麻豆官网首页入口

Campwaith Eidalaidd yn dod n么l i Gymru am gyfnod

CanalettoFfynhonnell y llun, Yr Oriel Genedlaethol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd 'The Stonemason's Yard' ei beintio gan Canaletto tua 1725

  • Cyhoeddwyd

Bydd campwaith o gelf Eidalaidd o'r 18fed ganrif yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o ddydd Gwener.

Mae 鈥楾he Stonemason鈥檚 Yard鈥 鈥 a beintiwyd gan Canaletto tua鈥檙 flwyddyn 1725 鈥 wedi鈥檌 fenthyg gan yr Oriel Genedlaethol yn Llundain.

Y darlun fydd y prif atyniad yn yr arddangosfa newydd yn y llyfrgell.

Dyma鈥檙 eildro i鈥檙 llun fod yng Nghymru 鈥 fe ddaeth am y tro cyntaf mewn amgylchiadau gwahanol iawn.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn un o tua 2,000 o weithiau celf amhrisiadwy a gafodd eu symud o Lundain i weithfeydd llechi ym Mlaenau Ffestiniog er mwyn eu hamddiffyn rhag bomiau鈥檙 Almaenwyr.

Dros 80 mlynedd yn ddiweddarach mae鈥檙 llun yn 么l yng Nghymru, a bydd yn cael ei arddangos yn y llyfrgell tan fis Medi fel rhan o鈥檙 arddangosfa Delfryd a Diwydiant.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Trysorau o鈥檙 Oriel Genedlaethol yn Llundain yn cael eu harchwilio wrth iddyn nhw gael eu symud i chwarel lechi Manod yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Mae鈥檙 arddangosfa yn adrodd stori 鈥楾he Stonemason鈥檚 Yard鈥 a sut y daeth i Gymru fel "ffoadur" rhag bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd i gael ei amddiffyn yn ddiogel ym mwyngloddiau llechi Manod.

Roedd Winston Churchill 鈥 y Prif Weinidog ar y pryd 鈥 wedi gorchymyn y dylid symud casgliad yr Oriel Genedlaethol i ffwrdd o Lundain a'i guddio mewn "ogof芒u a seleri".

Gosodwyd stiwdios brics a system awyru yn y mwyngloddiau er mwyn storio鈥檙 casgliad, a oedd yn cynnwys gwaith gan artistiaid fel Titian, Michelangelo a Constable.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y trysorau yn cael eu tynnu allan ar gyfer eu glanhau yn Chwarel Manod

Flynyddoedd ar 么l i'r lluniau gael eu dychwelyd i Lundain, daeth Glyn Williams a'i deulu o Flaenau Ffestiniog yn berchnogion ar y chwarel.

Dywedodd Mr Williams fod ganddyn nhw gynlluniau i ehangu'r gwaith yno yn y 1980au, ond roedd Llywodraeth y DU eisiau cadw'r stiwdios yn eu lle a chyfyngu ar ffrwydro yn y chwarel rhag ofn iddyn nhw gael eu difrodi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Glyn Williams, a ddaeth yn berchennog y chwarel, wedi cyd-gofnodi'r hanes

Enillodd Mr Williams fuddugoliaeth yn y llys i orfodi鈥檙 llywodraeth i adael y chwarel ac ehangodd y gwaith yn y Manod.

Yn 1983 fe helpodd Mr Williams i wneud llyfryn i gofio'r amser pan gafodd y gweithiau celf amhrisiadwy eu cuddio yn y chwarel.

Dywedodd ei bod hi wedi bod yn anodd iawn cludo rhai o鈥檙 darluniau i鈥檙 chwarel gan fod rhai yn fawr iawn, fel y portread o Charles I ar gefn ceffyl gan Van Dyck.

鈥淩oedd y lluniau yn cael eu cario i fyny i鈥檙 chwarel mewn loris, ond mi oedd yna broblem," meddai Mr Williams.

"Mi oedd pont y railway yn rhy isel i鈥檙 loris fynd o dan iddi, felly beth wnaethon nhw oedd tyllu o dan y bont a rhoi sylfaen newydd a trio gyrru鈥檙 lori drwodd.

