Adroddiad deifiol o'r sgowtiaid ar 么l cwest y Gogarth

Disgrifiad o'r llun, Roedd Ben Leonard wedi derbyn ei ganlyniadau TGAU ddyddiau cyn y digwyddiad

Mae crwner wedi galw Cymdeithas y Sgowtiaid yn "anonest ac amddiffynnol" yn dilyn cwest i farwolaeth bachgen fu farw ar y Gogarth yn Llandudno yn 2018.

Mae David Pojur, crwner cynorthwyol gogledd-ddwyrain Cymru, yn bryderus y bydd mwy o farwolaethau os na fydd Cymdeithas y Sgowtiaid yn delio gyda鈥檜 methiannau.

Roedd Mr Pojur yn ymateb yn dilyn y cwest i farwolaeth y sgowt 16 oed, Ben Leonard, fu farw ar 么l cael anaf difrifol i鈥檞 ben pan gwympodd 200 troedfedd oddi ar glogwyn ar y Gogarth yn 2018.

Roedd ar daith gyda'r Reddish Explorer Scouts o Stockport ar y pryd, ac yn sgil "methiannau sylweddol" wrth drefnu'r daith honno, fe ddaeth y rheithgor i鈥檙 casgliad ei fod wedi cael ei ladd yn anghyfreithlon.

Dywedodd Cymdeithas y Sgowtiaid eu bod eisoes "wedi dechrau gweithio ar ein hymateb i argymhellion y crwner".

Disgrifiad o'r llun, Roedd Ben Leonard yn cerdded ar Y Gogarth pan ddisgynnodd i'w farwolaeth fis Awst 2018

Yn 么l David Pojur 鈥渄oes dim diwylliant o onestrwydd a diffuantrwydd鈥 o fewn yr elusen.

Ychwanegodd: 鈥淢ae datganiad i'r wasg Cymdeithas y Sgowtiaid o fewn eiliadau i gasgliad y rheithgor yn dangos eu methiant i dderbyn unrhyw atebolrwydd a deall a dysgu un rhywbeth priodol o farwolaeth Ben.

"Mae Cymdeithas y Sgowtiaid yn amddiffynnol yn sefydliadol."

Ail adroddiad beirniadol

Mae鈥檙 adroddiad Atal Marwolaethau'r Dyfodol wedi鈥檌 anfon at Gymdeithas y Sgowtiaid, eu hyswirwyr, gweinidogion addysg yng Nghymru a Lloegr, Comisiynwyr Plant Cymru a Lloegr, y Comisiwn Elusennau a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Dyma鈥檙 eildro i'r crwner gyhoeddi adroddiad i farwolaeth Ben Leonard.

Roedd cwest yn Chwefror 2020 wedi dod i ben am resymau cyfreithiol, ac roedd 20 o ofynion wedi鈥檜 cyfeirio at Gymdeithas y Sgowtiaid bryd hynny yn ymwneud 芒 diogelwch, gweinyddu ac ymddygiad.

Roedd yn rhybuddio y gellid gweld mwy o farwolaethau oni fyddai鈥檙 methiannau hyn yn cael ei datrys.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Ben ar daith gyda'r Reddish Explorer Scouts o Stockport ar y pryd

Mae鈥檙 adroddiad hwn, yn dilyn y trydydd cwest, yn feirniadol tu hwnt o Gymdeithas y Sgowtiaid ac yn cynnig cyfarwyddiadau manwl ar hyfforddiant, atebolrwydd a rheoli diogelwch yn y dyfodol.

Mae gan Gymdeithas y Sgowtiaid a鈥檙 sefydliadau eraill tan 18 Ebrill i ymateb yn swyddogol i鈥檙 adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Sgowtiaid: "Mae t卯m o staff a gwirfoddolwyr wedi dechrau gweithio ar ein hymateb i argymhellion y crwner.

"Bydd monitro gweithredol gan is-bwyllgor o ymddiriedolwyr a goruchwyliaeth gan ein bwrdd llawn.

"Bydd y bwrdd ymddiriedolwyr llawn hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu鈥檔 llawn am y cynnydd, ac i gymeradwyo fersiwn terfynol o ymateb y gymdeithas."