Dynes, 57, wedi marw ar 么l cael ei chanfod yn y m么r

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Llanduno am 03:00 fore Iau

Mae dynes 57 oed a gafodd ei chanfod yn y m么r oddi ar yr arfordir yn Llandudno wedi marw yn yr ysbyty.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal ychydig cyn 03:00 ddydd Iau.

Roedd hofrennydd yr heddlu, Gwylwyr y Glannau a'r RNLI yn rhan o'r ymgyrch ac fe gafodd y ddynes ei chanfod yn y d诺r yn fuan wedyn.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor ble bu farw.

鈥淒yw amgylchiadau'r farwolaeth ddim yn cael eu trin fel rhai amheus ac mae'r crwner wedi cael gwybod am yr achos," meddai'r Ditectif Arolygydd Kris Williams.

Ychwanegodd bod 鈥渆in meddyliau gyda theulu'r ddynes", sy'n derbyn cymorth gan swyddogion heddlu.