Cyhuddo dyn o geisio llofruddio ym Mhen-y-bont

Disgrifiad o'r llun, Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Wildmill y dref nos Lun

Mae dyn 34 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn ardal Wildmill y dref.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar stad Tairfelin am 22:30 nos Lun yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol.

Mae menyw a gafodd ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau yn parhau yno ac mewn cyflwr sefydlog.

Fe wnaeth Darren Brown ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Mercher wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.

Mae Heddlu De Cymru'n parhau i apelio am wybodaeth.