Cymeradwyo cynlluniau dadleuol canolfan antur Bae Ceibwr

Disgrifiad o'r llun, Mae Bae Ceibwr wedi ei leoli o fewn ardal cadwraeth arbennig

Mae cynlluniau dadleuol ar gyfer sefydlu hwb antur newydd yn Sir Benfro wedi cael eu cymeradwyo gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Roedd cwmni Adventure Beyond, sy'n cynnig tripiau arfordira a chaiacio ym Mae Ceibwr, wedi gwneud cais i godi adeilad deulawr newydd ym mhentref Trewyddel.

Ond roedd gwrthwynebwyr yn honni y byddai nifer yr ymwelwyr yn cynyddu, a'u bod nhw eisoes yn tarfu ar adar a bywyd gwyllt yr ardal.

Ym Mhwyllgor Datblygu Awdurdod y Parc ddydd Mercher fe gafodd y cais s锚l bendith ar yr amod ei fod yn cydymffurfio ag amodau o ran dyluniad, amwynder a diogelwch priffyrdd.

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r safle mae Adventure Beyond am ei ddatblygu ym mhentref Trewyddel

Mae鈥檙 amodau鈥檔 cynnwys camau i warchod y bywyd gwyllt cyfagos fel morloi llwyd sydd yn dra niferus yn yr ardal.

Mae'r argymhellion yn cynnwys osgoi gweithgareddau mewn rhai ardaloedd o'r bae yn ystod tymhorau penodol, a chyflwyno mesurau i atal problemau carthffosiaeth a rheolaeth traffig.

Disgrifiad o'r llun, Arforgampau ym Mae Ceibwr

Ym mis Awst fe ddywedodd ymgyrchwyr wrth y 麻豆官网首页入口 fod arforgampau yn niweidiol i adar sy'n nythu, ac y bydden nhw'n "hoffi gweld Ceibwr yn cael ei gadw'n wyllt".

Dywedodd cynghorydd cymunedol Nanhyfer a Threwyddel, Richard George, wrth y cyfarfod bod yr adeilad 8.3m ar gyfer y ganolfan newydd yn "rhy uchel".

Ychwanegodd nad yw鈥檔 credu y byddai'r ganolfan yn 鈥渃yfrannu'n gadarnhaol i gymeriad yr ardal gerllaw鈥.

Clywodd y cyfarfod fod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon, gydag amodau, fod y cynnig yn cydymffurfio 芒 pholis茂au Cynllunio Cenedlaethol a Lleol perthnasol a鈥檌 fod yn dderbyniol o ran dyluniad, amwynder a diogelwch priffyrdd.

Dywedwyd hefyd nad oedd yr Awdurdod Priffyrdd wedi gwrthwynebu'r cynnig a'u bod yn ystyried bod y trefniadau mynediad a pharcio ar gyfer y safle yn dderbyniol - - gyda'r amodau angenrheidiol.

Disgrifiad o'r llun, Roedd arwyddion yn gwrthwynebu'r cais wedi cael eu codi yn Nhrewyddel

Mewn cyfarfod llawn o鈥檙 aelodau, roedd y ddadl ar gyfer y ganolfan antur yn cynnwys sylwadau ar ba mor fanteisiol oedd y math 鈥減oblogaidd鈥 hwn o dwristiaeth i'r ardal.

Mae Jet Moore o gwmni Adventure Beyond wedi dweud yn y gorffennol ei bod hi'n bosib na fyddai'r safle - fydd yn cael ei ddefnyddio i gadw offer a cherbydau ar gyfer gweithgareddau'r cwmni - ar gael yn fuan.

Dywedodd mai'r safle arfaethedig - hen ganolfan fysiau - yw "yr unig safle masnachol addas i ni drosglwyddo ein gweithrediadau".

Fe fydd yna 10 o lefydd parcio, gyda chyfleusterau newid ac ymolchi ar y safle.

Dywedodd y cwmni mewn datganiad ddydd Mercher eu bod "wrth ein bodd ein bod wedi cael caniat芒d cynllunio".

"Ein gweledigaeth wastad fu gwella鈥檙 gymuned trwy ddarparu cyfleusterau gwell sy鈥檔 cefnogi gweithgareddau awyr agored tra鈥檔 parchu a chadw harddwch naturiol a bywyd gwyllt yr ardal.

"Edrychwn ymlaen at weithio鈥檔 agos gyda鈥檙 gymuned leol a rhanddeiliaid wrth i ni symud ymlaen, gan sicrhau bod y datblygiad yn dod 芒 buddion cadarnhaol i drigolion ac ymwelwyr."