Prifysgol Bangor i 'adolygu ei phortffolio' wedi protestiadau

Disgrifiad o'r llun, Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn protestio am fisoedd
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi y bydd yn 鈥渁dolygu ei phortffolio buddsoddi鈥 yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda myfyrwyr.

Daw鈥檙 penderfyniad yn dilyn misoedd o brotestio ar safle鈥檙 brifysgol gan fyfyrwyr sy鈥檔 eu cyhuddo o fod 芒 chytundebau gyda chwmn茂au sydd 芒 chysylltiadau ag Israel.

Mae鈥檙 gwersyll o flaen canolfan gelfyddydau Pontio yn y ddinas wedi bod yno ers mis Mai, gyda鈥檙 myfyrwyr yn galw ar i鈥檙 ymladd yn y Dwyrain Canol ddod i ben.

Yn 么l y brifysgol mae ganddi 鈥渂olisi buddsoddi moesegol a chynaliadwy" a bod gofyn i "reolwyr buddsoddi wneud rhagor o ymchwil diwydrwydd dyladwy er mwyn sicrhau bod ein portffolio buddsoddi presennol yn wirioneddol yn cydymffurfio".

Yn 么l y myfyrwyr fe ddechreuon nhw ymgyrchu ar dir y brifysgol gan ddweud bod ganddyn nhw bryderon am fuddsoddiadau'r sefydliad.

Disgrifiad o'r llun, Mae Luke O'Hagan eisiau gweld "mwy o atebolrwydd a thryloywder gan y bwrdd gweithredol"

鈥淩wy鈥檔 credu mai鈥檙 prif beth rydw i eisiau ei weld [gan y brifysgol] yw mwy o atebolrwydd a thryloywder gan y bwrdd gweithredol," meddai Luke O鈥橦agan, myfyriwr sydd wedi bod yn protestio ar safle'r brifysgol.

鈥淸Rydyn ni eisiau] gwneud yn si诺r nad yw sefyllfa fel hon yn digwydd eto.

鈥淒ydw i ddim eisiau parhau i weld y brifysgol yn rhoi'r bai ar y rheolwyr buddsoddi a gwrthod cymryd cyfrifoldeb drosto鈥檌 hun.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Rae yn honni bod y brifysgol wedi bod yn "torri eu polisi eu hunain ers o leiaf blwyddyn"

Mae'r myfyrwyr yn dweud eu bod wedi bod yn trafod gyda'r brifysgol yn ddiweddar ond nad ydyn nhw'n argyhoeddedig bod digon yn cael ei wneud eto, ac maen nhw'n bwriadu parhau 芒'u protest weledol y tu allan i Pontio.

鈥淧e na fydden ni yma鈥 fe fyddai cymaint o bobl ddim yn ymwybodol o鈥檙 sefyllfa ym Mhalestina鈥, meddai Rae, myfyriwr arall.

鈥淒wi'n meddwl y byddai neb yn gwybod dim am fuddsoddiadau Prifysgol Bangor na鈥檙 ffaith eu bod wedi bod yn torri eu polisi eu hunain ers o leiaf blwyddyn bellach."

Mae鈥檙 myfyrwyr wedi cael eu cefnogi gan aelodau o鈥檙 gymuned leol ym Mangor sydd hefyd wedi lleisio pryderon, fel y Parchedig Anna Jane Evans.

Disgrifiad o'r llun, "Does neb eisiau gweld difenwi enw da Prifysgol Bangor," meddai'r Parchedig Anna Jane Evans

"Dwi'n gobeithio bod y ffaith bod pobl wedi codi llais yn ac wedi dangos cefnogaeth yn galluogi'r brifysgol i wneud beth sy'n iawn," meddai.

"Dan yr amodau sy'n wynebu prifysgolion r诺an, does neb eisiau gweld difenwi enw da Prifysgol Bangor.

"Ond os ydyn nhw'n buddsoddi ac yn hyrwyddo'r hiladdiad 'ma drwy fuddsoddiadau... fel bob corff arall sy'n gwneud yr un peth, mae angen dad-fuddsoddi ac arwain y ffordd."

'Presenoldeb y wersyllfa yn peri gofid'

Gofynnodd 麻豆官网首页入口 Cymru i Brifysgol Bangor am ymateb i bryderon y myfyrwyr, ac fe gyfeirion nhw at ddatganiad ar eu gwefan.

Dywedodd y datganiad ar ran yr is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke fod y brifysgol yn "condemnio hiliaeth, gwrth-semitiaeth, Islamoffobia, gwahaniaethu, aflonyddu, sarhau neu ymddygiad troseddol".

"Mae nifer o staff a myfyrwyr wedi cysylltu 芒 mi i ddweud bod rhai o鈥檙 deunyddiau sy鈥檔 cael eu harddangos yn y wersyllfa ac ar gyfryngau cymdeithasol yn achosi trallod iddynt.

"Rydym yn cymryd y cwynion hyn o ddifri gan ein bod yn gwybod bod presenoldeb y wersyllfa yn peri gofid i rai aelodau o鈥檔 cymuned."

Mae'n ychwanegu: "Mae gan Brifysgol Bangor Bolisi Buddsoddiadau moesegol a chynaliadwy.

"Mae ein polisi yn nodi ein bod yn disgwyl i lefel uchel o fesurau Amgylcheddol, Cynaliadwyedd a Llywodraethu (ACLl) fod yn eu lle ar gyfer unrhyw fuddsoddiad posibl.

"Mae Pwyllgor Buddsoddi Prifysgol Bangor wedi cyfarfod a chytuno i adolygu ei Bolisi Buddsoddi.

"Ymhellach, gofynnir i'n Rheolwyr Buddsoddi, UBS, i ymgymryd 芒 diwydrwydd dyladwy pellach i sicrhau bod ein portffolio buddsoddi presennol yn wir yn cydymffurfio 芒'n Polisi Buddsoddi Moesegol."

Dywedodd y brifysgol hefyd y byddai'n parhau i weithio gyda'r undeb myfyrwyr a myfyrwyr i ateb pryderon pawb.