麻豆官网首页入口

Car yn taro trwy wal ystafell fyw bloc o fflatiau

Y car a'r difrod i'r fflatFfynhonnell y llun, Murkage
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Swyddogion t芒n yn asesu'r sefyllfa wedi i'r Nissan Qashqai glas fynd i mewn i ystafell fyw llawr gwaelod y fflatiau

  • Cyhoeddwyd

Mae car wedi taro trwy wal bloc o fflatiau yng Nghasnewydd i mewn i ystafell fyw.

Bu'n rhaid i rai o breswylwyr y fflatiau symud i lety dros dro yn dilyn y digwyddiad yn Heol Gaer brynhawn Mawrth.

Mae lluniau a gafodd eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos y Nissan Qashqai glas yn yr adeilad a'r gwasanaethau brys yn asesu'r sefyllfa.

Roedd car arall yn rhan o'r digwyddiad - mae'r lluniau'n dangos difrod i gefn y cerbyd hwnnw.

Dywedodd Heddlu Gwent na chafodd unrhyw un eu hanafu, ond bod dyn oedd yn yr adeilad wedi cael ei gymryd i'r ysbyty fel cam rhagofalus.

Cafodd peirianwyr strwythurol Cyngor Casnewydd eu hanfon i'r fflatiau i archwilio'r adeilad.

Swyddogion y gymdeithas dai Cartrefi Dinas Casnewydd oedd yn gyfrifol am drefnu llety ar gyfer y preswylwyr sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi dros dro.

Roedd criwiau t芒n ac achub, swyddogion Heddlu Gwent a swyddogion diogelwch hefyd yn rhan o'r ymateb.

Pynciau cysylltiedig