麻豆官网首页入口

Hanes yr anthem genedlaethol

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty

Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n gwybod y geiriau - ond beth ydyn yn ei wybod am ein hanthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau?

Cafodd hi ei chyfansoddi yn nhref Eisteddfod Genedlaethol 2024 - Pontypridd - yn 1856.

Evan James ysgrifennodd y geiriau a'i fab, James James, gyfansoddodd yr alaw.

Enw gwreiddiol yr emyn d么n oedd Glan Rhondda.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Plac i gofio am James James ac Evan James

Cafodd hi ei pherfformio gyntaf ym Maesteg yn 1856 gan ferch 16 oed o Bontypridd o'r enw Elisabeth John.

Madge Breese oedd yn ei chanu pan gafodd hi ei recordio yn Llundain yn 1899.

Mae rhai pobl yn meddwl fod y geiriau yn neges i frawd Evan James sydd wedi gadael Cymru am fywyd gwell yn America.

Mae'n atgoffa ei frawd o bwysigrwydd yr iaith i'r wlad.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Pontypridd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llawysgrif o'r anthem o 1856

Mae'n debyg fod t卯m a chefnogwyr rygbi Cymru wedi canu Hen Wlad Fy Nhadau cyn chwarae yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerdydd yn 1905 mewn ymateb i'r Haka.

Dyma'r tro cyntaf erioed i anthem genedlaethol gael ei chanu cyn digwyddiad chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y b锚l rygbi o'r g锚m rhwng Cymru a Seland Newydd yn 1905

Roedd Hen Wlad Fy Nhadau a God Save The Queen yn cael eu chwarae cyn bob g锚m b锚l-droed a rygbi ryngwladol yng Nghymru tan ganol yr 1970au.

Ydych chi'n gwybod y geiriau i'r anthem genedlaethol?

Disgrifiad,

Hen Wlad Fy Nhadau

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,

Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;

Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra m芒d,

Tros ryddid gollasant eu gwaed.

Cytgan:

Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,

Tra m么r yn fur i'r bur hoff bau,

O bydded i'r heniaith barhau.

Geirfa

cenedlaethol/national

cyfansoddi/to compose

alaw/melody

emyn d么n/hymn tune

perfformio/to perform

neges/message

atgoffa/to remind

pwysigrwydd/importance

llawysgrif/manuscript

cefnogwyr/supporters

yn erbyn/against

mewn ymateb/in response

digwyddiad/event

rhyngwladol/international

cymhleth/complicated