麻豆官网首页入口

Rheolau llymach ar ail dai a llety gwyliau yng Ngwynedd

Protest ail dai
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cartrefi i bobl leol a thai haf wedi bod yn bwnc llosg yng Ngwynedd ers blynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi cefnogi cynllun i鈥檞 gwneud yn orfodol i sicrhau caniat芒d cynllunio cyn gallu troi t欧 yn ail gartref neu lety gwyliau.

Gyda'r bwriad o geisio rheoli effaith ail gartrefi ar gymunedau yn y sir, fe gefnogodd y cabinet y cynllun yn unfrydol i newid y broses gynllunio, sy鈥檔 cael ei adnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, o 1 Medi 2024.

Fe gafodd awdurdodau ledled Cymru ragor o bwerau gan y llywodraeth i reoli'r nifer o ail gartrefi yn Hydref 2022, a Gwynedd fydd y cyngor cyntaf i fanteisio ar y grymoedd hynny.

Ond mae 'na wrthwynebiad i鈥檙 cynllun hefyd, gyda rhai yn dweud y bydd eu tai yn werth llai o arian os fyddan nhw eisiau gwerthu.

Ni fydd y penderfyniad yn effeithio ar gymunedau o fewn ardal Parc Cenedlaethol Eryri, ond mae awdurdod y parc yn ymgynghori ar gyflwyno mesurau tebyg o fewn ffiniau鈥檙 parc.

Mae'r newid yn golygu y bydd gan yr awdurdod yr hawl i fynnu fod perchnogion eiddo yn cael caniat芒d cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.

Ond ni fyddai angen caniat芒d i droi ail gartref neu lety gwyliau yn brif annedd.

Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Gwynedd brynhawn Mawrth yn dilyn proses ymgynghori.

Ond er bod Erthygl 4 yn cael ei gefnogi gan rai, mae hefyd wedi denu beirniadaeth.

Mae gwrthwynebwyr wedi codi arian i ddechrau her gyfreithiol, ac mae鈥檔 bosib y gall y gwaith papur gael ei gyflwyno cyn gynted 芒 ddydd Mawrth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig fod yna "argyfwng tai" yn y Sir

Dywedodd y cynghorydd Dafydd Meurig, sy'n gyfrifol am bortffolio amgylchedd y cyngor, fod 65% o drigolion Gwynedd wedi鈥檜 prisio allan o鈥檙 farchnad dai.

鈥溾楧a ni gyd yn gwybod fod problem tai yma ers blynyddoedd lawer, mae鈥檔 argyfwng.鈥

Ychwanegodd fod dros 2,000 o geisiadau ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, sy鈥檔 cynrychioli 4,500 o unigolion, a bod 800 wedi cofrestru gyda鈥檙 cynllun Tai Teg i geisio sicrhau t欧 fforddiadwy.

Fe wnaeth proses ymgynghori ddenu bron i 4,000 o ymatebion o blaid ac yn erbyn y mesurau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae sawl protest wedi cael ei chynnal yn erbyn ail gartrefi a llety gwyliau

Yn 么l y cynghorydd, Dilwyn Morgan roedd rhai ymatebion yn dangos 鈥渄iffyg dealltwriaeth o鈥檙 pwnc鈥.

Roedd rhai, fel rhan o鈥檙 ymgynghoriad, wedi honni fod y mesurau yn 鈥渕ynd yn groes i hawliau dynol鈥, ond dywedodd swyddogion ei fod yn ymgais i 鈥渞eoli ein stoc dai sy'n diflannu'n flynyddol鈥.

Dywedodd y swyddog cynllunio, Gareth Jones, mai鈥檙 bwriad oedd 鈥済warchod cymunedau Gwynedd鈥 a 鈥渄iwallu anghenion tai pobl leol鈥, ond mai nid y bwriad oedd 鈥渁tal datblygu鈥檔 lleol鈥.

Roedd swyddogion hefyd yn hyderus na fyddai鈥檙 mesurau yn cael effaith andwyol ar allu pobl i sicrhau morgeisi, gan ddweud dim tystiolaeth wedi dod i law i gefnogi ofnau o鈥檙 fath.

