Ymgeisydd yn colli cefnogaeth Plaid Cymru ar 么l sylwadau ar-lein

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Disgrifiad o'r llun, Fydd Sharifah Rahman ddim yn cael cefnogaeth Plaid Cymru yn etholaeth de Caerdydd a Phenarth

Mae Plaid Cymru yn dweud na fyddan nhw'n cefnogi eu hymgeisydd yn etholaeth de Caerdydd a Phenarth yn sgil sylwadau gafodd eu gwneud ar-lein.

Mewn datganiad, dywedodd y blaid bod Sharifah Rahman wedi gwneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn trafod y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol "sydd ddim yn cyd-fynd 芒 safbwynt na gwerthoedd Plaid Cymru".

Gan fod hyn wedi digwydd mor agos at ddiwedd yr enwebiadau, mae'n golygu y bydd ei henw yn aros ar y papur pleidleisio fel ymgeisydd swyddogol ar ran Plaid Cymru, ond fydd y blaid ddim yn ei chefnogi.

Dywedodd llefarydd: "Mae Plaid Cymru yn gyson wedi condemnio gweithredoedd terfysgwyr Hamas ar 7 Hydref yn ogystal 芒'r cyrchoedd awyr ofnadwy gan Lywodraeth Israel.

"Ry'n ni'n atgyfnerthu ein galwadau am gadoediad ar unwaith.

"Fe fydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu am heddwch a datrysiad dwy wladwriaeth - gan gynnwys cydnabod tiriogaeth Balesteinaidd, a dyfodol heddychlon i Balesteiniaid ac Israeliaid.

"Ry'n ni'n condemnio unrhyw ragfarn a hiliaeth, gan gynnwys gwrth-semitiaeth ac Islamoffobia."

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi methu 芒 chysylltu gyda Ms Rahman i ofyn am sylw.

Rhestr o'r ymgeiswyr eraill yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth:

  • Stephen Doughty, Llafur
  • Simon Llewellyn, Reform UK
  • Anthony Slaughter, Y Blaid Werdd
  • Ellis Smith, Y Ceidwadwyr
  • Alex Wilson, Democratiaid Rhyddfrydol