Methiant TVR yn rhan o 'batrwm siomedig' Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Penderfynnodd perchnogion newydd TVR i beidio adeiladu'r ceir yng Nglyn Ebwy
  • Awdur, Huw Thomas
  • Swydd, Gohebydd Busnes

Mae methiant Llywodraeth Cymru i ddenu cwmni ceir TVR i Lyn Ebwy yn rhan o 鈥渂atrwm siomedig鈥, yn 么l cadeirydd un o bwyllgorau dylanwadol Senedd Cymru.

Dywedodd Mark Isherwood AS, sy鈥檔 cadeirio鈥檙 pwyllgor cyfrifon cyhoeddus a gweinyddiaeth gyhoeddus, ei fod yn pryderu am 鈥渙rwariant sylweddol鈥 wrth geisio denu鈥檙 cwmni.

Mae鈥檙 archwilydd cyffredinol wedi rhybuddio y gallai trethdalwyr fod ar eu colled o filiynau o bunnau ar 么l i鈥檙 gwneuthurwr ceir benderfynu peidio ag adeiladu鈥檙 TVR Griffith yn ne Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod TVR wedi ad-dalu benthyciad, a bod eu polis茂au wedi bod yn 鈥渉ynod lwyddiannus鈥 wrth ddenu busnesau i Gymru.

Pan ddechreuodd Llywodraeth Cymru ar eu hymgais i ddenu TVR i Gymru yn 2016 fe wnaethon nhw fuddsoddi 拢500,000 yn y cwmni newydd oedd yn bwriadu ailddechrau cynhyrchu鈥檙 brand eiconig.

Rhoddwyd benthyciad o 拢2m i鈥檙 cwmni tuag at y gost o ddatblygu cerbyd prototeip, ac yn ddiweddarach cafodd adeilad yng Nglynebwy ei brynu a'i adnewyddu er mwyn cynhyrchu鈥檙 ceir.

Fe gostiodd yr adeilad 拢4.75m i'w brynu a 拢7.6m ychwanegol i'w adnewyddu, gyda鈥檙 bwriad o鈥檌 osod ar delerau masnachol i TVR.

Ond erbyn dechrau 2024 roedd TVR wedi ad-dalu'r benthyciad gyda llog, ac wedi dweud na fyddai'n cynhyrchu ceir yng Nghymru.

Dywedodd Mark Isherwood ei bod yn ymddangos fod hwn yn rhan o 鈥渂atrwm ailadroddus, patrwm siomedig, o fuddsoddiadau proffil-uchel鈥 nad oedd wedi sicrhau canlyniad positif i drethdalwyr.

Ffynhonnell y llun, TVR

Disgrifiad o'r llun, Roedd TVR i fod i adeiladu'r Griffith yng Nghymru yn sgil y cytundeb gyda llywodraeth Cymru

Fel cadeirydd y pwyllgor mae Mr Isherwood yn craffu ar benderfyniadau gwariant y llywodraeth, a dywedodd y byddai鈥檔 archwilio'r cytundeb gyda TVR ar 么l yr haf.

鈥淢ae鈥檔 fwy na siomedig bod 鈥榥a gyfres o fuddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru, neu ddefnydd o adnoddau cyhoeddus, i ddenu busnesau i Gymru gyda鈥檙 addewid o fwy o swyddi a thwf economaidd.

鈥淟le mae hynny wedi methu 芒 chael ei gyflawni, mae鈥檔 rhaid cael cydbwysedd rhwng denu busnesau i Gymru, rhywbeth rydyn ni i gyd eisiau ei weld, a鈥檙 risgiau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 hynny,鈥 ychwanegodd Mr Isherwood.

Mewn llythyr at y pwyllgor ym mis Gorffennaf dywedodd yr archwilydd cyffredinol, Adrian Crompton, fod rhaid i Lywodraeth Cymru benderfynu naill ai os oedd am werthu'r safle yng Nglyn Ebwy ar golled, neu ei brydlesu gyda鈥檙 gobaith o adennill eu harian.

Amlinellodd y camau gwnaeth swyddogion eu cymryd er mwyn lleihau鈥檙 risg i drethdalwyr cyn arwyddo鈥檙 cytundeb gyda TVR.

Disgrifiad o'r llun, Mae adeilad TVR bellach yn cael ei farchnata o dan yr enw T欧 Technoleg y Cymoedd

Os oedd y llywodraeth am werthu鈥檙 adeilad, mae ganddo werth o tua 拢7.5m, a fyddai鈥檔 cynrychioli colled o 拢4.85m yn erbyn costau prynu ac adnewyddu鈥檙 safle.

