麻豆官网首页入口

'Gwireddu breuddwyd': Cynrychioli Cymru ar 么l trawsblaniad calon

Gareth Jones yn ei grys Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Jones yn ei grys Cymru yn ystod Cwpan 笔锚濒-诲谤辞别诲 Trawsblaniad y Byd 2024

  • Cyhoeddwyd

Pan wnaeth Gareth Jones wisgo'r crys coch a rhedeg ar y cae p锚l-droed yn Yr Eidal fis Medi, roedd yn ystyried ei hun yn 诺r ffodus dros ben.

Ddwy flynedd yn unig ers cael trawsblaniad ar ei galon, mae wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan 笔锚濒-诲谤辞别诲 Trawsblaniad y Byd.

Cennydd Davies sydd 芒 stori y g诺r o'r Felinheli.

Cael ail gyfle

Mae yna sawl ffordd i gyrraedd y copa mewn bywyd ac mae鈥檙 daith i Gareth Jones o鈥檙 Felinheli ger Caernarfon wedi bod yn ymhell o fod yn esmwyth a di-drafferth.

Ddwy flynedd yn 么l fe drawsnewidiodd bywyd y g诺r 42 oed yn gyfan gwbl pan fu鈥檔 rhaid iddo gael trawsblaniad calon; cyfnod a fyddai yn ei lethu ond na fyddai yn ei guro.

鈥淵r adeg yna roeddwn i yn Ysbyty Gwynedd ac yn ddifrifol wael, ac mi wnes i ddarganfod mai fy nghalon oedd yn methu arna i," eglurodd ar raglen 麻豆官网首页入口 Radio Cymru Ar y Marc.

"Ges i鈥檔 symud i Fanceinion ac yn fan'na 'nes i ffeindio allan oedd rhaid i fi gael trawsblaniad, felly oeddwn yno ar beiriannau鈥檔 cadw fi i fynd.

"Ar 么l pythefnos es i ar y rhestr ar gyfer organau i gael calon newydd a'r diwrnod wedyn ges i galon! Chwe wythnos wedyn o鈥檔 i allan o'r ysbyty.

"Dwi鈥檔 ystyried fy hun yn lwcus dros ben.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

T卯m Cymru, sy'n cymryd rhan yng Nghwpan 笔锚濒-诲谤辞别诲 Trawsblaniad y Byd fis Medi, yn yr Eidal

Trechu rhwystrau

Ag yntau ar y canfas a鈥檌 fywyd wedi troi wyneb i waered mi oedd yn gyfnod pryderus ac yn gyfle i bendroni yngl欧n 芒鈥檙 dyfodol.

鈥淎r 么l cael trawsblaniad mae鈥檔 rhyfedd o beth, ti鈥檔 teimlo鈥檔 unig a ti鈥檔 gweld y byd mewn ffordd wahanol; bod hi鈥檔 fath o ail gyfle mewn ffordd," eglurodd Gareth.

"Felly o鈥檔 i鈥檔 trio meddwl am rywbeth gwallgof, a nes i weld fod 'na d卯m Cymru [i chwaraewyr 芒 thrawsblaniad] ar Instagram a nes i ofyn am g锚m.鈥

Er yn awyddus i wneud y gorau o sefyllfa hynod heriol a cheisio byw bywyd i鈥檙 eithaf doedd addasu a dygymod 芒鈥檌 gyflwr ddim wedi digwydd dros nos.

Gareth - sy鈥檔 parhau i weithio fel plymer - yw鈥檙 unig aelod o鈥檙 garfan sydd wedi cael trawsblaniad i鈥檙 galon a dyw chwarae g锚m gorfforol, egn茂ol yn amlwg ddim yn dasg hawdd.

鈥淢ae cael trawsblaniad y galon yn golygu fod hi鈥檔 anoddach na petawn i wedi gorfod cael un ar yr iau, yr aren neu鈥檙 pancreas. Ond nes i ddyfalbarhau a 'naethon nhw ddweud wrtha i am ymuno yn y sesiynau ymarfer ac er eu bod nhw lawr ym Mhen-y-bont sy' bedair awr i ffwrdd, nes i benderfynu mynd.

"'Da ni 'di chwarae mewn sawl cystadleuaeth a r诺an twrnaiment Cwpan y Byd!鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth Jones a Brendan Ryland - yr unig chwaraewr yn nh卯m Awstralia sydd wedi cael trawsblaniad calon

Cwpan 笔锚濒-诲谤辞别诲 Trawsblaniad y Byd

Dyma鈥檙 tro cyntaf i gystadleuaeth o鈥檙 fath gael ei chynnal a Cymru yn un o 11 t卯m yn y digwyddiad yn Cervia yn yr Eidal gyda鈥檙 rownd derfynol yn digwydd ar 14 Medi.

Mae yna saith chwaraewr ym mhob t卯m ac 20 munud i bob hanner.

Yn anffodus wnaeth t卯m Cymru ddim llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol wedi iddyn nhw fethu mynd allan o'u gr诺p, ond fe wnaeth Gareth fwynhau'r profiad - a chreu hanes.

"Neshi sgorio pedwar g么l yn y twrnamaint ac un ohonyn nhw yn erbyn Lloegr," meddai. "Os dwi'n gywir, fi ydi'r unig chwaraewr sydd wedi sgorio yn erbyn Lloegr mewn World Cup!"

Dyma benllanw dwy flynedd anoddaf ei fywyd. Ar un adeg roedd o ar ei wely angau, ond ar 么l disgyn i鈥檙 dyfnderoedd a chyfadde鈥 fod 'na sawl diwrnod tywyll wedi bod, mae cyrraedd Cwpan y Byd a chynrychioli ei wlad wedi bod yn foment emosiynol.

Mae hefyd yn brawf pendant o鈥檌 gymeriad i frwydro n么l ac mae Gareth, yn ddigon naturiol, yn falch o'r hyn mae o wedi ei gyflawni.

鈥淢ae鈥檔 deimlad arbennig," meddai. "O鈥檔 i byth 'di meddwl faswn i'n chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd. Dwi wir yn gwireddu breuddwyd."