麻豆官网首页入口

Protest yn erbyn cau canolfannau dydd yn Sir Benfro

protest
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth dros ugain o brotestwyr ynghyd tu allan i adeilad Cyngor Sir Penfro

  • Cyhoeddwyd

Ers iddi adael ysgol mae Melanie Llewelyn, 51, sydd wedi'i geni gydag anghenion arbennig, wedi bod yn mynychu canolfannau dydd i dderbyn gofal.

Ond ddydd Iau roedd Cyngor Sir Penfro yn trafod cau tair canolfan ddydd yng ngogledd y sir er mwyn gwneud arbedion.

Yn ystod y cyfarfod daeth degau o bobl ynghyd y tu allan i adeilad y cyngor i brotestio yn erbyn cau鈥檙 canolfannau y maen nhw鈥檔 eu disgrifio fel 鈥渁il gartref.鈥

Dywed Cyngor Sir Penfro bod angen gwneud arbedion yn sgil sefyllfa ariannol "enbyd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l ei mam, Ann Llewelyn, mae'r posibilrwydd o gau Canolfan Ddydd Bro Preseli yn achosi pryder i鈥檞 merch Melanie

Yn ystod ei hoes mae Melanie wedi mynychu saith canolfan ddydd gwahanol ar draws Sir Benfro.

Yn 么l ei mam, Ann Llewelyn, 73, mae newidiadau yn achosi pryder i鈥檞 merch.

鈥淢ae Melanie weid bod yn gofidio ambythdi hwn. Mae o hyd yn gofyn lle bydd hi鈥檔 gweld ei ffrindiau. A fi ffili gweud dim byd wrthi.鈥

Mae Cyngor Sir Penfro yn bwriadu cau Canolfan Bro Preseli, yr Anchorage a Chanolfan Ddydd Lee Davies - mae pob un o'r canolfannau yng ngogledd y sir.

Byddai cludo Melanie i鈥檙 ganolfan ddydd agosaf nesaf yn Hwlffordd yn golygu y byddai Ann yn teithio dros 30 milltir bob dydd.

鈥淪ai'n gweld siwd gallwn ni fynd 芒 hi i Hwlffordd bob dydd. Mae鈥檔 edrych yn debyg bydd hi鈥檔 colli鈥檙 gofal dyddiol a byddwn ni鈥檔 gorfod cadw hi gytre.

鈥淒yw hynny ddim yn fair arni. Mae isie cwmni arni hi.鈥

Ychwanegodd Ann Llewelyn byddai cau鈥檙 ganolfan yn 鈥渄rychinebus鈥.

鈥淣i鈥檔 ofnadwy o agos. Bob tro mae 'na benb-lwydd ma 'na gacs, ma' nhw鈥檔 dathlu rhywbeth bob wythnos!

鈥淣i fel rhieni yn cwrdd a鈥檔 rhoi鈥檙 byd yn ei le.鈥

'Nid dyma sut mae trin pobl'

Ddydd Iau roedd y galeri cyhoeddus yn llawn wrth i deuluoedd wrando ar Gyngor Sir Penfro yn trafod y penderfyniad.

Roedd dros ugain o pobl tu allan adeilad y cyngor yn Hwlffordd yn protestio.

Yn 么l Peter Welsh, 73, mae ei ferch Abbie sy鈥檔 32 oed yn ddibynnol ar ganolfan Yr Anchorage yn Noc Penfro.

Wrth siarad yn y cyfarfod yn Hwlffordd dywedodd fod targedu'r rhai sydd ag anableddau yn 鈥渁nfaddeuol鈥.

Disgrifiodd canolfan yr Anchorage fel "ail gartref" ei ferch.

Dywedodd wrth y siambr 鈥淒ychmygwch os mai eich mab, merch, brawd neu chwaer chi fyddai rhain.鈥

Ychwanegodd does dim ymghynghori wedi bod gyda theuluoedd am gau鈥檙 canolfannau.

Ychwanegodd: 鈥'Na gyd ni wedi derbyn yw llythyr. Mae鈥檔 anghywir, nid dyma sut mae trin pobl.鈥

Fe dderbyniodd gymeradwyaeth o鈥檙 siambr ac o鈥檙 galeri wedi iddo siarad.

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 News
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae鈥檙 cyfle i rieni gael gorffwys yn 鈥渉anfodol鈥 yn 么l Georgina Knowles

Yn gynharach eleni fe ddywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn wynebu heriau ariannol wrth iddyn nhw ostwng treth y cyngor i 12.5%.

Dywed Georgina Knowles o Dredeml fod Cyngor Sir Penfro yn blaenoriaethu鈥檙 pethau anghywir.

Mae merch Georgina, Saphire, yn 28 ac yn mynychu Canolfan Ddydd Bro Preseli dair gwaith yr wythnos.

鈥淣i鈥檔 gwybod beth yw blaenoriaethu鈥檔 harian fel mae鈥檙 cyngor yn gwneud.鈥

Ychwanegodd: 鈥淏eth fydden i鈥檔 dweud yw peidiwch a bwrw lawr meysydd parcio sy鈥檔 costio 90 miliwn o bunnoedd a pheidiwch adeiladu pontydd sy鈥檔 costio 6 miliwn o bunnoedd.鈥

Yn 么l Georgina mae鈥檙 cyfle i rieni orffwys yn 鈥渉anfodol鈥.

鈥淥s ti鈥檔 edrych ar 么l rhywun 24 awr o鈥檙 dydd mae鈥檔 werthfawr iawn.鈥

Ychwanegodd: 鈥淒yw'r ferch ddim eisiau eistedd adref gyda鈥檌 mam a鈥檌 thad, mae鈥檔 caru鈥檙 lle.鈥

'Sefyllfa ariannol enbyd'

Doedd yr aelod o鈥檙 cabinet dros ofal cymdeithasol, Tessa Hodgson, ddim am wneud cyfweliad.

Yn y cyfarfod fe ddisgrifiodd hi 鈥渟efyllfa ariannol enbyd鈥 Cyngor Sir Penfro.

Ychwanegodd Ms Hodgson: 鈥淒yma鈥檙 cyfnod anoddaf i mi yn fy saith mlynedd fel aelod cabinet."

Fe ddywedodd bod penderfyniad y cyngor i ostwng treth y cyngor o 16% i 12.5% yn gynharach eleni yn golygu bod rhaid gwneud arbedion.

Clywodd cabinet y cyngor yr wythnos diwethaf fod yr awdurdod yn wynebu bwlch ariannol o 拢32.3m ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2024-5).