麻豆官网首页入口

Pam bod Ysgol Glantaf yn cefnu ar wefan gymdeithasol X?

X
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mewn datganiad ar X, mae'r ysgol yn dweud "nad yw'r llwyfan hon yn adlewyrchu gwerthoedd Glantaf"

  • Cyhoeddwyd

Ysgol Glantaf yw鈥檙 diweddaraf i gyhoeddi y byddan nhw鈥檔 dod 芒鈥檜 cyfrif ar lwyfan cymdeithasol X i ben, gyda鈥檙 pennaeth yn argyhoeddedig y bydd ysgolion eraill yn dilyn.

Mewn datganiad ar X, maen nhw鈥檔 dweud y "bydd y cyfri hwn yn cau ar ddiwedd Hydref 2024 gan nad yw鈥檙 llwyfan hon yn adlewyrchu gwerthoedd Glantaf".

鈥淣i fydd Ysgol Glantaf yn rhannu gweithgaredd ar lwyfan X bellach ac rydym wedi symud ein cyfri' i Instagram."

Dywedodd y pennaeth, Matthew H T Evans wrth Cymru Fyw ei fod yn poeni am y "celwyddau" ar y gwasanaeth.

Mae gwefan X wedi cael cais am sylw.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y "celwyddau a'r hiliaeth" oedd i'w weld ar X yn ystod terfysgoedd yr haf wedi peri pryder i bennaeth a staff Ysgol Glantaf

鈥淢ae鈥檙 negeseuon sydd wedi ymddangos ar y llwyfan dros yr haf yn benodol wedi peri syndod, dweud y gwir," meddai.

"Yn ystod y terfysgoedd casineb yn yr haf, roedden ni'n gallu gweld pobl ifanc a phlant ar y strydoedd 'na 'di cael eu tynnu i mewn i鈥檙 celwyddau a鈥檙 hiliaeth oedd yn digwydd, ac roedd hynny鈥檔 peri pryder.

"A hyd yn oed ar lif yr ysgol ei hun, roeddech chi鈥檔 gweld sylwadau oedd yn 'neud chi deimlo鈥檔 anghysurus yngl欧n 芒'r hiliaeth glir oedd yn digwydd ar y llwyfan.

"Ers i ni ddychwelyd ym mis Medi, mae hwnna wedi ei adlewyrchu mewn sgyrsiau gyda staff a gyda rhieni sy鈥檔 teimlo鈥檔 anghysurus am y peth, ac wedyn, y penderfyniad gan y llywodraethwyr i symud i ffwrdd o鈥檙 llwyfan."

'Camwybodaeth wedi esgor ar drais'

Mae Mr Evans yn poeni am y camwybodaeth a鈥檙 casineb sy鈥檔 cael ei rannu ar y wefan heb unrhyw wirio a chosbi.

"Ni鈥檔 gwybod, wrth gwrs, bod llwyfannau eraill efo鈥檙 un un math o broblemau ond rydyn ni鈥檔 gweld bod llwyfan fel X heb gael unrhyw fath o derfynau yngl欧n 芒'r sylwadau oedd yn cael eu caniat谩u, a鈥檙 negeseuon hiliol, llawn casineb, deud y gwir.

"Mae terfysgoedd yr haf yn dangos yn union bod camwybodaeth wedi esgor ar drais ac ar gasineb difrifol iawn yn ein dinasoedd ni; dim ond gwyrth nad oedd o wedi digwydd yng Nghaerdydd.

"Mae鈥檔 rhaid i bobl dda sefyll i fyny a dweud 'dydy'r pethau 'ma ddim yn gywir', a mae'n rhaid hefyd dangos bod gwybodaeth gywir, a bod deall beth yw gwybodaeth gywir yn rhan o waith addysgu a mae hynny鈥檔 mynd yn gynyddol anoddach."

Ffynhonnell y llun, Getty/麻豆官网首页入口/Alamy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cyfrifon Stephen Yaxley-Lennon - neu Tommy Robinson fel mae'n cael ei adnabod - Katie Hopkins ac Andrew Tate, oedd wedi cael eu gwahardd gan Twitter am ledaenu casineb a chamwybodaeth, wedi cael dychwelyd ar X

Mae sawl unigolyn a sefydliad wedi codi pryderon am ledaeniad camwybodaeth ac nad oes cymaint o ddefnyddwyr yn gweld cynnwys Cymraeg ar X ers yr ail-frandio.

Ym mis Awst, fe gyhoeddodd Heddlu'r Gogledd y byddan nhw'n dod 芒'u cyfrif i ben gan ddweud nad yw negeseuon yn cyrraedd cymunedau Cymraeg fel o'r blaen.

Fe ddaw hyn ar 么l i鈥檙 biliwnydd Elon Musk brynu鈥檙 cwmni y llynedd.

Yn 么l X, mae 250 miliwn o bobl yn defnyddio'r platfform yn ddyddiol.

Ond mae sawl sefydliad ac unigolion, gan gynnwys Aelodau Seneddol, yn gadael X oherwydd camwybodaeth.

Mae llawer o gwyno bod X yn lledaenu casineb a gwybodaeth ffug, ac yn rhoi mwy o rwydd hynt i鈥檙 asgell dde i ddweud fel y mynnon nhw.

