麻豆官网首页入口

Y Seintiau i chwarae eu gemau Ewropeaidd yn Amwythig

Croud MeadowFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gemau cartref Y Seintiau Newydd yng Ngyngres UEFA yn cael eu chwarae yn stadiwm Croud Meadow

  • Cyhoeddwyd

Bydd gemau cartref Y Seintiau Newydd yng Nghyngres UEFA yn cael eu chwarae yn Amwythig.

Bydd y clwb o Groesoswallt yn croesawu Djurgarden, Astana a Panathinaikos ar 么l dod y clwb cyntaf o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau - neu rownd y gynghrair fel ydy hi eleni - mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.

Mae stadiwm y Seintiau - Neuadd y Parc - yn cydymffurfio 芒 rheolau UEFA ar gyfer gemau rhagbrofol, ond nid ar gyfer gemau yn y brif gystadleuaeth.

鈥淗offem ddiolch i Amwythig am ganiat谩u i ni gynnal y gemau hanesyddol hyn yn y Croud Meadow,鈥 meddai cadeirydd Y Seintiau Newydd, Mike Harris.

鈥淩ydym yn obeithiol y bydd y gymuned yn dod allan yn llawn i gefnogi'r Seintiau wrth i ni wynebu rhai o glybiau mwyaf y cyfandir.

鈥淏ydd bod mor agos at ein cartref yn Neuadd y Parc yn golygu y gall cefnogwyr o Groesoswallt, y canolbarth, a gogledd Cymru deithio i gefnogi'r t卯m.鈥