麻豆官网首页入口

Morgannwg yn dathlu wrth ennill y Cwpan Undydd

MorgannwgFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Morgannwg yn dathlu ar ddiwedd batiad Gwlad yr Haf yn Trent Bridge

  • Cyhoeddwyd

Mae cricedwyr Morgannwg wedi ennill y Cwpan Undydd, gan drechu Gwlad yr Haf yn Trent Bridge yn Nottingham ddydd Llun.

Dyma'r eildro i'r sir o Gymru ennill y gystadleuaeth, wedi iddyn nhw hefyd wneud hynny yn 2021.

Wedi i'r glaw olygu nad oedd modd ei chwarae ddydd Sul, rhoddwyd cynnig arall arni ddydd Llun, gyda'r g锚m wedi'i chwtogi i un 20 pelawd yn hytrach na 50.

Cafodd Morgannwg ddechrau digon sigledig, gan gyrraedd sg么r o 65-4 wedi ychydig dros wyth pelawd.

Ond fe wnaeth pethau wella wedi hynny, gyda Sam Northeast yn serennu gyda sg么r o 63 heb fod allan, wrth i Forgannwg gyrraedd cyfanswm addawol o 186-7 yn eu 20 pelawd nhw.

Roedd y cyfanswm hwnnw yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth i'r Cymry, wrth i Wlad yr Haf orffen ar sg么r o 171-6.

Roedd hynny'n golygu buddugoliaeth o 15 rhediad i Forgannwg.

Pynciau cysylltiedig