Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

All Cymru barhau â'u dechrau perffaith yn erbyn Wcrain?

Disgrifiad,

Angharad James yn edrych ymlaen at ei gêm gyntaf fel capten Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi cael y dechrau perffaith i rowndiau rhagbrofol Euro 2025.

Maen nhw wedi chwarae dwy gêm, ac wedi cael dwy fuddugoliaeth swmpus.

Ar ôl ennill o 4-0 yn erbyn Croatia ar y Cae Ras yn Wrecsam, 6-0 oedd y sgôr yn erbyn Kosovo yn Podujevo.

Be' sydd nesaf i dîm Rhian Wilkinson ydy dwy gêm mewn llai nag wythnos yn erbyn Wcráin - yn gyntaf yn Llanelli nos Wener, gyda'r ail mewn stadiwm niwtral yng Ngwlad Pwyl nos Fawrth.

Mae rhestr detholion y byd yn awgrymu mai'r gemau hyn fydd y rhai anoddaf yn y grŵp i Gymru, gan mai dim ond dau safle sy'n gwahanu'r ddwy wlad.

Mae Cymru yn safle rhif 32 gyda Wcráin yn safle rhif 34.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Cymru yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Croatia

Mae'r rheolwr Rhian Wilkinson wedi gallu dewis ei charfan gryfaf fwy neu lai ar gyfer y ddwy gêm.

Yr unig chwaraewyr sydd ddim ar gael oherwydd anafiadau yw Elise Hughes a Hannah Cain.

Y newyddion da ydy fod yr ymosodwr Carrie Jones a'r golwr Safie Middleton-Patel yn holliach unwaith eto, ac ar gael i chwarae.

Angharad James fydd capten Cymru ar gyfer y gêm nos Wener, gyda Wilkinson dal heb benderfynu pwy fydd yn gwneud y rôl yn barhaol ar ôl i Sophie Ingle gamu lawr fel capten cyn dechrau'r ymgyrch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhian Wilkinson ei phenodi'n rheolwr ar Gymru ym mis Chwefror

"Mae hi'n llawn haeddu'r cyfle," meddai Wilkinson.

"Mae hi'n wych gyda'r chwaraewyr ifanc, ac mae hi'n arweinydd naturiol.

"Mae hi wedi cael gyrfa anhygoel a mae hi wedi bod yn bleser ei gweld hi'n chwarae cystal i Seattle Reign yn yr Unol Daleithiau dros y misoedd diwethaf.

"Yn amlwg mae 'na bosibilrwydd y gall Angharad wneud y rôl yn barhaol, ond dwi ddim eisiau gwneud unrhyw benderfyniad yn rhy sydyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wcráin yn y trydydd safle yn y grŵp rhagbrofol ar ôl dwy gêm

Felly be ydyn ni'n ei wybod am dîm Wcráin?

Ar bapur, nhw ydy'r bygythiad mwyaf i Gymru yn y grŵp, ond fe gafon nhw ganlyniad siomedig yn eu gêm ddiwethaf, yn colli 1-0 yn erbyn Croatia.

Does ganddyn nhw ddim enwau cyfarwydd yn chwarae iddynt, ond mae angen i Gymru fod yn wyliadwrus o Inna Hlushchenko sy'n chwarae yn y llinell flaen.

Dim ond 20 oed ydy hi ond mae hi'n barod wedi creu argraff tra'n chwarae ar y llwyfan rhyngwladol, a hefyd i'w chlwb Nice yn Ffrainc.

Yn wahanol i Gymru mae Wcráin wedi chwarae yn un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol - fe lwyddon nhw i gyrraedd Euro 2009 yn Y Ffindir.

Ond ers hynny tydyn nhw heb ddod yn agos at gyrraedd Euros arall, na Chwpan y Byd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru ar frig y grŵp ar ôl dwy gêm gyntaf yr ymgyrch

Mae hi'n bwysig atgoffa ein hunain o sut mae cyrraedd Euro 2025, achos mae hi'n eithaf cymhleth.

Gan fod Cymru yn yr ail haen (Adran B) does dim modd iddyn nhw gyrraedd y rowndiau terfynol yn awtomatig.

Byddan nhw'n chwarae yn y gemau ail-gyfle os ydyn nhw'n llwyddo i orffen yn y tri safle uchaf yn y grŵp - ac mae hynny'n edrych y debygol yn barod.

Ond er mwyn cael llwybr haws yn y gemau ail-gyfle, mae angen iddyn nhw orffen ar y brig.

Fe awn nhw gam yn nes at wneud hynny gyda dau ganlyniad da dros y dyddiau nesaf.

Bydd y ddwy gêm rhwng Cymru a Wcráin yn fyw ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru a Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Sounds.