Milwyr o Gymru'n rhan o ymarferion Nato yn Ewrop

Disgrifiad o'r llun, Dyma ymarferion mwyaf Nato ar gyfandir Ewrop ers blynyddoedd
  • Awdur, Gwyn Loader
  • Swydd, Newyddion S4C

Yn nwyrain Ewrop, mae milwyr o Gymru ymysg lluoedd Nato sydd yn cynnal eu hymarferion mwyaf ar y cyfandir mewn cenhedlaeth.

Mae tua 600 o filwyr catrawd y Cymry Brenhinol yn rhan o'r ymarfer yng Ngwlad Pwyl, sy'n cael ei gyfeirio ato fel Exercise Immediate Response.

Y bwriad yw dangos gallu'r gwahanol luoedd i gydweithio ac ymateb i fygythiad yn gyflym.

Disgrifiad o'r llun, "'Da ni鈥檔 barod am beth bynnag sy鈥檔 mynd i ddigwydd yn y dyfodol," medd Terry Francis

鈥淒yw hi ddim yn gyfrinach pam bo' ni yma鈥 meddai鈥檙 Uwch-sarjant Terry Francis.

Wrth gael ei holi a fyddai鈥檙 fyddin yn barod i ymateb petai Rwsia yn ymosod ymhellach i鈥檙 dwyrain nag Wcr谩in, dywedodd "dyma pam 鈥榙a ni yma, dyma pam ein bod ni鈥檔 ymarfer".

"Maen nhw鈥檔 medru gweld pam ddyla' nhw ddim bygwth dod atom ni.

"'Da ni鈥檔 gwybod pam bod ni yma, 'da ni鈥檔 gwybod beth ydyn ni鈥檔 ei wneud gyda鈥檙 Americanwyr, gyda Gwlad Pwyl, gyda Nato gyfan.鈥

Ychwanegodd: 鈥溾楧a ni鈥檔 barod am beth bynnag sy鈥檔 mynd i ddigwydd yn y dyfodol.鈥

Gyda鈥檙 rhyfel yn Wcr谩in yn parhau, a rhethreg gwrth-orllewinol rheolaidd yn dod o Moscow, mae cynnal ymarfer mwyaf Nato yn Ewrop ers diwedd y rhyfel oer yn arwyddocaol.

Ddydd Mawrth, dechreuodd Vladimir Putin ar bumed tymor fel arlywydd Rwsia.

Mewn araith, dywedodd fod gwledydd y gorllewin yn 鈥減arhau i fygwth鈥 y ffordd Rwsiaidd o fyw.

Nododd hefyd y byddai'n 鈥済oresgyn pob rhwystr鈥 i sicrhau bod Rwsia yn 鈥渆nnill鈥.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Edward Willcox mai'r nod yw "arddangos ei gallu fel cynghrair amddiffynnol"

Doedd prif swyddog catrawd y Cymry Brenhinol, Edward Willcox, ddim yn awyddus i drafod Rwsia.

"Fyddai hi ddim yn iawn ohona'i i ddweud nad yw鈥檙 ymarferion yma鈥檔 digwydd yng nghyd-destun y rhyfel yn Wcr谩in, ond nid dyna yw pwrpas yr ymarfer.

"Dwi鈥檔 credu mai pwrpas yr ymarfer yw - fel mae Nato wedi ei wneud erioed - defnyddio ymarferion caled i arddangos ei gallu fel cynghrair amddiffynnol.

鈥淥s ydyn ni, drwy hynny, yn rhoi sicrwydd i bobl bod Nato mor gryf a galluog ag yr oedd hi erioed, mae hynny鈥檔 beth da.鈥

'Mae e bob tro yng nghefn y pen'

Ynghyd 芒鈥檙 milwyr rheolaidd, mae rhai milwyr wrth gefn hefyd yn rhan o鈥檙 ymarferion yng Ngwlad Pwyl.

Ac wrth gael eu hanfon i wlad sydd yn ffinio gydag Wcr谩in, mae rhai yn meddwl am yr hyn allai ddigwydd petai Vladimir Putin yn troi ei olygon ymhellach i鈥檙 gorllewin.

Peiriannydd yng ngorsaf niwclear Trawsfynydd yw Peredur Jones o ran ei waith o ddydd i ddydd - ond ar hyn o bryd, mae yng Ngwlad Pwyl gyda milwyr wrth gefn eraill.

鈥淢ae e bob tro yng nghefn y pen [y gallech chi gael eich anfon i ryfel]," meddai wrth Newyddion S4C, 鈥渙nd 鈥榤a gennym ni d卯m da, 鈥榙a ni鈥檔 cael training da.

"Mae鈥檔 rhoi asgwrn cefn i ni, y ffaith bo' ni鈥檔 gwybod beth sydd yn mynd ymlaen. Mae hynny鈥檔 beth da.鈥

Erbyn diwedd y mis, bydd y Cymry Brenhinol wedi gadael Gwlad Pwyl, ond mae ymarferion Nato yn Ewrop, ar garreg drws Rwsia, yn parhau.