麻豆官网首页入口

Cymru'n teithio i Wlad yr I芒 yn targedu buddugoliaeth

Craig BellamyFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae arwyddion eisoes y bydd Cymru'n chwarae p锚l-droed ymosodol dan arweiniad Craig Bellamy

  • Cyhoeddwyd

Bydd t卯m p锚l-droed dynion Cymru'n herio Gwlad yr I芒 yn Reykjav铆k nos Wener, wrth i garfan Craig Bellamy geisio parhau gyda'r dechrau addawol i'w hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Yng ngemau cyntaf y rheolwr newydd wrth y llyw fis diwethaf fe gafodd Cymru g锚m gyfartal gyda Thwrci yng Nghaerdydd, cyn trechu Montenegro oddi cartref.

Mae hynny'n golygu fod Cymru yn yr ail safle yng Ngr诺p B ail haen Cynghrair y Cenhedloedd, ar yr un nifer o bwyntiau 芒 Thwrci sydd ar y brig.

Mae pedair g锚m eto i chwarae yn yr ymgyrch, ond roedd cefnogwyr yn falch o'r chwarae ymosodol a welwyd gan d卯m Bellamy yn y gemau cyntaf hynny fis diwethaf.

Wedi'r g锚m yng Ngwlad yr I芒 bydd Cymru'n croesawu Montenegro i Gaerdydd nos Lun.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Joe Allen ddychwelyd i'r cae ymarfer gyda Chymru yr wythnos hon

Mae ambell enw mawr yn absennol ar gyfer y ddwy g锚m yma, gydag Aaron Ramsey, Ethan Ampadu, Daniel James a Rabbi Matondo allan gydag anafiadau.

Ond mae un enw cyfarwydd iawn yn dychwelyd, wedi i Joe Allen newid ei benderfyniad i ymddeol o b锚l-droed rhyngwladol.

Mae rhagor o chwaraewyr wedi'u cynnwys am y tro cyntaf dan y rheolwr newydd hefyd, gyda Rhys Norrington-Davies yn y garfan am y tro cyntaf ers dwy flynedd oherwydd anafiadau, a David Brooks, Wes Burns a Nathan Broadhead yn holliach wedi anafiadau hefyd.

Mae un chwaraewr sydd ar d芒n i'w glwb yn y garfan hefyd - Brennan Johnson, sydd wedi sgorio yn y chwe g锚m ddiwethaf i Tottenham Hotspur.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Brennan Johnson wedi creu argraff ar y lefel uchaf dros yr wythnosau diwethaf

Ond nid felly mae hi i bawb o'r chwaraewyr, gyda sawl aelod o'r garfan prin wedi chwarae i'w clybiau hyd yma'r tymor hwn, yn enwedig yn yr Uwch Gynghrair.

O'r 25 chwaraewr yn y garfan, mae naw yn chwarae i glybiau yn Uwch Gynghrair Lloegr, ond dim ond Johnson ac amddiffynnwr Nottingham Forest Neco Williams sydd wedi bod yn dechrau gemau yn rheolaidd.

Un esiampl amlwg ydy Harry Wilson - a sgoriodd g么l wych yn y fuddugoliaeth ym Montenegro fis diwethaf - sydd wedi chwarae dim ond 36 munud i Fulham yn y gynghrair ers dechrau'r tymor.

Ond mae Bellamy wedi dweud nad yw hynny yn ei boeni, gan obeithio y bydd hynny'n golygu eu bod yn ffres i Gymru, ac ychwanegodd fod y Bencampwriaeth - ble mae mwyafrif y garfan yn chwarae - yn gynghrair gref hefyd.

Wedi'r cyfnod rhyngwladol yma, bydd gemau nesaf Cymru fis Tachwedd, pan fyddan nhw'n herio Twrci oddi cartref a Gwlad yr I芒 yng Nghaerdydd yng ngemau olaf yr ymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd.