麻豆官网首页入口

AS Llafur 'ddim yn gwybod' os fydd Gething yn gallu parhau

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gollodd Vaughan Gething pleidlais o hyder yn y Senedd ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod Llafur o Senedd Cymru wedi dweud nad yw hi鈥檔 gwybod a fydd Vaughan Gething yn gallu parhau fel prif weinidog ar 么l colli pleidlais o hyder ynddo.

Dywedodd Jenny Rathbone, AS dros Ganol Caerdydd, ei bod hi鈥檔 "sefyllfa ansicr iawn a bydd rhaid i ni ddisgwyl a gweld".

Yn siarad ar raglen 麻豆官网首页入口 Radio Wales Drive, dywedodd Ms Rathbone bod enw da'r Senedd mewn perygl a bod derbyn rhodd gan unigolion sydd wedi cael eu canfod yn euog o droseddau amgylcheddol 鈥測n broblem鈥.

Ychwanegodd Ms Rathbone bod y mater wedi cael ei godi wrth ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Daw wrth i 麻豆官网首页入口 Cymru gael gwybod bod y gr诺p Llafur yn y Senedd yn cynnal cyfarfod ddydd Gwener yn sgil anfodlonrwydd ymysg aelodau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jenny Rathbone bod y sefyllfa yn "ansicr iawn"

Fe gollodd Mr Gething bleidlais o hyder ddydd Mercher yn sgil absenoldeb dau aelod Llafur yn y Senedd, Hannah Blythyn a Lee Waters, oherwydd salwch.

Dywedodd Ms Rathbone ei bod hi 鈥渄dim yn gwybod鈥 os fydd Mr Gething yn gallu symud ymlaen o鈥檙 golled: 鈥淢ae鈥檔 anghyfforddus achos 鈥榙a ni i gyd wedi cael ein llusgo mewn iddo."

Ar 么l cael ei holi a oes gan Mr Gething hyder y Senedd, ychwanegodd Ms Rathbone: 鈥淲el, mae e wedi colli鈥檙 bleidlais. Mae hynny ar gofnod yn gyhoeddus.

"Dwi鈥檔 meddwl y byddai'n rhaid i chi gyfeirio eich sylwadau ato fe.鈥

Daeth y bleidlais ar 么l wythnosau o ffraeo, wedi i Mr Gething dderbyn rhodd o 拢200,000 ar gyfer ei ymgyrch arweinyddol gan gwmni a oedd yn cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.

Daeth i'r amlwg ddydd Llun bod y dyn tu 么l i'r rhoddion, David Neal, dan ymchwiliad troseddol pan wnaed y cyfraniad i ymgyrch Mr Gething.

Mae hefyd wedi ei ganfod bod Mr Gething wedi ceisio rhwystro rhyddhau manylion am ei lobio dros un o gwmn茂au Mr Neal.

Mae Mr Gething yn gwadu gwneud unrhyw beth o'i le, gan ddweud ei fod wedi "dilyn pob rheol".

Cyfarfod gr诺p Llafur

Ddydd Iau dywedodd cadeirydd y gr诺p Llafur yn y Senedd ei bod hi'n hyderus y byddai'r aelodau a fethodd y bleidlais wedi ei gefnogi petai modd.

Disgrifiodd AS arall y bleidlais fel "stynt wleidyddol ddi-chwaeth".

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi cael gwybod bod y gr诺p Llafur yn y Senedd yn cynnal cyfarfod ddydd Gwener.

Nid yw'n glir pam bod y cyfarfod wedi ei alw, ond mae rhywfaint o anfodlonrwydd o fewn y gr诺p yn dilyn canlyniad y bleidlais ddydd Mercher.

Mae'r gr诺p fel arfer yn cyfarfod ar ddydd Mawrth, a'r tro diwethaf iddyn nhw gyfarfod ar ddydd Gwener oedd yn sgil diwedd y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar y panel roedd Sioned Williams (chw), Aled Davies, Jane Dodds ac Owain Williams

Yn siarad ar raglen Hawl i Holi Radio Cymru nos Iau, dywedodd Owain Williams ar ran y Blaid Lafur nad yw'n meddwl bydd y bleidlais yn effeithio ar berfformiad Llafur yn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Mr Williams: 鈥淒wi yn credu bod pobl yn eithaf soffistigedig, yn deall fod dewis yn nhermau pwy sydd yn rhif 10 Downing Street, a bod dydd y farn i Lywodraeth Cymru yn dod yn ddigon buan yn 2026.

鈥淒wi鈥檔 credu bydd pobl yn gwahaniaethu rhwng hwnna.鈥

Mae Mr Williams yn credu bod gan Mr Gething "bob cyfle" i arwain Llafur yn etholiadau Senedd Cymru yn 2026.

鈥淵n amlwg os mae o am 鈥榥eud hynna, bydd rhaid i rywbeth newid o ble ydy o heddi.

鈥淢ae rhaid i fe 鈥榥eud rhywbeth, mae rhaid i ni fel plaid wneud rhywbeth i ddangos bod ni鈥檔 clywed y feirniadaeth a bod ni鈥檔 gwrando.鈥

Pynciau cysylltiedig