麻豆官网首页入口

Gwyntoedd cryf Storm Ashley i daro'r gogledd orllewin

Map o'r rhybudd tywydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daw'r rhybudd i rym am 03:00 fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl gwyntoedd cryf iawn yn siroedd gogledd orllewin Cymru yn y dyddiau nesaf wrth i storm fawr gyntaf y tymor newydd daro'r DU.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt a fydd yn effeithio ar siroedd Gwynedd, Ynys M么n a Chonwy yn sgil Storm Ashley.

Fe fydd yn dod i rym am 03:00 fore Sul ac yn dod i ben am 12:00 ddydd Llun, er mae'n bosib y gallai'r union fanylion newid wrth i'r storm nes谩u a datblygu.

Mae disgwyl hyrddiadau hyd at 65 mya yn gyffredinol mewn mannau mewndirol, a hyd at 70 mya mewn mannau arfordirol ble bydd llanw mawr yn ffactor ychwanegol.

Fe allai'r amodau gwaethaf achosi trafferthion i yrwyr a theithwyr, difrod i adeiladau a thoriadau i gyflenwadau trydan.

Pynciau cysylltiedig