麻豆官网首页入口

Dyffryn Clwyd: Newid ffiniau Seneddol ond eraill yn dal i oroesi

Ifan Rhys Batty, Lia Evans a Ieuan Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ifan Rhys Batty, Lia Evans ac Ieuan Evans yn mwynhau Cynghrair Haf Llandyrnog a'r Cylch

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Euro 2024 hawlio'r rhan fwyaf o'r sylw ar draws y cyfandir, yn Nyffryn Clwyd mae p锚l-droed yr haf yn draddodiad sy'n deillio n么l ymhell cyn dyfodiad UEFA.

Wedi ei sefydlu yn 1926 mae Cynghrair Haf Llandyrnog a'r Cylch bron yn 100 oed, ac yn denu timau o gymunedau ar draws siroedd Conwy a Dinbych.

Erbyn hyn mae ffioedd trosglwyddo enfawr yn rhan annatod o'r g锚m ar y lefel uchaf, ond mae'r gynghrair hon yn unigryw gan fod yn rhaid i'r chwaraewyr fyw oddi fewn dalgylch y gymuned y maent yn ei chynrychioli.

O ganlyniad mae'r ffiniau hyn wedi aros yn weddol sefydlog ers bron i ganrif, sy'n wahanol iawn i etholaethau San Steffan.

Tan yr etholiad cyffredinol roedd yr ardal wedi ei rhannu yn bennaf rhwng etholaethau Dyffryn Clwyd a Gorllewin Clwyd.

Ond wrth i nifer y seddi yng Nghymru ostwng o 40 i 32, mae wedi cael effaith mawr yma wrth i'r ardal hollti rhwng etholaethau newydd Bangor Aberconwy, Dwyrain Clwyd a Gogledd Clwyd.

Ffynhonnell y llun, Arolwg Ordnans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae newid ffiniau yn golygu fod cymunedau Dyffryn Clwyd wedi eu rhannau rhwng etholaethau Bangor Aberconwy, Dwyrain Clwyd a Gogledd Clwyd.

Mae meysydd siroedd Conwy a Dinbych wedi bod yn denu torfeydd sylweddol wrth i gefnogwyr ddod i floeddio dros eu timau pentref, gyda'r Gymraeg i'w chlywed yn amlwg ar ac oddi ar y cae.

Mae'r gynghrair yn dod i ben ddiwedd Mehefin ond ym mis Gorffennaf mae cystadleuaeth gwpan, sef y Darian, yn cael ei chynnal.

Dywedodd Ifan Rhys Batty, sy'n chwarae i Nantglyn: "Mae'n gyfle i gael pobl lleol, sydd ella ddim yn chwarae lot o b锚l-droed, at ei gilydd am dri mis y flwyddyn.

"Dydy pawb ddim yn licio mynd allan yn y gwynt a'r glaw yn y gaeaf, felly mae'n braf."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ifan Rhys Batty yn chwarae i Nantglyn

"Ond mae hi'n andros o agos eleni, dwi 'rioed wedi gweld hi mor gystadleuol.

"Ddaru ni [Nantglyn] gael cychwyn da iawn, oeddan ni fyny yn y top tan hanner ffordd drwodd ond ddaru popeth ddechrau mynd ar bach o chw芒l hanner ffordd drwodd.

"Mae t卯m ni llawn ffermwyr ac oedd pawb yn mynd off i gneifio, ar holidays neu silage, aeth petha down hill wedyn ond 'da ni'n gobeithio am ddiwedd cryf i'r tymor."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Nantglyn yn herio Llanrhaeadr mewn g锚m ddiweddar

Dywedodd rheolwr CPD Nantglyn, a oedd yn wynebu Llanrhaeadr yn y gynghrair, ei bod yn cynnig sylfaen i lawer o chwaraewyr ifanc ond bod yna hefyd elfen gymdeithasol.

"Mae'n ffantastic, mae 'na lot o chwaraewyr mor dda wedi dod allan o'r summer league a 'da ni'n cael lot o gefnogaeth hefyd," medd Thomas Wynne Lewis, sydd wedi bod yn rheolwr ar y clwb ers dwy flynedd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Thomas Wynne Lewis ydy rheolwr Nantglyn ac mae o'r farn fod angen mwy o swyddi yn yr ardal

"Y peth pwysig ydi cael hwyl ond mae o eitha serious hefyd achos mae ganddoch chi local pride, mae'n blend da.

"Does neb yn siarad am yr etholiad r卯li, mae pawb yn siarad am y summer league!