Os oedd y llywodraeth am ei brydlesu, fe allai gynhyrchu rhwng 拢7m ac 拢11m i鈥檙 trethdalwr dros 10 i 15 mlynedd, meddai.

Ond dywedodd Mr Crompton mai'r gost wreiddiol i adnewyddu鈥檙 adeilad oedd 拢6.06m, ond bod hynny wedi codi i 拢7.6m.

Ar 么l derbyn llythyr yr archwilydd, dywedodd Mark Isherwood wrth 麻豆官网首页入口 Cymru fod hwn yn cynrychioli 鈥済orwariant sylweddol鈥 ac y byddai ei bwyllgor yn ei archwilio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ei pholisi o ddarparu adeiladau wedi bod yn 鈥渉ynod lwyddiannus鈥 wrth ddenu cwmn茂au i Gymru.

鈥淢ae鈥檔 ddull sy鈥檔 parhau i ddarparu miloedd o swyddi da, buddsoddiad sylweddol a chyfleoedd cadwyn gyflenwi sylweddol ledled Cymru,鈥 meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Chris Sutton fod polisi adeiladu ac adnewyddu y llywodraeth yn hanfodol i'r economi

Mae鈥檙 llywodraeth yn parhau i fod 芒 buddsoddiad yn y cwmni, a dywedodd y llefarydd fod yr adeilad ar ei newydd wedd yng Nglyn Ebwy 鈥測n gyfle gwych i unrhyw fusnes gaffael cyfleuster gweithgynhyrchu modern yn y rhanbarth.鈥

Bellach mae adeilad TVR yn cael ei farchnata dan yr enw T欧 Technoleg y Cymoedd, ac mae 麻豆官网首页入口 Cymru ar ddeall ei fod wedi denu diddordeb gan nifer o ddarpar feddianwyr ers iddo gael ei farchnata.

Gerllaw yng Nglyn Ebwy mae adeilad diwydiannol arall o safon uchel, o'r enw Rhyd-y-Blew, gafodd ei adeiladu gan Lywodraeth Cymru ac sydd bellach yn aros am denant.

Mae busnes lleol gyda diddordeb cryf i adleoli yno.

'Angen adeiladau modern, newydd'

Er y feirniadaeth gan y pwyllgor, mae arbenigwyr ym maes adeiladu a busnes yn cefnogi polisi Llywodraeth Cymru o adeiladu ac adnewyddu eiddo ar gyfer y sector breifat.

鈥淢ae datblygu eiddo, safleoedd ac adeiladau yn rhan o鈥檙 amgylchedd busnes,鈥 meddai鈥檙 syrf毛wr siartredig Chris Sutton.

鈥淵 broblem yw, nid yw鈥檔 economaidd i gwmn茂au eu hadeiladu, felly mae angen cefnogaeth y sector cyhoeddus,鈥 meddai.

Dywedodd fod Blaenau鈥檙 Cymoedd yn llawn adeiladau diwydiannol oedd wedi鈥檜 hariannu gan yr hen Awdurdod Datblygu Cymru ac sydd bellach yn agos谩u at 鈥渄diwedd eu hoes economaidd.鈥

Mae angen adeiladau 鈥渕odern, newydd,鈥 meddai Mr Sutton. 鈥淢ae adeiladau Gradd A yn denu meddianwyr Gradd A.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae TVR bellach wedi penderfynnu lleoli'r brand yn Thruxton, Hampshire

Mae'r safonau adeiladu sydd wedi鈥檜 dilyn gan Lywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael 芒'r prinder adeiladau diwydiannol da, dywedodd Mr Sutton.

鈥淢ae maint y gost o adnewyddu adeilad TVR鈥 yn adlewyrchu maint y broblem sydd gennym ni鈥 o ran diffyg adeiladau o safon uchel, meddai.

Dyw TVR heb ymateb i gais am sylw, ond mae鈥檙 cwmni eisoes wedi cadarnhau eu bod wedi ad-dalu ei fenthyciad o 拢2m i Lywodraeth Cymru ynghyd 芒鈥檙 llog.

Fe wnaeth y cmwni gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023 y byddai鈥檔 lleoli ei hun yn Thruxton yn Hampshire, a dywedodd yr archwilydd cyffredinol fod y cwmni wedi cadarnhau i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024 nad oedd bellach am brydlesu鈥檙 ffatri neu leoli ei hun yng Nghymru.