麻豆官网首页入口

Aelod o鈥檙 Manics: 'Trist iawn' colli Sefydliad y Glowyr

Nicky Wire, aelod o grwp y Manic Street Preachers
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nicky Wire yn perfformio yn Sefydliad y Glowyr yn 2011

  • Cyhoeddwyd

Mae Nicky Wire o'r band Manic Street Preachers wedi dweud y byddai鈥檔 "drist iawn" petai Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon yn cau.

Mae Cyngor Caerffili yn ystyried rhoi鈥檙 gorau i dalu cymhorthdal o 拢347,000 y flwyddyn i鈥檙 sefydliad er mwyn torri costau.

Fe fyddai hynny鈥檔 golygu y byddai鈥檔 cau ym mis Rhagfyr ac y byddai鈥檙 cyngor yn 鈥渁rchwilio opsiynau eraill鈥 ar gyfer ei redeg mewn ffordd wahanol yn y dyfodol.

Roedd cannoedd o bobl mewn rali yn y Coed Duon ddydd Sadwrn i wrthwynebu cau'r adeilad.

Disgrifiad,

Barn rhai o'r bobl oedd yn y rali ddydd Sadwrn

Cafodd Nicky Wire ei fagu yn y Coed Duon ac mae ganddo atgofion melys o Sefydliad y Glowyr.

鈥淔e dreuliais i gymaint o hafau yn chwarae snwcer yn wael iawn yno gan ddychmygu taw fi fyddai鈥檙 Alex Higgins nesaf,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Helpodd cyfraniadau glowyr i dalu am godi'r adeilad ym 1925

Mae e, fel sawl un arall yn lleol, yn poeni fod dyfodol yr adeilad yn ansicr.

鈥淩wy鈥檔 gwybod bod cynghorau mewn sefyllfa ofnadwy gyda chyllidebau a bod arian yn brin ond fe fyddai鈥檔 drist iawn tase hwn yn cau," meddai.

Mae鈥檙 Manic Street Preachers ymhlith y grwpiau enwog sydd wedi perfformio yno ar hyd y blynyddoedd, ynghyd 芒 Coldplay a鈥檙 Super Furry Animals.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pryder Geoff Cripps yw na fyddai'r safle yn ailagor pe bai'n cau

Mae Geoff Cripps ar banel cynghori Sefydliad Glowyr y Coed Duon. Mae e鈥檔 poeni efallai na fydd hi鈥檔 ailagor o gwbl.

鈥淗on yw鈥檙 unig ganolfan gelfyddydau broffesiynol yn Sir Caerffili felly byddai pawb yn yr ardal yn colli rhywbeth pwysig iawn,鈥 meddai.

鈥淢ae dyfodol y sefydliad yn bwysig hefyd oherwydd mae lot o鈥檙 plant sy鈥檔 defnyddio鈥檙 adeilad i ddysgu dawns neu ddrama yn mynd i weld sioeau proffesiynol neu鈥檔 cymryd rhan yn y sioeau sy鈥檔 digwydd yma.鈥

Angen 'mwy o obaith' ar gymuedau

Mae Wayne Thomas, ysgrifennydd ardal Undeb Glowyr De Cymru, yn cytuno.

鈥淕yda beth sy鈥檔 digwydd yn y cymunedau hyn mae ishe mwy o obaith arnyn nhw, a bydd cau llefydd fel hyn yn wael iawn i bawb sy鈥檔 dod yma," meddai.

"Mae'r pethau sy'n digwydd yma heddiw - dyna'r rheswm dros godi'r adeilad bron i gan mlynedd yn 么l...

"Be' sy鈥檔 mynd i ddigwydd i鈥檙 ardal hyn os yw鈥檙 llefydd hyn yn cau?鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl ddaeth at ei gilydd ddydd Sadwrn yn galw ar y Cyngor i ddiogelu'r adeilad

Yn 么l arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, mae arian yn dynn.

鈥淢ae鈥檔 rhaid i ni ystyried ffyrdd o wneud pethau鈥檔 wahanol鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檔 rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf.

"Os yw鈥檙 cyngor yn cytuno ar rhai o鈥檙 argymhellion yma fe fydd modd i ni wneud arbedion mawr.鈥

Mae'r cyngor hefyd yn ystyried cau amgueddfa Llancaiach Fawr gan arbed bron i 拢500,000, a dod 芒'r gwasanaeth prydau i gartrefi i ben.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Mawrth.

Pynciau cysylltiedig