Mae cyfrifon gan bobl fel Stephen Yaxley-Lennon (Tommy Robinson), Katie Hopkins ac Andrew Tate - oedd wedi cael eu gwahardd gan Twitter am ledaenu casineb a chamwybodaeth- wedi cael dychwelyd ar X.

Ysgolion eraill yn cefnu ar X

Yn 么l pennaeth Ysgol Glantaf mae ysgolion eraill yn ystyried cefnu ar eu cyfrifon hwythau, neu wedi gwneud eisoes.

鈥淢ae nifer fawr o ysgolion wedi teimlo鈥檔 anghysurus ac yn symud i ffwrdd," meddai Matthew Evans.

"Falle bod nhw heb wneud datganiad cweit mor glir, ond ein syniad ni, ein meddylfryd ni, oedd bod angen i blant a phobl ifanc wybod bod ysgol yn gallu gwneud a dweud 'chi鈥檔 gwbod be, dydy hyn ddim yn iawn' a symud i ffwrdd.

鈥淒wi鈥檔 sicr, o ran ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae nifer fawr fawr ohonyn nhw - os nad pob un ohonyn nhw - yn ystyried neu鈥檔 symud i ffwrdd o鈥檙 llwyfan.

"Mae pob un o鈥檔 hysgolion clwstwr ni wedi symud neu yn symud yn dawel bach ac mi fyddwn ni鈥檔 gweld hynny yn llif cyson nawr dros y misoedd nesaf."

Mae hefyd yn teimlo bod dyletswydd ar sefydliadau eraill ystyried yn yr un modd.

鈥淔y nheimlad i ydy, mae gynnoch chi nifer fawr o sefydliadau sydd ar y llwyfan 鈥 Estyn, Llywodraeth Cymru, cynghorau sir 鈥 a dwi鈥檔 meddwl bod 'na gwestiwn wedyn iddyn nhw鈥檌 gyd hefyd pa mor hir maen nhw鈥檔 mynd i barhau ar y llwyfan yma?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Amanda Blakeman, yn poeni am ledaeniad camwybodaeth

Mae Heddlu Gogledd Cymru eisoes wedi cyhoeddi, ym mis Awst, y byddan nhw'n dod 芒'u cyfrif i ben.

Yn 么l prif gwnstabl y llu, maen nhw'n dileu eu cyfrif ar X oherwydd 鈥済werthoedd鈥 y platfform a lledaeniad camwybodaeth.

"Mae'n debyg nad yw'n rhannu'r un gwerthoedd 芒 ni fel sefydliad ac rwy'n poeni nad yw weithiau'n portreadu'r wybodaeth gywir i'n cymunedau,鈥 meddai Amanda Blakeman.

"Yn ogystal, mae'n debyg nad yw鈥檔 cyrraedd ein cymunedau Cymraeg mor rhwydd ag y mae pobl eraill ac rwy'n credu mai dyma'r penderfyniad iawn i ni.

"Mae angen i ni fel gwasanaeth allu cyfathrebu yn gyflym, ac yn hawdd gyda'n cymuned i'w diweddaru, i roi gwybodaeth, ac i ateb cwestiynau, ond mae'r platfform hwnnw wedi dod yn le mwy heriol i wneud hynny yn y misoedd a blynyddoedd diwethaf."

Gwefannau cymdeithasol ddim yn addas?

Roedd Ysgol Glantaf yn defnyddio X i rannu a dathlu llwyddiannau鈥檙 ysgol, ond fe fyddan nhw鈥檔 symud i ddefnyddio Instagram am y tro.

Yn 么l y pennaeth: 鈥淣i鈥榥 mynd i adolygu fe.

"Dwi ddim yn siwr os mai Instagram ydy鈥檙 llwyfan cywir ac yn y pendraw efallai bydd rhaid i ni ystyried nad ydy llwyfannau cymdeithasol yn addas i ysgolion i gyfathrebu arno fo a bod hynny yn dod 芒 chyfnod i ben efallai."

Mae鈥檙 ysgol wedi derbyn ymateb cymysg gan rieni, ond dywedodd Matthew Evans fod y mwyafrif o blaid eu penderfyniad.

"Y realiti yw, mae 'na nifer o sylwadau ryden ni wedi鈥檌 derbyn, y rhan fwyaf wrth gwrs yn cytuno 芒鈥檙 ysgol, ond wedyn mae ganddoch chi hefyd bobl sy鈥榥 ymateb yn chwyrn iawn i鈥檙 busnes ynglyn 芒 rhyddid barn a rhyddid gwybodaeth.

"O鈥檔 rhan ni, nid mater o ryddid barn oedd hyn. Mae negeseuon o gasineb a hiliaeth yn fater arall.

"Mae鈥檙 ysgol hon yn gorfod dangos i鈥檞 pobl ifanc bod 'na weithiau bethau chi ddim yn cytuno efo nhw a bod rhaid i ni addysgu鈥檔 plant bod gennych chi ddewis ynglyn 芒鈥檙 pethe 'ma."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cadw'r sianeli rydyn ni'n eu defnyddio i gyfathrebu dan adolygiad yn barhaol.

"Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd am reoli X yn ystod y misoedd diwethaf, ond credwn ei bod yn bwysig i barhau i ymgysylltu 芒 chymaint o bobl 芒 phosibl a darparu gwybodaeth glir a dibynadwy."

Mae Estyn hefyd yn dweud eu bod nhw'n adolygu eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn gyson, ac mae monitro eu defnydd o wefan X yn rhan o'r broses honno.