麻豆官网首页入口

Sgwrs, cynhesrwydd a chawl am ddim

Dau yn bwyta cawl
  • Cyhoeddwyd

Mae cyfnod y gaeaf wedi'r Dolig yn gallu bod yn ddigon llwm, yn enwedig efo costau byw yn brathu...

Yr ateb i rai yng Nghaernarfon oedd cyfarfod am sgwrs dros gawl - a hynny am ddim - yng Nghapel Caersalem.

Ers dwy flynedd mae rhai o'r aelodau wedi bod yn trefnu Cawl a Chwmni bob dydd Iau, rhwng 11-2. Y syniad ydi cynnig gofod cynnes, cwmni a chymorth wrth i gostau byw gynyddu ac mae'n agored i unrhywun.

Wedi saib byr dros yr 诺yl, roedd y drysau wedi ail-agor erbyn dydd Iau cyntaf 2024, fel mae'r lluniau yma yn dangos.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bore Iau, a'r trefnydd Maggie Hughes yn gosod un o'r arwyddion ar Stryd Garnon, Caernarfon, lleoliad Capel Caersalem. Er mai aelodau'r capel sy'n cynnal y digwyddiad a nifer o'u cyd-aelodau sy'n dod am gawl a sgwrs, mae'r gwahoddiad yn agored i unrhywun

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyn y Nadolig daeth tri pherson heb unrhyw gysylltiad 芒'r capel am gawl ond anaml mae hynny'n digwydd meddai Maggie Hughes: 鈥淒wi鈥檔 si诺r bod lot o bobl efo anghenion ond mae鈥檔 her i bobl i ddod i gapel os ydi nhw heb arfer efo hynny, mae鈥檔 haws os ydi nhw鈥檔 adnabod pobl sy鈥檔 dod yma.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n 11am, a'r drws ar agor wrth i Sylvia Prys Jones ddechrau paratoi'r llysiau ar gyfer y cawl yn y gegin sy'n rhan o'r capel

Disgrifiad o鈥檙 llun,

... ac i'r crochan, ac Ann Griffith a Maggie Hughes yn cadw golwg. Meddai Maggie: "Roedden ni鈥檔 meddwl fel capel sut allwn ni ymateb i鈥檙 argyfwng costau byw, beth allwn ni wneud efo beth sydd ganddon ni? Mae ganddon ni adeilad a chegin a phobl wnaiff ddod i helpu felly wnaethon ni agor y capel i bobl ddod i gael cawl a sgwrs."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ann Griffith, Sylvia Prys Jones a Maggie Hughes. Meddai Maggie: 鈥'Da ni鈥檔 trio gwneud cawl gwahanol bob tro 鈥 a gwneud digon i tua 25-30. Fel arfer mae ganddo ni beth dros ben a 'da ni鈥檔 rhoi o i bobl ryda ni鈥檔 gwybod sydd ddim eisiau dod yma, neu ddim yn gallu dod, ond fyddai'n gwerthfawrogi cawl 鈥 does dim yn mynd yn wastraff."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyn bod y cawl yn barod mae 'na baned ar gael - a Maggie Hughes yn paratoi'r coffi yn y capel

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lydia, wyres Ann, yn helpu heddiw. Meddai Ann: 鈥淢ae'r bobl ifanc yn dod 芒 lot o fywyd yma. Maen nhw eisiau helpu a bod yn rhan o bob dim ac mae鈥檔 rhoi鈥檙 cyfle iddyn nhw gael bod yn garedig. Mae'n rhoi鈥檙 cyfle iddyn nhw gymdeithasu, cross-generational fel maen nhw鈥檔 ddweud.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

... a Gwenno Hughes o Rostryfan, a Glenys Ellis o Bontnewydd, yn elwa. Meddai Gwenno: 鈥淒wi鈥檔 dod bob wythnos ac yn trio cefnogi 鈥 y syniad ydi bod o鈥檔 le i bobl i gyfarfod, a bod pobl unig yn gallu dod yma hefyd. Mae鈥檔 le neis i ddod a siarad, a gweld ein gilydd.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Roberta Parry yn un o ffrindiau Gwenno. Meddai: 鈥淢ae 'na rai sy'n dod yma yn byw ar ben eu hunain ac mae'n le i ddod am sgwrs. Dwi鈥檔 mynd i gapel arall 鈥 a dwi ddim yn hogan Dre chwaith 鈥 o Ynys M么n ydw i. Weithiau mae pobl yn son am bobl Caernarfon ac yn meddwl mod i鈥檔 adnabod y bobl maen nhw'n s么n amdanyn nhw!鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Un o'r rhesymau dros sefydlu鈥檙 fenter oedd cynnig lle cynnes i bobl gyfarfod wrth i gostau byw godi - yn cynnwys pris tanwydd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

A hithau'n wyliau Dolig roedd sawl aelod ifanc o'r capel yno ddechrau Ionawr. Yn 么l un o'r gwirfoddolwyr Sylvia Prys Jones: 鈥淢ae鈥檔 gwneud iddyn nhw sylweddoli pan maen nhw鈥檔 ifanc bod 'na bobl llai ffodus na nhw.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Michael Owen a Manon Williams, sy'n aelodau o'r capel

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gyda phawb wedi cael eu bwydo, does ond un peth arall i'w wneud tan y dydd Iau canlynol...