麻豆官网首页入口

Ken Owens: 'O'n i methu codi fy mab oherwydd poen'

Ken OwensFfynhonnell y llun, WHISPER/S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ken Owens yn trafod y realiti o fod yn chwaraewr proffesiynol a'r anafiadau y maen nhw'n eu dioddef

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gapten Cymru Ken Owens wedi rhannu effaith anafiadau rygbi ar ei gorff, gan ddweud y bu cyfnodau ble bu'n rhaid iddo gropian ar hyd y llawr, ac nad oedd yn gallu codi ei fab.

Ers dros ddegawd mae Ken Owens, neu'r 'Sheriff', wedi chwarae rhan flaenllaw yn nh卯m rygbi Cymru, ar ac oddi ar y maes.

Wedi ennill 91 o gapiau dros ei wlad, fe gymrodd ran mewn dwy daith gyda'r Llewod a chynrychioli'r Scarlets 274 o weithiau.

Roedd hefyd yn rhan o ddwy garfan a enillodd y Gamp Lawn, pedair carfan a enillodd y Chwe Gwlad, ac fe chwaraeodd mewn tri Chwpan y Byd.

Ond yn sgil anafiadau fe ddaeth ei yrfa i ben ym mis Ebrill, ac fel llawer i chwaraewr rygbi mae'n parhau i ddioddef sgil effeithiau chwarae'r gamp ar y lefel uchaf.

Ffynhonnell y llun, Whisper/S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r rhaglen yn dangos Ken Owens yn derbyn triniaeth yn ei gartref wrth wylio Cymru yng Nghwpan y Byd

Bydd rhaglen ddogfen newydd, fydd yn cael ei dangos nos Sul, yn dilyn Owens ym mlwyddyn olaf ei yrfa cyn iddo gyhoeddi ei ymddeoliad ym mis Ebrill 2024.

Bu'n rhaid iddo fethu ei bedwerydd Cwpan y Byd oherwydd anaf, ac arweiniodd yn y pendraw at ei ymddeoliad ym mis Ebrill 2024.

Mae rhaglen Ken Owens: Y Sheriff, yn dechrau ym Medi 2023, gydag Owens yn brwydro i godi o'i wely a chyflawni pethau syml fel brwsio ei ddannedd.

'Cropian fel babi'

"Fi mewn poen am bron i bedwar mis nawr," meddai yn y rhaglen.

"Weithiau, codi yn y bore a thrio mynd i'r t欧 bach, a ma'n rhaid cropian fel babi.

"Ac ambell waith sai'n cyrraedd y t欧 bach ac mae hynny'n eitha' dramatig.

"Sa'i moyn i bobl deimlo'n sori i fi, ond ie... mae'n agony.

"Mae mam fi'n dod draw i helpu i edrych ar 么l Tal achos sai'n gallu pigo fe lan na phlygu lawr i wneud dim byd rili... ma'n eitha' galed."

Mae Owens wedi cael trafferth i gerdded lawr y grisiau gyda'i fam, Frankie, yn bwydo ei fab chwe mis oed, Talfan.

Yn gwisgo br锚s ar ei gefn mae'n dangos ei dwb o dabledi, gan ddatgan ei rwystredigaeth na all godi ei fab.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ken Owens gyda'i feibion, Efan a Talfan

Mae'r rhaglen hefyd yn dangos Owens ym mis Mehefin 2023 yn cael ei orfodi i hyfforddi ar ben ei hun ar ddiwrnod agoriadol gwersyll Cwpan y Byd Cymru wedi i'w boen cefn ddychwelyd.

Erbyn mis Gorffennaf mae'n yr ysbyty ac yn darganfod fod angen llawdriniaeth arno, gan orfodi iddo fethu Cwpan y Byd.

Yn ddiweddarach dangosir Owens yn eistedd yn ei ystafell fyw yn derbyn drip, cyn gwylio'r golled yn erbyn Ariannin yn rownd yr wyth olaf o'i gartref, wedi iddo gael ei daro gan haint ddeufis ar 么l derbyn y llawdriniaeth.

"Ar ddechrau'r flwyddyn ro'n i'n gapten Cymru, nawr fi'n eistedd yn gwylio Cwpan y Byd, prin yn gallu symud," meddai.

'Oedd e'n ryddhad yn y diwedd'

Ceir cyfraniadau hefyd gan ei gyd-chwaraewyr Jonathan Davies ac Alun Wyn Jones, a'i gyn-hyfforddwyr Warren Gatland, Robin McBryde a Phil Davies a chyfweliadau emosiynol gyda'i wraig Carys a'i rieni Delme a Frankie.

Bydd hefyd yn edrych ar y r么l a chwaraeodd y cyn-fachwr i osgoi streic chwaraewyr cyn g锚m yn erbyn Lloegr ym mis Chwefror 2023 a pha mor agos oedd y g锚m Chwe Gwlad i gael ei ohirio.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Ken Owens: "Mae bywyd wedi bod yn dda - fi mewn safle lot gwell na o'n i.

"Mae dal tamed bach i fynd i fod yn holliach eto ond mae'r mis diwetha' wedi bod yn neis, rhyw fath o ryddhad - 'neud rhai pethau newydd a hala lot o amser da'r teulu."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Owens chwarae 91 o gemau dros Gymru a phum gwaith i'r Llewod yn ystod ei yrfa

Wedi chwarae'n broffesiynol am 20 mlynedd, dywedodd fod y penderfyniad i ymddeol o'r gamp wedi bod yn "un caled, ond ar yr un pryd yn un hawdd" yn sgil ei brofiad dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Ma' fe fel fod y pwysau wedi codi, canolbwyntio ar fod yn holliach a ddim cael y pwysau o ddod yn 么l i chwarae eto.

"Mae pawb wastad moyn y fairytale ending, ond dyw pawb ddim yn cael hwnna, a mae'n rhaid edrych n么l ar beth fi wedi cyflawni a beth wnes i ddim.

"Oedd e'n ryddhad yn y diwedd ond fi'n hapus iawn gyda'r gyrfa fi 'di cael, a jyst edrych mlaen at y bennod nesaf nawr."

Bydd Ken Owens: Y Sheriff ar S4C nos Sul, 2 Mehefin am 21:00. Bydd modd hefyd ei wylio ar alw ar 麻豆官网首页入口 iPlayer.