Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Sut wnaeth y Cymry yng Ngemau Olympaidd Paris 1924?
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae’r Gemau Olympaidd yn dechrau yn Paris ar 26 Gorffennaf.
Union ganrif yn ôl, roedd y gemau yn yr un ddinas.
Yr hanesydd chwaraeon, Dr Meilyr Emrys oedd yn siarad ar raglen Aled Hughes ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru am hanes y Cymry oedd ar dîm Prydain yng ngemau 1924.
Roedd gan Prydain un o’r timau mwyaf yn 1924, gyda 267 o athletwyr. Dim ond naw ohonyn nhw oedd yn Gymry.
Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf. Wnaeth nifer ddim mynd i’r Gemau Olympaidd byth eto.
Y naw oedd:
- Paul Radmilovic (polo dŵr)
- Horace Debenham (rhwyfo)
- William Randall (codi pwysau)
- Stanley Leigh, Ernest Leigh, Thomas Hopkins (gymnasteg)
- David Lewis, Philip Griffiths, Enoch Jenkins (saethu).
Yn anffodus, wnaeth neb ennill medal.
Roedd Paul Radmilovich wedi ennill pedair medal aur mewn Gemau Olympaidd cyn 1924 – yr unig Gymro erioed i ennill pedair medal Olympaidd. Ond collodd tîm polo dŵr Prydain yn y rownd gyntaf yn Paris.
Daeth Horace Debenham a thîm rhwyfo wyth dyn Prydain yn agos, gan ddod yn bedwerydd.
Dyma oedd ail dro Enoch Jenkins yn y Gemau. Roedd rhaid iddo aros 28 o flynyddoedd i gystadlu eto, yn Helsinki yn 1952! Enoch Jenkins oedd hen ewythr y chwaraewyr rygbi, Neil Jenkins.
Roedd yna hefyd athletwyr gyda chysylltiad Cymreig.
Cafodd y chwaraewr tenis, Maxwell Woosnam, ei eni yn Lerpwl, ond roedd ganddo gysylltiadau agos gyda chanolbarth Cymru - roedd ei deulu yn dod o ³Û²õ³Ùâ»å Cenllysgwynne ger Llanfair ym Muallt.
Ond er fod Woosnam wedi ennill medal aur ac arian yng ngemau 1920, wnaeth o ddim ennill yn 1924.
Mae’r ffilm Chariots of Fire yn adrodd stori llwyddiant dau redwr o Brydain yng Ngemau Olympaidd 1924, ac roedd un ohonyn nhw yn hanner Cymro!
Cafodd mam Harold Abraham ei geni ym Merthyr Tudful. Enillodd Abraham y ras 100m – y Prydeiniwr cyntaf i wneud hynny – ac ennill medal arian yn y ras gyfnewid 4x100m.
Eleni mae 31 athletwr (a thri eilydd) o Gymru yn rhan o dîm Prydain – gobeithio y bydd mwy o fedalau yn dod yn ôl adref eleni.
Pob lwc!
Geirfa
canrif/century
hanesydd/historian
athletwyr/athletes
cystadlu/to compete
rhwyfo/rowing
codi pwysau/weightlifting
saethu/shooting
ennill/to win
pedwerydd/fourth
hen ewythr/great uncle
cysylltiad/connection
canolbarth Cymru/mid Wales
²â²õ³Ùâ»å/estate
llwyddiant/success
rhedwr/runner
ras gyfnewid/relay race
eilydd/substitute