"Ond mae 'na lot o broblemau hefo cyflogau, mae cyflogau yng ngogledd Cymru mor isel os ti'n cymharu hefo'r rhan fwyaf o'r UK a jobs, does dim lot o jobs yn yr ardal yma.

"Mae'n anodd i bobl ifanc ar hyn o bryd."

'Mae'n bwysig i bawb bleidleisio'

Yn 么l Lia Evans o Bylchau, sy'n un o gefnogwyr selog Nantglyn, mae'r gynghrair yn gyfle i ddod 芒'r gymuned at ei gilydd.

"Mae cael g锚m dwywaith yr wythnos yn dod 芒 chriw at ei gilydd ac yn beth da i weld ffrindiau ar yr un adeg," meddai.

"Wnaethon ni gychwyn y tymor yn dda, di'm 'di bod yn wych ers hynny ond dydi o ddim am yr ennill rili ond y cymyd rhan sy'n bwysig medden nhw!

"Yn enwedig o gwmpas fama- mae amaethyddiaeth a chefn gwlad yn fawr iawn, hefo'r polisiau ffermio sy'n dod allan a'r holl brotestio.

"Wna'i bleidleisio, mae'n bwysig i bawb wneud achos ar ddiwedd y dydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lia Evans: "'Da chi'n fwy tueddol i bleidleisio os 'da chi'n nabod y bobl"

Bellach mae cymuned Nantglyn yn rhan o etholaeth Bangor Aberconwy, gyda'r ddinas brifysgol yn daith o dros awr i ffwrdd yn y car.

Ar y newid ffiniau ychwanegodd Lia: "Dwi'm yn meddwl fod o'n beth da, ers stalwm oedd pobl yn nabod pwy 'da chi'n bleidleisio am. Da chi'n fwy tueddol i bleidleisio os 'da chi'n nabod y bobl."

Yn 么l Bryn Evans, Ysgrifennydd CPD Llanrhaeadr, mae'r gynghrair yn un "unigryw" ac yn golygu fod rhai yn chwarae p锚l-droed drwy'r flwyddyn.

"'Da ni'n mynd n么l i'r dafarn leol ar 么l y gemau ar nos Lun a nos Iau, mae'n dod 芒 pobl allan am dri mis y flwyddyn ac mae'n beth da i'r dafarn hefyd.

"Ddaru Covid hitio ni ond falle fod o'r peth gorau ddigwyddodd hefo clybiau yn gallu regroupio.... mae'n gr锚t."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gynghrair yn un "unigryw" yn 么l Bryn Evans

O ran y pynciau etholiadol sy'n bwysig i bobl yr ardal, ychwanegodd: "Dwi'n meddwl na public services ynde, ysgolion, ysbytai, da chi'n clywed horror stories o bobl yn disgwyl wyth awr am ambiwlans mewn rhywle bach fel hyn, be mae o fel yn y trefi mawr?

"Dwi wedi byw yma drwy'n oes, 'da ni'n lwcus i fyw yma a di'r etholiad ddim yn poeni llawer arna'i."

'Gweld newid dros y blynyddoedd'

Dywedodd Ieuan Evans, un o gefnogwyr Llanrhaeadr, ei fod yn falch o weld y gynghrair yn ffynnu a fod y plwyfi yn "parhau i ddenu torfeydd da".

Ond tra'n gymuned wledig a Chymreig ei naws, dywedodd ei fod wedi gweld newid dros y blynyddoedd.

"Be sy'n fy mhoeni i ydi fod llawer iawn o Saeson yn symud i'r ardaloedd, 30 mlynedd yn 么l oeddwn yn nabod pawb yn y pentre' ma ond dwi'm yn nabod eu hanner nhw rwan ynde."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Ieuan Evans ei fod yn falch o weld y gynghrair yn ffynu

"Mae'r Gymraeg yn gryf a mae 'na ambell i deulu yn dysgu Cymraeg hefyd, sy'n codi calon rhywun.

"Dwi'm yn cydweld hefo newid y ffiniau [etholaethol], mi fasa rhywun yn licio cael rhywun lleol fel petae," ychwnaegodd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y g锚m rhwng Llanrhaeadr a Nantglyn

Ymhen llai na wythnos bydd pleidleiswyr Dyffryn Clwyd yn dewis eu haelodau seneddol ar gyfer etholaethau newydd sbon a nhw fydd yn dewis a fydd newid.

Ond yn sicr y gobaith yn y rhan hon o'r byd yw mai ychydig iawn o newid fydd 'na i draddodiad Cynghrair yr Haf, wrth feithrin cenhedlaeth newydd i gynnal rhan flaenllaw yng nghymeriad y fro.