Clywodd cynghorwyr for mesurau Erthygl 4 eisoes wedi鈥檜 defnyddio yn Lloegr i reoli defnydd Tai Aml Feddiannaeth (HMO鈥檚), a doedd dim tystiolaeth o effaith andwyol ar argaeledd morgeisi yno ychwaith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mared Llywelyn yn ofni y bydd "ein cymunedau ni yn cael eu colli am byth" heb newid

Mae cartrefi i bobl leol a鈥檙 farchnad tai haf wedi bod yn bwnc llosg yng Ngwynedd ers blynyddoedd.

Mae Mared Llywelyn, cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, o blaid gweld pobl yn gorfod cael caniat芒d cynllunio os am newid defnydd t欧 yn ail gartref neu'n llety gwyliau.

"Mae o鈥檔 mynd i fod yn un arf arall i allu lliniaru鈥檙 broblem," meddai.

"'Da ni wedi gweld y cynnydd yn y premiwm treth cyngor - 'di hynny ar ei ben ei hun ddim yn ddigon.

"Mi oedden ni'n galw o鈥檙 cychwyn am roi cap ar yr ail dai, a mae erthygl pedwar yn un ffordd o ganiat谩u i ni allu gwneud hynny.

"Dwi wedi sylwi bod 'na lot mwy o dai ar werth r诺an oherwydd y cynnydd yn y premiwm treth cyngor.

"Yn amlwg mae prisiau tai yn dal yn rhy uchel i bobl leol fedru fforddio nhw.

"Mae hynny yn mynd i gymryd blynyddoedd si诺r o fod i allu gweld ei effaith o."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Map yn dangos canran yr ail gartrefi mewn gwahanol ardaloedd o Wynedd

Ychwanegodd Ms Llywelyn fod "tensiwn" rhwng pobl leol a pherchnogion ail gartrefi a llety gwyliau.

"Mae鈥檙 argyfwng [tai] dal r'un fath ers tair neu bedair blynedd.

"Mae 65% o bobl Gwynedd yn methu fforddio tai yn lleol a dwi鈥檔 meddwl bod hynny yn adrodd cyfrolau, a mi ydan ni鈥檔 cael ein gwthio i鈥檙 ymylon.

"Ella 'sa rhai o鈥檙 bobl o鈥檙 ochr arall yn dweud bod nhw'n cael eu gwthio o'ma gan Erthygl 4 neu鈥檙 treth cyngor, ond be' am y bobl leol sy鈥檔 byw 'ma?

"Mae鈥檔 anodd... mae 'na densiwn yn lleol yn sicr rhwng pobl leol a'r bobl sydd piau ail dai a busnesau yma.

"Mae o鈥檔 bwnc anodd ond mae鈥檔 rhaid i ni weithredu i reoli鈥檙 broblem yma neu mi fydd ein cymunedau ni yn cael eu colli am byth - ein hiaith a phob dim sy鈥檔 annwyl i ni yma."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae prinder tai i bobl leol wedi bod yn fater amlwg iawn ym Mhen Ll欧n

Ond nid pawb sy'n gefnogol o'r cynlluniau, a'r cynghorydd John Brynmor Hughes - sy鈥檔 cynrychioli Abersoch a Llanengan ar Gyngor Gwynedd - ydy un o'r rheiny.

Mae o'n teimlo ei bod hi bellach yn "rhy hwyr" am gynllun o'r fath, ac y byddai'n cael effaith negyddol ar brisiau tai pobl leol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae John Brynmor Hughes yn dadlau y byddai Erthygl 4 yn taro prisiau tai pobl leol

"'Da ni wedi gollwng y ceffylau, dim o鈥檙 stabl, dim o鈥檙 coral ond o鈥檙 prairie - mae鈥檔 rhy hwyr bellach," meddai.

"Mae Abersoch wedi cael cynlluniau i godi tai haf, a dyna be ydy o - pentref tai haf o bentref bach pysgota.

"Dwi鈥檔 wrthwynebus [o Erthygl 4]. Dio鈥檓 yn mynd i effeithio'r rheiny sydd wedi cael caniat芒d, wedi bod yn gosod tai neu Airbnb yn barod.

"Mae鈥檙 wraig wedi ei magu a byw yn y t欧 'ma erioed, a dywedwch bod ni isio gwerthu, mae'n gostwng pris y t欧 yn enfawr, a dim jyst i ni.

"Pobl ifanc lleol sydd efo morgais. Beth sydd yn digwydd pan maen nhw鈥檔 ail-wneud y morgais?

"Ydyn nhw鈥檔 mynd i gael un ydy鈥檙 cwestiwn mawr - ella bydd ganddyn nhw negative equity."

Pynciau cysylltiedig