麻豆官网首页入口

Cyhuddo Llafur o 'anwybyddu' aelodau Cymreig

Torsten BellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prif Weithredwr y Resolution Foundation, Torsten Bell sydd wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd Llafur ar gyfer sedd Gorllewin Abertawe.

  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau Llafur mewn un etholaeth Gymreig yn cyhuddo鈥檜 plaid o鈥檜 hanwybyddu a gorfodi ymgeisydd 鈥渙鈥檙 tu allan" ar etholaeth Gymreig.

Ddydd Gwener, cadarnhaodd Llafur mai Torsten Bell, Prif Weithredwr y Resolution Foundation, fydd ei hymgeisydd ar gyfer sedd Gorllewin Abertawe.

Dywedodd un aelod lleol wrth 麻豆官网首页入口 Cymru y byddai鈥檔 鈥測styried ei aelodaeth鈥 yn sgil y penderfyniad, ac mae eraill yn dweud y bydd y penderfyniad yn cael effaith ar yr ymgyrch.

Ond dywedodd Llafur Cymru fod y penderfyniad wedi鈥檌 wneud gan banel 鈥渁 ffurfiwyd gan gynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith Llafur Cymru ac aelodau lleol".

Aeoldau lleol yn 'siomedig'

Cafodd cyn Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Abertawe, Geraint Davies, ei wahardd rhag sefyll yn yr etholaeth y tro hwn gan fod ymchwiliad yn parhau i鈥檞 ymddygiad.

Torsten Bell yw Prif Weithredwr y felin drafod economaidd y Resolution Foundation, a chyn hynny roedd yn ymgynghorydd arbennig i Alistair Darling tra oedd yn Ganghellor Llafur.

Dywedodd Mr Bell ei fod yn 鈥渆drych ymlaen at fod yn ymgeisydd Llafur Cymru dros Orllewin Abertawe ac i fod yn ymgyrchu dros y Blaid Lafur ar ei newydd wedd gyda Keir Starmer".

Ond mae aelodau lleol Gorllewin Abertawe wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru eu bod yn 鈥渄dig鈥 ac yn 鈥渟iomedig鈥 芒'r penderfyniad.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth y DU/PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Abertawe, Geraint Davies, wedi cael ei wahardd rhag sefyll

Dywedodd un aelod lleol ei fod bellach yn "cwestiynu fy aelodaeth o'r blaid. Rwy'n gandryll".

"Mae'r blaid yn anwybyddu yr aelodaeth graidd.

"Mae gyda ni ddarpar ymgeiswyr da iawn sy'n byw ac yn gweithio yma yn Abertawe, sydd wedi gyrru Abertawe drwy gyfnod anodd dros ben yn y 14 mlynedd diwethaf.

"Mae gweld y blaid yn parasiwtio rhywun i mewn yn fy ngwneud i鈥檔 flin dros ben."

Dywedodd aelod lleol arall o鈥檙 blaid wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ei fod yn 鈥渟iomedig nad yw鈥檙 ymgeisydd wedi鈥檌 ddewis gan Banel [Plaid Lafur yr Etholaeth] yng Ngorllewin Abertawe ac nad oes ganddo unrhyw gysylltiad hysbys ag Abertawe.

"Mae鈥檔 ymgeisydd sydd wedi dod o鈥檙 tu allan, a byddai鈥檔 well pe bai gyda ni rywun sy鈥檔 adnabod Abertawe ac sy鈥檔 gwybod beth sydd ei angen ar Abertawe.鈥

Effaith ar yr ymgyrch leol?

Rhybuddiodd aelod arall y gallai鈥檙 penderfyniad gael effaith ar ymgyrchu gan aelodau lleol, mewn etholaeth sy'n cael ei hystyried yn sedd Lafur diogel.

鈥淏ydd rhywun o'r tu allan sy'n cael ei barasiwtio i mewn yn gwneud pobl yn ddig iawn.

"Mewn ardal fel hon, mae cysylltiadau lleol yn bwysig iawn. Ni yw aelodau lleol y blaid a dydyn ni ddim yn cael unrhyw lais wrth ddewis ein Haelod Seneddol.鈥

Dywedodd un arall bod hi'n ymddangos 鈥渘ad yw Llafur Prydain yn poeni am yr hyn r鈥檡n ni [aelodau lleol] yn ei feddwl.鈥

Roedd y cyn-Aelod Seneddol, Geraint Davies, wedi cynrychioli鈥檙 sedd ers 14 mlynedd, gan ennill gyda mwyafrif o 8,116 yn Etholiad Cyffredinol 2019.

Ond mae Mr Davies wedi鈥檌 wahardd rhag sefyll yn yr etholiad hwn gan ei fod wedi鈥檌 wahardd o鈥檙 blaid, yn dilyn cyhuddiadau o 鈥測mddygiad cwbl annerbyniol".

Dywed Mr Davies nad yw'n cydnabod yr honiadau yn ei erbyn ac mae wedi beirniadu'r Blaid Lafur am yr amser mae hi wedi cymryd i ymchwilio i'r achos.

Wrth bostio ar X, dywedodd Mr Davies ei fod 鈥渨edi cael fy atal flwyddyn yn 么l, yn dilyn honiadau dienw a bostiwyd ar y cyfryngau".

"Rwy鈥檔 siomedig nad wyf eto wedi cael gwrandawiad gan y Blaid Lafur a鈥檙 cyfle i glirio fy enw.鈥

Ymgeisydd gyda 'chyfoeth o brofiad'

Mae Llafur hefyd wedi cyhoeddi mai pennaeth materion cyfreithiol y Blaid Lafur Prydeinig, Alex Barros-Curtis, fydd eu hymgeisydd ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd , ar 么l i鈥檙 cyn-AS Kevin Brennan gyhoeddi y byddai鈥檔 rhoi鈥檙 gorau iddi yn yr etholiad hwn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru eu bod yn "falch iawn o gyhoeddi'r ddau ymgeisydd gwych鈥 ac y byddan nhw鈥檔 "gynrychiolwyr rhagorol鈥 dros eu hetholaethau.

鈥淩ydym yn falch, er gwaethaf y broses gyflym, i鈥檙 paneli gael eu ffurfio gan gynrychiolwyr o Bwyllgor Gwaith Cymru ac aelodau lleol.

鈥淢ae Torsten yn dod 芒 chyfoeth o brofiad ym maes polisi economaidd a mynd i鈥檙 afael 芒 thlodi plant.

"Fe fydd yn bencampwr go iawn i Orllewin Abertawe.

鈥淢ae gan Alex brofiad cyfreithiol helaeth ac mae鈥檔 ymgyrchydd dros faterion cyfiawnder cymdeithasol.鈥

Y rhestr o ymgeiswyr sydd wedi'u datgan ar gyfer etholaeth Gorllewin Abertawe yw:

Llafur - Torsten Bell

Ceidwadwr - Tara-Jane Sutcliffe

Plaid Cymru - Gwyn Williams

Democratiaid Rhyddfrydol - Mike O鈥機arroll

Reform - Patrick Benham-Crosswell

Y Blaid Werdd - Peter Jones

Y rhestr o ymgeiswyr sydd wedi datgan ar gyfer etholaeth Gorllewin Caerdydd yw:

Llafur - Alex Barros-Curtis

Ceidwadwr 鈥 James Roberts Hamblin

Plaid Cymru - Kiera Marshall

Democratiaid Rhyddfrydol - I'w gadarnhau

Reform - Peter Hopkins

Y Blaid Werdd - Jess Ry

Plaid Gweithwyr Prydain - Akil Kata

Pynciau cysylltiedig