl mas," meddai.

Dywedodd fod rhai pobl yn "cymryd y mick" ac yn peidio 芒 phrynu llawer yn y caffi ac yn aros yno am oriau yn gweithio.

"Ma' pobl yn dueddol o brynu un black coffee am 拢2.95 ac yna maen nhw'n eistedd 'na am ddwy awr yn 'neud dim byd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Olivia fod rhai pobl yn "cymryd y mick" ac yn peidio 芒 phrynu llawer yn y caffi

Roedd Poppy Davies, sy'n gweithio yng Nghaffi Ffloc yn Nhreganna, o'r farn nad oes angen polisi er mwyn atal pobl rhag gweithio'n hybrid mewn caffis.

"'Da ni'n cael eithaf lot o bobl yn dod fan hyn, yn gweithio ar laptops nhw neu yn cymryd phone calls," meddai.

Er hyn, dywedodd nad ydyn nhw'n cael llawer o broblemau yno a bod eu cwsmeriaid yn deg.

"Does dim lot o broblemau, mae pobl yn eithaf chilled achos mae'r atmosphere yn eithaf neis," meddai.

"Mae pobl yn eithaf teg fan hyn oherwydd ma' gen ti lot o regulars, so pobl ti'n gwybod bydd ddim yn cymryd y mick."

Dywedodd mai'r oll maen nhw eisiau yw i "bobl fod yn deg".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Poppy o'r farn nad oes angen polisi ar gyfer gweithio hybrid o gaffi

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais o weld 30% o weithwyr Cymru yn rai sy'n gweithio o bell.

Fe ddangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 33.9% o'r gweithlu yn gweithio o bell rhwng 2022 a 2023, gyda'r ffigwr ar ei uchaf yn y de ddwyrain - 37.7% ac ar ei isaf yn y gogledd - 28.1%.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Lara ei bod yn "trin y coffi fel rhent", gan sicrhau nad yw'n cymryd mantais

Ond i'r rheiny sy'n dod i'r caffis i weithio, mae'n gyfle i "newid amgylchedd" gwaith.

Dywedodd Lara, sy'n defnyddio'r caffis fel lle i weithio ar ei busnes iechyd meddwl a phodlediad, ei bod yn "trin y coffi fel rhent ac yn sicrhau 'mod i'n prynu mwy yn hytrach na jyst un a phara oriau achos ma' hynny'n unfair".

Roedd o'r farn ei fod yn deg i'r cwsmer orfod prynu coffi pob ryw awr a hanner, "ond dwi ddim ishe gorwneud hi ar y caff卯n so ma' rhaid i fi gael bach o balance".

Pynciau cysylltiedig