麻豆官网首页入口

Awstralia v Cymru: Gatland yn dewis t卯m ifanc i wynebu'r Wallabies

Ben ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ben Thomas wedi chwarae 78 o weithiau i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd canolwr Caerdydd, Ben Thomas yn dechrau yn safle'r maswr i Gymru am y tro cyntaf yn y g锚m brawf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Bydd asgellwr 20 oed Caerloyw, Josh Hathaway yn ennill ei gap cyntaf, a bydd prop Caerfaddon, Archie Griffin yn dechrau g锚m i'w wlad am y tro cyntaf.

Y bachwr Dewi Lake fydd capten Cymru, tra bod disgwyl i Aaron Wainwright ennill ei 50fed cap yn erbyn y Wallabies yn Sydney.

Mae Awstralia wedi dewis t卯m eithaf dibrofiad ar gyfer y prawf cyntaf, gyda'r blaenasgellwr Liam Wright wedi ei ddewis fel capten.

Bydd sylwebaeth fyw o'r g锚m brawf ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, gyda'r rhaglen yn cychwyn am 10.30 fore Sadwrn.

Bydd Thomas, 25, yn dechrau g锚m ryngwladol am y tro cyntaf ddydd Sadwrn wrth iddo gymryd lle Sam Costelow fel maswr.

Dyw Thomas ond wedi dechrau un g锚m fel maswr i'w glwb y tymor hwn, gan chwarae gan amlaf fel canolwr.

Ellis Bevan, mewnwr Caerdydd, fydd yn dechrau yn y crys rhif naw wedi iddo ennill ei gap cyntaf yn y golled o 41-13 yn erbyn De Affrica fis diwethaf.

Liam Williams fydd yn dechrau fel cefnwr gyda Hathaway a Rio Dyer wedi eu dewis ar yr esgyll.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Josh Hathaway, 20, wedi cynrychioli timau ieuenctid Cymru a Lloegr

Cafodd Hathaway, gafodd ei eni yn Aberystwyth, ei gynnwys yn y garfan hyfforddi ar gyfer gemau prawf yr haf ond doedd o ddim ar gael i chwarae yn y golled i'r Springboks gan ei fod yn chwarae i glwb yn Lloegr.

Mae o wedi cynrychioli timau dan-20 Cymru a Lloegr, ond mae Cymru yn awyddus i'w berswadio i wisgo'r crys coch ar 么l i Immanuel Feyi-Waboso, oedd mewn sefyllfa debyg, benderfynu cynrychioli Lloegr.

Mason Grady ac Owen Watkin fydd y canolwyr, gyda Nick Tompkins wedi ei gynnwys ar y fainc.

Fe fydd y prop pen-tynn Archie Griffin, gafodd ei eni yn Sydney, yn dechrau g锚m brawf am y tro cyntaf, tra bod Christ Tshiunza wedi ei ddewis yn yr ail reng gyda Dafydd Jenkins.

Aaron Wainwright fydd yn dechrau yn safle'r wythwr, ac mae'n un o dri - ynghyd 芒 Liam Williams a Gareth Thomas - wnaeth chwarae yn y fuddugoliaeth o 40-6 yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Fe fydd Dillon Lewis a Ben Carter yn methu'r g锚m oherwydd anafiadau.

Dadansoddiad prif sylwebydd rygbi 麻豆官网首页入口 Cymru, Cennydd Davies

Mae鈥檔 dipyn o stori o ran Josh Hathaway - gwr yn hanu o Aberystwyth ac oedd wedi鈥檌 ddatblygu yn system ieuenctid Cymru - ond oedd y llynedd yn cynrychioli t卯m dan-20 Lloegr yn erbyn Cymru ym Mae Colwyn ag yntau yn ei chwarae ei rygbi yng Nghaerloyw.

Mae ei ddyrchafiad i鈥檙 t卯m cenedlaethol wedi bod yn ddramatig ac annisgwyl ond wedi Immanuel Feyi Waboso benderfynu dewis Lloegr yn hytrach na Chymru cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad,聽roedd 'na deimlad mae鈥檔 si诺r yng nghefn meddwl Warren Gatland i sicrhau nad oedd hanes yn ail adrodd ei hun.

Ar wah芒n i Hathaway鈥檔 ennill ei gap cyntaf, y prif bennawd yw cynnwys Ben Thomas o Gaerdydd fel maswr.

Does dim dwywaith fod Thomas yn chwaraewr talentog a chreadigol, ond mi fydd hi鈥檔 dipyn o fedydd tan i rhywun fuodd yn y crys rhif deg unwaith yn unig y llynedd.

Y tro diwethaf i鈥檙 ddau d卯m yma gyfarfod cafodd y Wallabies ei sgubo o鈥檙 neilltu wrth I Gymru daro deugain yng Nghwpan y Byd yn Lyon, ond er bod Awstralia wedi cyrraedd y dyfnderoedd o dan Eddie Jones, fydd t卯m o dan hyfforddiant Joe Schmidt yn debygol o fod yn dalcen tipyn anoddach.

Mae 'na bwysau ar Gymru a Gatland heb yr un fuddugoliaeth ers Hydref y llynedd, ac er mai adeiladu at y dyfodol yw鈥檙 thema cyson does dim argoel yn bresennol o unrhyw gynnydd ar waith!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe enillodd Cymru o 40-6 y tro diwethaf iddyn nhw wynebu Awstralia

Mae Cymru wedi colli saith g锚m yn olynol ers trechu Georgia yng Nghwpan y Byd, a heb ennill yn erbyn y Wallabies yn Awstralia ers 1969.

Joe Schmidt yw prif hyfforddwr Awstralia erbyn hyn, ar 么l i Eddie Jones adael y r么l.

Mae'r t卯m cartref wedi dewis t卯m eithaf dibrofiad ar gyfer y prawf cyntaf hefyd, gyda'r canolwr Josh Flook a'r clo Jeremy Williams i ennill eu capiau cyntaf.

Dywedodd Warren Gatland fod y paratoadau ar gyfer y g锚m wedi mynd yn dda, a'u bod yn edrych ymlaen at yr her.

Y timau yn llawn

Cymru: Liam Williams; Josh Hathaway, Owen Watkin, Mason Grady, Rio Dyer; Ben Thomas, Ellis Bevan; Gareth Thomas, Dewi Lake (capten), Archie Griffin, Christ Tshiunza, Dafydd Jenkins, Taine Plumtree, Tommy Reffell, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Evan Lloyd, Kemsley Mathias, Harri O'Connor, Cory Hill, James Botham, Kieran Hardy, Sam Costelow, Nick Tompkins.

Awstralia: Tom Wright; Andrew Kellaway, Josh Flook, Hunter Paisami, Filipo Daugunu; Noah Lolesio, Jake Gordon; James Slipper, Matt Faessler, Taniela Tupou, Jeremy Williams, Lukhan Salakaia-Loto, Liam Wright (capten), Fraser McReight, Rob Valetini.

Eilyddion: Billy Pollard, Isaac Kailea, Allan Alaalatoa, Angus Blyth, Charlie Cale, Tate McDermott, Tom Lynagh, Dylan Pietsch.