麻豆官网首页入口

Talu 拢500 y flwyddyn am docyn bws ysgol yn 'hollol warthus'

Beca EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Beca Evans yn dweud fod hi'n fater o "postcode lottery" i dderbyn trafnidiaeth am ddim yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae mam disgybl chweched dosbarth yng Nghaerdydd yn dweud bod gorfod talu 拢500 y flwyddyn am le ar fws ysgol i'w merch yn "hollol warthus".

Dywedodd Beca Evans, sy'n byw yn ardal Grangetown, fod y sefyllfa yn achosi "straen enfawr" a'i fod yn waeth i rai teuluoedd yr ardal "ddifreintiedig" honno.

Mae'n dweud fod angen cysoni'r taliadau teithio i ddisgyblion chweched dosbarth ar draws Cymru.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw wedi canfod bod gwahaniaeth mawr ledled Cymru, gyda nifer o siroedd yn cynnig trafnidiaeth am ddim.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod disgyblion chweched dosbarth sydd ar incwm isel yn gymwys i 拢40 yr wythnos fel rhan o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gan ddweud fod 拢10 o'r swm i fynd tuag at gostau teithio.

Mae ond yn orfodol i awdurdodau lleol ddarparu bws am ddim i'r rheiny sy'n gymwys.

Mae'n rhaid i gynghorau sir ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf.

Ond dyw disgyblion addysg 么l-16 ddim yn gymwys, ac felly dewis yr awdurdodau lleol yw penderfynu sut maen nhw'n delio 芒 hynny.

Fe wnaeth 麻豆官网首页入口 Cymru Fyw holi holl siroedd Cymru i weld beth yw鈥檙 t芒l maen nhw鈥檔 ei godi am 'sedd wag' ar fws ysgol i ddisgyblion chweched dosbarth y sir.

O'r 19 wnaeth ymateb, dywedodd 12 sir eu bod yn cynnig 'sedd wag' yn ddi-d芒l yn dilyn proses ymgeisio, tra bod sedd wag i ddisgybl chweched yng Nghaerdydd yn costio 拢500 y flwyddyn.

Cafodd Beca Evans wybod bod yn rhaid iddi dalu 拢500 os yw ei merch - Martha - eisiau lle ar fws i'r ysgol.

Er i gerdyn bws ei merch arall, sydd yn yr un ysgol, gyrraedd drwy'r post cyn dechrau'r tymor, doedd dim s么n am gerdyn bws Martha, a oedd yn dechrau yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Cafodd wybod y byddai鈥檔 rhaid iddi wneud cais am 'sedd wag' ar y bws am fod blaenoriaeth i blant iau yr ysgol, sy'n rheswm digon "rhesymol" meddai Beca.

Yna cafodd wybod y byddai鈥檔 rhaid iddi dalu 拢500 os oedd yn dymuno cael sedd i鈥檞 merch ar y bws.

"Dyle fod y cyngor yn hybu addysg bellach, yn cefnogi rhieni i anfon eu plant i'r chweched dosbarth," meddai.

Ychwanegodd fod angen cysoni'r taliadau ar draws Cymru, gan ddweud ei fod yn fater o "postcode lottery" i dderbyn trafnidiaeth am ddim.

'Barus tu hwnt'

Gyda'i merch arall yn defnyddio'r bws yn rheolaidd, dywedodd ei bod yn ymwybodol o lefydd gwag ar y bws.

Ychwanegodd: "Mae'n teimlo'n farus tu hwnt i fi gan fod y bws yna yn cael ei ddarparu ta beth, dyw e ddim yn costio unrhyw beth yn ychwanegol i'r Cyngor.

"Mae 拢500 yn lot fawr o arian, yn enwedig nawr gyda phethau mor anodd i deuluoedd, ac mae 拢500 i bobl sy'n dod o'r ardaloedd yma yn benodol hyd yn oed yn anoddach."

Dywedodd nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol y byddai'n gallu ei ddefnyddio fel trafnidiaeth i'r ysgol, gan ychwanegu y bydd yn rhaid i'w merch gerdded tipyn i ddal y bws neu'r dr锚n agosaf.

Dywedodd fod y sefyllfa yn "straen enfawr" arni hi a'i theulu.

"Mae'r gaeaf yn dod nawr, ma' hyd yn oed yn mynd i fod yn anoddach. Dwi ddim eisiau fy merch 16 oed yn gorfod cerdded y strydoedd ar ei phen ei hun am 20 munud neu hanner awr i ddal bws."

Mae'n awyddus i weld newid am ei fod yn "ymarferol rili rili anodd ar y funud".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae merched Beca Evans yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod disgyblion chweched dosbarth sydd ar incwm isel yn gymwys i 拢40 fel rhan o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gan ddweud fod 拢10 o'r swm i fynd tuag at gostau teithio.

Dywedon nhw fod "trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg gan Cardiff Bus rhwng Grangetown ac Ysgol Glantaf lle mae gan y disgyblion opsiwn i brynu tocyn wythnos am 拢12".

Maen nhw hefyd yn cydnabod fod modd talu'r swm o 拢500 mewn rhannau, gan dalu 拢50 y mis sydd gyfystyr 芒 thua 拢12 yr wythnos.

Pwy sy'n gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim?

Yn 么l Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol:

  • "ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol gynradd sy'n byw 2 filltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf;

  • "ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf.鈥

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi "nad oes rheidrwydd ar awdurdodau lleol i ariannu cludiant ar gyfer dysgwyr 么l-16 ond gallant ystyried hyn yn 么l disgresiwn".

Er hyn, gall myfyrwyr 么l-16 fod yn gymwys i gael cludiant am ddim os ydyn nhw:

  • dros 16 oed, yn astudio yn eich ysgol leol ac yn teithio dros bellter penodol i gyrraedd yno;

  • rhwng 16 a 19 oed ac yn astudio'n llawn amser mewn coleg addysg bellach;

  • yn 19 oed neu'n h欧n neu'n astudio'n rhan-amser.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "er nad oes dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr 么l-16 mewn addysg bellach neu hyfforddiant prif ffrwd" fod yna "ystod o gynlluniau yn cynnig pris gostyngedig a thrafnidiaeth am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru".