麻豆官网首页入口

Y pum her fwyaf sy'n wynebu Eluned Morgan

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eluned Morgan, arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru, ar fin dod yn brif weinidog nesaf Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Eluned Morgan ar fin dod yn brif weinidog nesaf Cymru, ar 么l cael ei chadarnhau fel arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru.

Mae鈥檔 dilyn ymddiswyddiad Vaughan Gething, a gyhoeddodd ei fod yn ildio'r awenau yr wythnos ddiwethaf ar 么l cyfres o benderfyniadau dadleuol.

Bydd Ms Morgan yn dod yn brif weinidog ar 么l pleidlais yn y Senedd, ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.

Unwaith y bydd yn dechrau yn ei swydd, bydd yn wynebu nifer o heriau ar unwaith.

1. Cyllid Llywodraeth Cymru

Bydd angen gwneud penderfyniadau ar ble i wneud toriadau.

Mae gweinidogion Cymru yn aml wedi dewis rhoi arian ychwanegol i'r GIG ar draul adrannau eraill.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf daethant o dan y lach am dorri'n 么l ar gefnogaeth i'r celfyddydau.

Gallai sut maen nhw'n penderfynu rhannu'r gyllideb fod yn ffynhonnell poen pellach i'r weinyddiaeth newydd.

2. Uno rhaniadau Llafur Cymru

Daeth rhaniadau Llafur i'r amlwg pan ymddiswyddodd pedwar aelod o Lywodraeth Cymru ar yr un pryd i orfodi Mr Gething i adael.

Mae Ms Morgan wedi addo uno'r gr诺p a gwella rhai o'r rhaniadau y mae wedi'u hwynebu.

Ond gyda niferoedd yn dynn yn y Senedd - mae gan Lafur union hanner y 60 o seddi - gall anghytuno agored wneud gafael y blaid ar rym yn sigledig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y pedwar aelod o'r llywodraeth a ymddiswyddodd - Jeremy Miles, Julie James, Mick Antoniw a Lesley Griffiths

Gallai fod o gymorth bod llawer o broblemau Llafur Cymru wedi'u tanio gan benderfyniadau Mr Gething - gan gynnwys y cyfraniad o 拢200,000 i'w ymgyrch gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

Wrth addo uno'r gr诺p, mae gweinyddiaeth newydd Ms Morgan yn edrych fel petai'n mynd i glymbleidio 芒'i hun.

Cefnogodd ei dirprwy brif weinidog arfaethedig, Huw Irranca-Davies, wrthwynebydd arweinyddiaeth Mr Gething, Jeremy Miles, yn yr ornest ddiwethaf.

Roedd Ms Morgan yn cefnogi Mr Gething.

3. Taro bargen 芒 gwrthbleidiau

Ni all Llafur lywodraethu yn y Senedd - na phasio ei chyllideb nesaf - heb gymorth y gwrthbleidiau.

Rhan o'r hyn a arweiniodd at ymadawiad Mr Gething oedd amharodrwydd Plaid Cymru a'r Democrat Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds i gydweithio ag ef.

Mae'n debyg y bydd hynny'n newid o dan Ms Morgan.

Er, hyd yn oed os ydynt yn fwy parod i ymgysylltu 芒 hi, ni fyddai Plaid Cymru na Ms Dodds am gael eu cymryd yn ganiataol.

Mae'n bosib y byddan nhw am dorri cytundeb gyda Ms Morgan ar gyfer prosiectau neu syniadau arbennig.

4. Y gwasanaeth iechyd

Bydd Ms Morgan, sydd wedi bod yn ysgrifennydd iechyd Cymru ers 2021, yn dod o dan bwysau o鈥檙 newydd i wella perfformiad GIG Cymru wrth iddi gael ei dyrchafu'n brif weinidog.

Mae tua un rhan o bump o boblogaeth Cymru ar restr aros ysbyty ar hyn o bryd - y lefel uchaf erioed.

Mae arolygon yn dangos yn gyson mai iechyd yw un o鈥檙 prif faterion, os nad y brif flaenoriaeth, i bleidleiswyr yng Nghymru.

Ym mis Ebrill, tynnodd Ms Morgan sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud ar leihau'r amseroedd aros hiraf am driniaeth, gyda 97% o gleifion yn aros llai na dwy flynedd mewn chwech o'r saith ardal bwrdd iechyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua un rhan o bump o boblogaeth Cymru ar restr aros ysbyty ar hyn o bryd

5. Etholiad y Senedd 2026

Ar y gorwel mae etholiad y Senedd yn 2026, pan fydd nifer aelodau鈥檙 Senedd yn cynyddu o 60 i 96.

Bydd y system bleidleisio hefyd yn newid, wrth i鈥檙 cyntaf i鈥檙 felin gael ei dileu o blaid system sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 gyfran o鈥檙 bleidlais y mae pob plaid wedi鈥檌 chael.

Bydd Ms Morgan yn ymwybodol bod cyfran Llafur o'r bleidlais yng Nghymru wedi gostwng 4% yn yr etholiad cyffredinol diweddaraf, o'i gymharu 芒 2019.

Roedd arolwg barn YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd ym mis Gorffennaf hefyd yn awgrymu bod cefnogaeth i Lafur yng Nghymru wedi llithro.