"Ond roeddan nhw wedi methu efo鈥檜 mesuriadau ac mi oedd rhaid iddyn nhw ollwng aer o deiars y lori i gael hi drwodd, achos mae鈥檙 llun King Charles on Horseback yn anferth o lun - mae鈥檔 pwyso tua hanner tunnell!鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llyfryn yn nodi hanes storio trysorau yr Oriel Genedlaethol

Dywedodd Mr Williams fod y lluniau wedi cael eu gwarchod yn dda - arhosodd arbenigwyr ger y chwarel i ofalu amdanyn nhw, ac roedd garsiwn o filwyr ger gi芒t y chwarel i'w hamddiffyn.

"Roedd 'na bedwar adeilad wedi cael eu codi yn yr agorydd yn bwrpasol i gadw y lluniau," meddai.

"Cawson nhw i gyd eu codi o fewn rhyw naw mis a tu fewn i鈥檙 adeiladau newydd yma roedd system i aildroi yr awyr i gadw yr humidity yn gyson.鈥

Ar 么l i鈥檙 rhyfel ddod i ben, aeth y 2,000 o luniau yn 么l i'w horielau - llawer i'r Oriel Genedlaethol ac eraill i Balas Buckingham.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bwlch i'r chwarel wedi'i ledu ar gyfer symud y trysorau

Mae llun Canaletto yn 么l yng Nghymru fel rhan o ddathliadau 200 mlwyddiant yr Oriel Genedlaethol 鈥 mae 12 campwaith o鈥檌 chasgliad yn cael eu harddangos mewn amgueddfeydd ac orielau celf ledled y DU.

Mae gan yr arddangosfa yn Aberystwyth yr unig un sydd i鈥檞 weld yng Nghymru.

Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys tirluniau Cymreig o鈥檙 Casgliad Celf Cenedlaethol gan gynnwys gwaith gan artistiaid clasurol fel Richard Wilson, JMW Turner a Penry Williams ochr yn ochr 芒 gwaith gan artistiaid mwy modern fel Graham Sutherland, Mary Lloyd Jones ac Ernest Zobole.

Am y tro cyntaf yn y Llyfrgell Genedlaethol, bydd taith sain ddisgrifio ar gyfer rhai o'r eitemau ar gyfer ymwelwyr sy'n ddall neu sydd 芒 nam ar eu golwg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd campwaith Canaletto yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o ddydd Gwener

Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, prif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 鈥淢ae hon yn addo bod yn arddangosfa arbennig iawn ac rydym yn hynod o ddiolchgar i fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda鈥檙 National Gallery.

"Mae cael un o gampweithiau Canaletto yma yn anrhydedd, ac mae arddangos y gwaith ochr yn ochr 芒 rhai o uchafbwyntiau鈥檙 Casgliad Celf Cenedlaethol yn y Llyfrgell yn creu cyfle gwych i werthfawrogi cyfoeth ac amrywiaeth y profiad Cymreig a鈥檙 ymatebion i hynny mewn celf.鈥

Edrych ymlaen i rannu'r stori

Cafodd Canaletto ei eni yn 1697 a'i fagu yn Fenis, a fe oedd arlunydd Fenisaidd enwocaf ei ddydd.

Mae 鈥楾he Stonemason鈥檚 Yard鈥 yn un o baentiadau cynnar Canaletto ac mae鈥檔 wahanol i lawer o鈥檌 waith arall gan ei fod yn darlunio golygfa o fywyd bob dydd yn hytrach na鈥檌 olygfeydd enwog o Gamlas Fawr Fenis, regatas a dyddiau gwyliau.

Yn lle crandrwydd a rhodres, mae鈥檙 darlun yn portreadu pobl gyffredin wrth eu gwaith ac yn rhoi cipolwg ar 聽fywyd bob dydd.

Dywedodd Mari Elin Jones, swyddog dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru 鈥淢ae hi wedi bod yn fraint anhygoel i weithio gyda鈥檙 National Gallery ar yr arddangosfa hon i nodi eu pen-blwydd yn 200 oed.

"Mae gallu croesawu campwaith Canaletto yn 么l i Gymru wedi iddo gael lloches yma dros 80 mlynedd yn 么l yn hynod gyffrous, ac rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at rannu鈥檙 stori hynod hon gyda鈥檙 cyhoedd.

鈥淢ae鈥檙 arddangosfa hefyd wedi bod yn ysgogiad gwych i dreiddio鈥檔 ddyfnach i鈥檔 casgliad cenedlaethol ein hunain o dirluniau Cymreig, ac rydym wrth ein bodd i fod yn arddangos bron i 100 o weithiau sy鈥檔 ymestyn dros 250 mlynedd yn oriel fawreddog Gregynog.鈥